Mynd i'r cynnwys
Home » Ar Y Trywydd Cywir

Ar Y Trywydd Cywir

  • Flog

Ar 11 Mawrth 2021 lansiwyd adroddiad gwerthuso annibynnol prosiect Pathfinder, a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerdydd. Y prosiect oedd y fenter newid-systemau gyntaf i ddod ag arfer da cenedlaethol ynghyd o ran ymateb i gam-drin domestig ar draws yr economi iechyd. Yn y blog hwn, mae’r gwerthuswr a’r cyflwynydd Dr Kelly Buckley yn trafod y digwyddiad.

Dr Kelly Buckley

Hyd yn oed cyn i ni ddechrau gwerthuso Pathfinder, roeddem ni’n edrych ymlaen at ei gyflwyno i’r byd. Roeddem ni’n gwybod bod gan y prosiect y potensial i newid ymateb y system iechyd i ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin domestig, ac y byddai ein hadroddiad gwerthuso’n cynnwys dysgu allweddol a fyddai’n helpu llunwyr polisïau, comisiynwyr a gweithwyr proffesiynol mewn gwasanaethau iechyd a cham-drin domestig arbenigol i gyflawni hyn. Ar ôl gweithio ym maes cam-drin domestig ers deng mlynedd, fe wn i faint mae gweithwyr proffesiynol a chomisiynwyr yn gwerthfawrogi ymchwil gadarn sy’n dangos gwerth eu gwaith, yn enwedig ymyraethau mewn lleoliadau iechyd lle mae angen data i annog pawb i weld bod cam-drin domestig yn fater iechyd cyhoeddus, sydd angen buddsoddiad fel rhan o fusnes craidd y GIG. Wrth ysgrifennu ein hadroddiad roeddem ni’n ofalus i sicrhau ein bod yn cynrychioli’r holl weithwyr proffesiynol yn briodol, ond yn bwysicach yr holl ddioddefwyr-oroeswyr fu’n ddigon caredig i rannu eu profiadau gyda ni fel rhan o’r ymchwil.

Pan wahoddwyd yr Athro GJ Melendez-TorresBethan Pell a fi i gyflwyno canfyddiadau terfynol ein hadroddiad mewn lansiad ar-lein ar 11 Mawrth 2021, nid dyma oedden ni wedi’i ddychmygu: roedd ein cynlluniau mawreddog ar gyfer lansio wyneb yn wyneb (a gadewch i ni fod yn onest, mae pawb yn gweld eisiau’r te, coffi a chacennau am ddim a’r sgwrsio yn y digwyddiadau hyn!) wedi gorfod symud i’r byd rhithwir, fel cynifer o ddigwyddiadau eraill. Ond gwisgom ni ein dillad gorau, gwneud ein gwallt a pharatoi ein cefndiroedd zoom i arddangos ein hadroddiad i’r ‘ystafell’ o gyfranogwyr oedd yn awyddus i glywed ein canfyddiadau.

Hanfod ymyrraeth Health Pathfinder yw gwella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a sgiliau gweithwyr iechyd proffesiynol a’r systemau y mae’r gweithwyr hyn yn gweithio oddi mewn iddynt.’

Cydlynwyd y digwyddiad gan Gonsortiwm Pathfinder o sefydliadau cam-drin domestig oedd wedi cydlynu’r ymyrraeth: Cydsefyll a gynhaliodd y digwyddiad a chadeiriodd Donna Covey o AVA yn gelfydd ac yn frwd. Siaradodd Nicole Jacobs, Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr yn gyntaf gan amlinellu nod a chwmpas cynllun Health Pathfinder, a’r rôl allweddol yn trawsnewid yr ymateb iechyd i gam-drin domestig wrth adnabod a chefnogi dioddefwyr-oroeswyr. Siaradodd yn angerddol am botensial y prosiect i sbarduno ymateb system iechyd gyfan i gam-drin domestig a’r budd i ddioddefwyr-oroeswyr pe bai cam-drin domestig yn cael ei ystyried yn fusnes craidd y GIG. Rhoddodd Nicole y cyflwyniad perffaith i helpu i osod ein canfyddiadau yn eu cyd-destun ac amlinellu pam fod y gwasanaeth iechyd mor bwysig wrth adnabod a chefnogi dioddefwyr-oroeswyr, a sut mae arnom ni ymateb iechyd priodol i’r holl ddioddefwyr-oroeswyr.

