Mynd i'r cynnwys
Home » Beth yw barn plant ysgol gynradd yng nghymru am smygu a fepio?

Beth yw barn plant ysgol gynradd yng nghymru am smygu a fepio?

Bu ymchwil dan arweiniad DECIPHer, a ariannwyd gan CRUK, yn siarad â disgyblion, rhieni ac athrawon i ddarganfod a yw e-sigaréts yn gwneud smygu tybaco yn fwy derbyniol. Doctor Rachel Brown, a arweiniodd yr astudiaeth, sy’n adrodd am y canfyddiadau

Mae poblogrwydd e-sigaréts yn y Deyrnas Unedig wedi cynyddu yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, ac amcangyfrifir eu bod nhw’n cael eu defnyddio gan 3.6 miliwn o oedolion (ASH, 2017). Er bod cyfraddau defnydd rheolaidd ymhlith pobl ifanc yn dal yn isel iawn, mae pryderon y gallai presenoldeb cynyddol e-sigaréts olygu bod rhai pobl ifanc yn gweld smygu tybaco fel rhywbeth mwy derbyniol oherwydd cysylltiadau canfyddedig rhwng y ddau gynnyrch.

Bu ymchwil ddiweddar dan arweiniad DECIPHer, a ariannwyd gan Cancer Research UK, yn edrych ar agweddau at e-sigaréts a thybaco ymhlith plant oed ysgol gynradd yng Nghymru, yn ogystal â siarad ag athrawon a rhieni ynghylch y negeseuon maen nhw’n eu rhoi i blant ynghylch e-sigaréts.

Roedd y rhan fwyaf o blant wedi sylwi ar y cynnydd yn y defnydd o e-sigaréts yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac roedden nhw’n ymwybodol o siopau e-sigaréts yn eu hardal leol. Y rhai oedd yn adnabod defnyddiwr e-sigaréts trwy berthynas agos, fel arfer o fewn y teulu agosaf, oedd yn fwyaf gwybodus am sut roedd e-sigaréts yn gweithio ac yn nodi eu bod yn cael eu defnyddio gan oedolion er mwyn rhoi’r gorau i smygu:

‘Mae nhad yn gwneud ac mae mam yn gwneud, felly rydw i’n gwybod llawer am fêps.’

Er bod yr holl rieni’n dweud bod ganddyn nhw wybodaeth dda am beryglon tybaco, roedd yr ymateb yn fwy cymysg yn achos e-sigaréts, gyda llawer yn teimlo’n aneglur ynghylch sut i’w trafod gyda’u plant:

‘Dydw i ddim yn meddwl bod pobl yn gwybod yn llawn… Chi’n gwybod, beth sy’n mynd i ddigwydd, ydyn nhw’n mynd i fod [mor] beryglus â smygu neu beidio am y tro.’

Soniwyd am hynny hefyd gan yr athrawon, a nododd, er bod ganddyn nhw gynnwys clir am smygu yn y cwricwlwm, nad oes ganddyn nhw adnoddau o’r fath ynghylch e-sigaréts, ac felly bod diffyg eglurder ynghylch beth i’w ddysgu i’r plant.

Er bod gwybodaeth plant am niwed a achosir gan e-sigaréts yn llawer mwy amrywiol nag yn achos tybaco, roedd e-sigaréts a thybaco yn cael eu hanghymeradwyo’n fawr, ac roedd teimlad bod y naill a’r llall yn bethau drwg i’w gwneud, heb fawr ddim diddordeb yn cael ei fynegi mewn rhoi cynnig arnyn nhw yn y dyfodol. Doedd yr astudiaeth hon ddim yn cefnogi pryderon y gallai twf e-sigaréts wneud profi tybaco yn fwy tebygol, nac y gallai plant gymeradwyo tybaco yn fwy trwy weld e-sigaréts o’u cwmpas. Roedd yn awgrymu y gallai datblygu deunyddiau addysgu ar e-sigaréts fod o gymorth i athrawon, a rhieni o bosib, lunio negeseuon clir i gyfathrebu gyda phlant.

Mae’r papur ‘Ecological Exploration of Knowledge and Attitudes Towards Tobacco and E-Cigarettes Among Primary School Children, Teachers, and Parents in Wales: A Qualitative Study’, gan Rachel Brown, Jordan Van Godwin, Lauren Copeland, Britt Hallingberg, Lianna Angel, Sarah MacDonald, Jeremy Segrott a Graham Moore, i’w weld yma: bit.ly/2YxiZXW.