Mynd i'r cynnwys
Home » Beth yw data arferol?

Beth yw data arferol?

Mae dau fideo newydd yn esbonio cyswllt data a pham mae casglu data arferol mor bwysig i ymchwilwyr.

Cynhyrchwyd y fideos gan y Canolfan Treialon Ymchwil (CTR) a’u hariannu gan Raglen Cronfa Gymorth Strategol Sefydliadol Ymddiriedolaeth Wellcome, ac fe’u cynhyrchwyd ar y cyd ag aelodau o’r cyhoedd i greu ‘pecyn o animeiddiadau’ y gall ymchwilwyr ei ddefnyddio i gynyddu dealltwriaeth o ymchwil ac ymgysylltiad ag ef gan ddefnyddio data arferol, gan ffurfio rhan o becyn cymorth recriwtio ymchwilwyr y CTR.

Mae’r animeiddiadau’n esbonio:

• Beth yw data arferol?

• Sut a pham y mae sefydliadau’n casglu data fel mater o arfer

• Pam y defnyddir data arferol ar gyfer ymchwil?

• Beth yw cysylltu data?

Arweiniwyd y prosiect gan [http://Dr Fiona Lugg-Widger] Fiona Lugg-Widger o’r CTR. Roedd Lianna Angel a Jeremy Segrott o DECIPHer hefyd yn rhan o’r prosiect. Helpodd ALPHA, grŵp cynghori ar ymchwil pobl ifanc DECIPHer, i ddatblygu’r fideos gwreiddiol, gan ddefnyddio byrddau stori a thrafodaeth am gynnwys, a’u hadolygu wedyn i’w gwneud yn fwy cyfeillgar i’r defnyddiwr. Cymerodd prosiect cymorth i rieni Ein Lle ym Mhontypridd ran mewn ymgynghoriad hefyd.

Dywed Peter Gee, Swyddog Cynnwys y Cyhoedd gydag Alpha: ‘Roedd aelodau ALPHA yn wirioneddol yn mwynhau’r broses greadigol a’r cyfle i lywio arf ymchwil pwysig.’

Dywedodd Lianna, Cydymaith Ymchwil, a oedd yn gyd-ymgeisydd ar y grant: ‘Bydd y fideos o ddiddordeb i unrhyw un sydd am ddeall yr hyn y mae ymchwilwyr yn ei olygu pan fyddant yn defnyddio’r termau ‘data a gasglwyd fel mater o arfer’ neu ‘gysylltu data’, neu’r rhai a allai fod â diddordeb neu bryder ynglŷn â sut mae eu data’n cael eu defnyddio ar gyfer ymchwil. Mae’n bosibl y bydd yr animeiddiadau hyn hefyd yn ddefnyddiol i ymchwilwyr i roi gwybod i ddarpar gyfranogwyr am gysylltu data gan eu bod yn darparu neges gyson.’

Mae’r fideos i’w gweld yma:

How Researchers Use Routine Data

What is Routine Data?