GJ, Bethan, Kelly Covey yn cyflwyno

Er mwyn osgoi diflastod ‘blinder zoom’, dim ond 90 munud oedd hyd y digwyddiad, oedd hefyd yn cynnwys cyflwyniad am brosiect cysylltiedig gan Sandi Dheesa yn edrych ar yr ystyriaethau ynghylch nodi cam-drin domestig ar gofnodion iechyd. Roeddem ni am neilltuo amser digonol ar gyfer panel holi ac ateb ar y diwedd, felly roedden ni wynebu’r her o gyflwyno prif negeseuon adroddiad enfawr mewn llai na 20 munud. GJ arweiniodd y gwerthusiad, a dechreuodd drwy amlinellu’r cwestiynau allweddol: beth yw Health Pathfinder, beth a gyflawnwyd, sut oedd yn gweithio, sut brofiad oedd ei weithredu a sut mae symud ymlaen?

Fel man cychwyn ar gyfer y gwerthusiad, datblygon ni fodel rhesymeg, oedd yn ein helpu i fapio elfennau niferus yr hyn oedd yn ymyrraeth gymhleth, a sut roedd yr elfennau hyn yn gweithio gyda’i gilydd. Dysgodd y gynulleidfa beth oedd Pathfinder: roedd y safleoedd oedd yn cymryd rhan yn amrywol iawn eu natur a’u cwmpas am eu bod yn gallu siapio’r gweithredu i’w hanghenion eu hunain gan ddibynnu ble’r oedden nhw ar y daith o ymdrin â cham-drin domestig. Roedd y safleoedd yn dod o bob rhan o’r system iechyd, yn cynnwys acíwt, iechyd meddwl, gofal sylfaenol a deintyddiaeth.

Hanfod ymyrraeth Health Pathfinder yw gwella ymwybyddiaeth, gwybodaeth a sgiliau gweithwyr iechyd proffesiynol a’r systemau y mae’r gweithwyr hyn yn gweithio oddi mewn iddynt, a chynyddu gallu gweithwyr proffesiynol i ymholi’n rheolaidd ac yn sensitif am drais a cham-drin domestig, er mwyn cynyddu hyder dioddefwyr-oroeswyr i ddatgelu, a derbyn ymateb proffesiynol sydd yn ei dro yn arwain at atgyfeiriad amserol at wasanaethau arbenigol. Roedd elfennau o Pathfinder a weithredwyd gan safleoedd yn cynnwys hyfforddi gweithwyr proffesiynol, cydleoli gwasanaethau trais a cham-drin domestig mewn lleoliadau clinigol, cyflwyno strwythurau llywodraethu newydd, sefydlu a chefnogi cydgysylltwyr trais a cham-drin domestig, cynnal asesiadau anghenion, gwella strategaethau casglu data, ac adolygu polisïau clinigol sy’n ymwneud â thrais a cham-drin domestig.

Cael gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn a gweithredu yn gallu achub bywydau mewn mwy nag un ystyr.’

Cyflwynodd GJ uchafbwyntiau’r bennod yn yr adroddiad sy’n amlinellu’r hyn a gyflawnodd Pathfinder, yn bennaf ei fod wedi cyfrannu at ganfod dioddefwyr-oroeswyr yn amserol cyn iddynt brofi lefelau uchel o risg. Gwelsom hefyd fod Pathfinder wedi codi cyfraddau atgyfeirio i Gynadleddau Asesu Risg Amlasiantaethol (MARAC), gan awgrymu ei fod hefyd wedi cynhyrchu gwelliant ar lefel system wrth adnabod achosion risg uchel.

