Mynd i'r cynnwys
Home » Cwrdd â’r ymchwilydd: Y Dr Rebecca Anthony

Cwrdd â’r ymchwilydd: Y Dr Rebecca Anthony

  • Flog

Mae ymchwilydd wedi ymuno â Chanolfan Wolfson dros Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, gan weithio ar y cyd â Chanolfan DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dr Rebecca Anthony

Ymunodd y Dr Rebecca Anthony â’r tîm fis Ebrill 2021 a bydd yn gweithio’n bennaf yn ffrwd waith ymchwil Canolfan Wolfson gan ganolbwyntio ar ysgolion a’u rôl ynghylch hybu iechyd y meddwl ymhlith pobl ifanc, o dan adain yr Athro Simon Murphy a’r Athro Graham Moore.

Enillodd y Dr Anthony ei doethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019. Mae diddordebau Rebecca o ran ymchwil yn cynnwys perthynas agweddau gweithredu teulu â’i gilydd a lles seicolegol plant, a defnyddiodd ddata o Astudiaeth Cymru o Fabwysiadu wrth astudio ar gyfer ei doethuriaeth, gan roi sylw i brofiad teuluoedd yn sgîl mabwysiadu plant.

Ym maes gwella byd plant mae’i diddordebau ymchwil, yn arbennig plant a phobl ifanc sydd wedi bod o dan ofal. Mae’r Dr Anthony eisoes wedi dechrau helpu Canolfan Wolfson i gyflawni rhaglen ei gwaith gan fanteisio ar ei chefndir academaidd yn gyfrannog ymchwil.

Meddai’r Dr Rebecca Anthony “Mae fy rôl o ran gwaith Canolfan Wolfson a’m gwaith parhaus yn DECIPHer yn gyffrous iawn.”

“Dewisais yrfa’n ymchwilydd ym maes iechyd y meddwl am fy mod wedi gweld effaith ddifrifol afiechyd y meddwl ar fy nheulu fy hun ac rwy’n awyddus i gyflawni gwaith a fydd yn ein helpu i ddeall anawsterau iechyd y meddwl yn well a helpu pobl ifanc a’u teuluoedd i’w hwynebu.”

“Trwy ddeall rhagor am y peryglon a’r ffactorau amddiffynnol sy’n rhai o achosion afiechyd y meddwl, gallwn ni lunio a gwerthuso mathau o driniaeth i geisio rhwystro afiechyd y meddwl rhag datblygu yn ogystal â helpu cleifion i wella.”

Ychwanegodd y Dr Anthony: “Mae nifer o anawsterau pwysig i’w datrys ym maes iechyd y meddwl. Rwyf i o’r farn bod angen buddsoddi rhagor mewn mathau o driniaeth er iechyd y meddwl. Mae’r rhestrau aros i weld proffesiynolyn yn rhy hir – a hynny dim ond mewn argyfwng, yn aml.  Mae gormod o bobl heb driniaeth gan nad ydyn nhw’n ddigon sâl yn ôl meini prawf derbyn rhai gwasanaethau, a gallai’r gwasanaethau sydd ar gael iddyn nhw fod yn aneffeithiol neu’n araf.”

Er ei bod yn wych gweld rhagor o drafodaeth gyhoeddus ar afiechyd y meddwl, gan gynnwys enwogion yn y cyfryngau cymdeithasol, rwyf i o’r farn bod llawer i’w wneud o hyd ynghylch gweld iechyd y meddwl yr un fath ag iechyd y corff.”

“Rwy’n falch o fod yn rhan o dîm ymchwil Canolfan Wolfson dros Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Ar ôl y 18 mis diwethaf, allai gwaith arfaethedig y ganolfan ddim bod yn fwy amserol nac angenrheidiol gan ein bod yn gwybod bod 1 o bob 5 o bobl ifanc yn cwyno am iechyd ei feddwl cyn pandemig COVID-19.”

“Rydyn ni’n cynnal nifer o brosiectau megis teimladau plant wrth bontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd ar hyn o bryd o’u cymharu â’r cyfnod cyn y pandemig.  At hynny, rydyn ni’n astudio’r tueddiadau yn sumptomau iselder dros amser ac effeithiau agweddau megis bwlio ar y we a defnyddio cyfryngau cymdeithasol.”

Wrth gloi, meddai’r Dr Anthony: “Mae’n amser cyffrous iawn i fod yn y gwaith hwn, gan fod cysylltiadau’n datblygu rhwng proffesiynolion gwahanol feysydd megis seicoleg, epidemioleg, geneteg a niwrowyddoniaeth.  A ninnau’n dysgu mwy a mwy, mae gwir gyfle i wella bywydau pobl ifanc trwy roi’r dysg ar waith, ac edrychaf ymlaen at gyflawni rôl i’r perwyl hwnnw yng Nghanolfan Wolfson dros y blynyddoedd nesaf.”

Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf ar wefan Prifysgol Caerdydd.