Mynd i'r cynnwys
Home » Codi Llais Yn Y Cyfnod Clo!

Codi Llais Yn Y Cyfnod Clo!

  • Flog

Bu aelodau o ALPHA yn cyflwyno yn nigwyddiad Prifysgol Caerdydd, sy’n cysylltu pobl ardal Grangetown gyda mentoriaid, arbenigwyr a chyfleoedd. Swyddog Ymgysylltu DECIPHer Peter Gee sy’n adrodd yn ôl

Cyn y cyfnod clo, roedd gan ALPHA gynlluniau mawr i gyfarfod â grwpiau a chyrff ieuenctid eraill drwy Gymru gyfan â’r nod o gynyddu amrywiaeth a chyrhaeddiad daearyddol ein haelodau. Trefnwyd nifer o gyfarfodydd gyda grwpiau a chyrff ieuenctid gwahanol yn cynnwys Gofalwyr Ifanc YMCA Abertawe, Llysgenhadon Ifanc Castell-nedd Port Talbot a Fforwm Ieuenctid Porth Cymunedol Grangetown. Ond roedd cynlluniau gwahanol gan COVID-19…

Yn ystod y cyfnod clo, cadwon ni gysylltiad â’r grwpiau ieuenctid hyn i gyd ac roedden ni’n ddigon lwcus i gael gwahoddiad i gyflwyno yn Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Porth Cymunedol Grangetown Prifysgol Caerdydd, rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf. Nod prosiect y Porth Cymunedol yw helpu i wneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well i fyw a gweithio ynddo, drwy feithrin partneriaethau rhwng y Brifysgol a’r gymuned. Mae’r wythnos hon yn gyfle i’r brifysgol gynnig cyngor gyrfaoedd a chyrsiau i breswylwyr Grangetown o bob oed.

Bûm i a dwy o aelodau ALPHA, Charlotte ac Elina, yn arwain Diwrnod Gyrfaoedd ddydd Mercher 1 Gorffennaf, yn siarad gyda phreswylwyr lleol am ALPHA a sut rydym ni’n cynghori ymchwilwyr drwy drafod a dadlau eu barn ar bynciau’n ymwneud ag iechyd cyhoeddus ac astudiaethau ymchwil. Roedd yn gyfle i arddangos gwaith gwych ALPHA a DECIPHer a dangos y cyfleoedd sydd ar gael.

Siaradon ni am sut y dechreuodd ALPHA a’i ddylanwad yn siapio astudiaethau ymchwil, yn cynnwys sut mae wedi helpu i ddatblygu elfennau o arolwg SHRN, diwygio fideo animeiddio ar gyfer Treial Jack a sefydlu grŵp ymgynghorol ieuenctid cenedlaethol i rwydwaith TRIUMPH. Hefyd fe drefnom ni dasgau rhyngweithiol gyda’r bobl oedd yn bresennol a helpodd i esbonio pa mor bwysig yw hi i ofyn barn pobl ifanc a’u cynnwys mewn ymchwil sy’n effeithio’n uniongyrchol arnyn nhw.

Roedd cyfraniad Charlotte ac Elina’n gwneud ein cyflwyniad yn fwy perthnasol i’r bobl ifanc eraill; pwy well i esbonio pam eu bod yn cymryd rhan a manteision bod yn aelod? Roedd y ddwy’n wych; siaradon nhw am sut mae ALPHA wedi eu helpu i ddatblygu fel pobl a’r astudiaethau maen nhw wedi’u siapio fel aelodau. Hefyd trafodon nhw gyfleoedd fel gweithio gyda Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams, Comisiynydd Plant Cymru Sally Holland, a grwpiau ieuenctid ar draws y DU.

Diolch eto i Ali a’r tîm o Borth Cymunedol Grangetown am ddiwrnod rhagorol (jôc am fod yn llwyddiant rhithiol…)

Dysgwch fwy am ALPHA a sut i ddod yn aelod yma.