Yna cyflwynodd Bethan ein canfyddiadau o ran dealltwriaeth o’r ffordd roedd Pathfinder yn gweithio ac yn creu newidiadau. Canfuom fod yr ymyrraeth yn gweithio trwy greu pum ‘mecanwaith newid’ allweddol: y mecanwaith sylfaenol oedd cynhyrchu ymwybyddiaeth o gam-drin domestig mewn lleoliadau iechyd ymhlith gweithwyr proffesiynol a dioddefwyr-oroeswyr; yr ail oedd cynhyrchu arbenigedd ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol i adnabod ac ymholi’n ddiogel; y trydydd oedd creu perthnasoedd rhwng gweithwyr proffesiynol amlasiantaethol i greu mannau i rannu arbenigedd, cefnogi ei gilydd a chydweithio; y pedwerydd oedd creu grŵp cefnogol o weithwyr proffesiynol sy’n grymuso gweithwyr iechyd proffesiynol gyda hyder i roi eu harbenigedd newydd ar waith; a’r mecanwaith olaf oedd cynhyrchu data a thystiolaeth i ddangos gwerth yr ymyrraeth ac amlygu meysydd i’w gwella.

Yna cyflwynais i ein canfyddiadau am y profiad o weithredu’r ymyrraeth o safbwyntiau’r gweithwyr proffesiynol dan sylw. Canfuom sawl ffactor y nododd gweithwyr proffesiynol eu bod yn effeithio ar y ffordd y rhoddwyd Pathfinder ar waith, sef: a oedd ganddynt hanes o weithredu ymyraethau cam-drin domestig yn flaenorol; presenoldeb rhagdybiaethau a stigma ynghylch cam-drin domestig ar lefel unigol a sefydliadol; sut roedd y ddau ffactor hyn yn chwarae rôl o ran a oedd Pathfinder yn cael ei ystyried yn berthnasol; a ffactorau ymarferol a strwythurol oedd yn effeithio ar sut roedd modd ymwreiddio rolau Pathfinder yn yr adran iechyd.

Ar ôl cyflwyno uchafbwyntiau ein hadroddiad, holodd y gynulleidfa gwestiynau pwysig iawn i ni. Roeddem ni’n falch i allu synhwyro cyffro brwdfrydedd cyfranogwyr ‘yn yr ystafell’ trwy’r swyddogaeth sgwrsio a’r blwch holi ac ateb, ac roedd y drafodaeth yn ddifyr tu hwnt. Gofynnwyd i ni sut roeddem ni’n meddwl y gallem ni symud ymlaen gyda’r prosiect, mewn maes sydd mor gyfyngedig o ran cyllid a chylchoedd comisiynu. Mae cyllido parhaus ar gyfer ymyraethau fel Pathfinder yn hanfodol: dangosodd ein gwerthusiad fod awydd yno i barhau ac adeiladu ar yr arferion a ddechreuwyd gan Pathfinder.

Gofynnwyd i ni hefyd ddweud mwy am yr hyn roedd dioddefwyr-oroeswyr yn ei rannu gyda ni, oedd yn pwysleisio gwerth ymatebion cymwys a sensitif gan weithwyr iechyd proffesiynol i’w helpu i fod yn ddiogel: yn wir, fe dywedon nhw bod cael gweithiwr iechyd proffesiynol yn gofyn a gweithredu yn gallu achub bywydau mewn mwy nag un ystyr. Mae’n hanfodol fod comisiynwyr yn ariannu’r rolau a’r mentrau oedd yn rhan o Pathfinder i greu’r newidiadau sy’n galluogi’r gwasanaeth iechyd i ymateb yn ddigonol i ddioddefwyr sydd wedi goroesi.

Gellir darllen yr adroddiad llawn yma.


Cyflwynwyd prosiect Pathfinder mewn wyth safle ledled Lloegr gan gonsortiwm o bartneriaid arbenigol (Standing Together Against Domestic AbuseAVASafeLivesIRISiImkaan). Ceir rhagor o wybodaeth am Pathfinder yma.


Mae Dr Kelly Buckley, Cydymaith Ymchwil yn DECIPHer, yn gymdeithasegwr, gyda diddordebau mewn rhywedd, y cyfryngau a thrais ar sail rhywedd.