Angen ymyriadau gwell i daclo problemau iechyd meddwl plant dan ofal, meddai’r arbenigwyr

Bydd cefnogaeth well ar gyfer iechyd meddwl plant a phobl ifanc dan ofal yn bwysicach nag erioed yn sgil argyfwng COVID-19, dywed ymchwilwyr

Mae Dr Rhiannon Evans o Brifysgol Caerdydd yn arwain astudiaeth newydd a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd (NIHR), sy’n ymchwilio i sut ellid gwella lles plant dan ofal. Mae gwaith ymchwil blaenorol i’r maes hwn yn dangos bod plant a phobl ifanc dan ofal bedair gwaith yn fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl a phum gwaith yn fwy tebygol o fod wedi ceisio lladd eu hunain.

Meddai Dr Evans, o’r Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Mae plant a phobl ifanc dan ofal ymhlith y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, ond yn aml gallai fod prinder cefnogaeth ar eu cyfer. Mae COVID-19 wedi creu hyd yn oed mwy o ansicrwydd, ac mae pryderon y gallai awdurdodau lleol orfod lleihau rhai darpariaethau statudol wrth geisio cynnal diogelwch a safonau.

Mae’r digwyddiadau diweddar hyn yn tanlinellu’r angen am gwestiynau ynghylch sut gallwn ddiogelu iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd dan ofal, yn ogystal ag atal hunan-niweidio a hunanladdiad.’

Rhiannon Evans

Bydd yr astudiaeth, ar y cyd ag academyddion ym Mhrifysgol Caerwysg a Phrifysgol Bangor, yn casglu tystiolaeth ryngwladol bresennol ynghyd er mwyn asesu pa gynlluniau a ddefnyddiwyd mewn lleoedd eraill a allai gael eu mabwysiadu yn y DU. Mae’r mathau o ymyriadau y gellir eu hystyried yn cynnwys datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol, hyfforddiant ar gyfer gofalwyr maeth, neu ddatblygu ymagwedd ymhlith timau gwaith cymdeithasol sy’n deall natur trawma.

Mae’r tîm hefyd yn gweithio’n agos gyda phobl ifanc a gofalwyr yn y DU i bennu beth fydd yn gweithio orau yn eu cymunedau yn eu tyb nhw.

Dywedodd Maria Boffey, o’r Rhwydwaith Maethu, sy’n cydweithio ar yr astudiaeth: “Mae’r Rhwydwaith Maethu wedi hen alw am fwy o ganolbwyntio ar iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc dan ofal, yn ogystal â buddsoddi ar eu cyfer. Mae ansawdd y gefnogaeth briodol ar gyfer iechyd meddwl, ynghyd â mynediad ati, yn rhywbeth y mae ein haelodau gofal maeth yn dweud wrthym yn aml ei bod yn anghyson neu ddim ar gael.

“Felly, rydym wir yn croesawu’r ymchwil hon sy’n ystyried yr ymyriadau gorau ar gyfer iechyd meddwl a lles, ac yn enwedig y pwyslais ar wneud yn siŵr bod safbwyntiau a phrofiadau gofalwyr maith a phobl ifanc sydd (wedi bod) dan ofal, wrth wraidd yr ymchwil.”

Ychwanegodd Dr Evans: “Nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith ehangach yr ymateb i COVID-19 ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Dim ond drwy ymchwil drylwyr y gallwn ddeall yn well sut i helpu’r rheiny sydd dan ofal ar ôl y cyfnod anarferol hwn.”

Bydd Astudiaeth CHIMES, Ymyriadau i wella deilliannau iechyd meddwl a lles ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, i ben yn 2022.

Erthygl gan Prifysgol Caerdydd.

Dewislen