Cwricwlwm ysgol newydd cymru y: canfyddiadau hyd yma

Yn 2022, bydd Cymru yn croesawu cwricwlwm ysgol newydd sy’n blaenoriaethu iechyd a lles pobl ifanc. Mae cymrodoriaeth Llywodraeth Cymru Dr Sara Long yn llywio ac yn gwerthuso’r diwygiad pwysig hwn. Yn gynharach eleni, cyflwynodd ei chanfyddiadau cychwynnol i’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN). Yn y blog hwn, mae hi’n amlinellu’r canfyddiadau hyn.

Sara Long | Cardiff University | DECIPHer
Dr Sara Long

Gall ysgolion fod yn ddylanwad da neu ddrwg ar iechyd a lles pobl ifanc. Maent yn lleoliadau pwysig ar gyfer ymyrraeth gynnar i atal problemau iechyd corfforol a meddyliol yn ddiweddarach, a gall ataliaeth effeithiol leihau’r costau i wasanaethau iechyd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae system addysg Cymru yn cael ei diwygio’n sylweddol ar hyn o bryd, ac mae Cymru’n paratoi ar gyfer cyflwyno diwygiadau cenedlaethol ym mis Medi 2022. Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill eleni, cyflwynais ganfyddiadau astudiaeth un o dair o’m cymrodoriaeth ymchwil tair blynedd i Rwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion Uwchradd Cymru gyfan. Mae’r gymrodoriaeth yn defnyddio ystod o dechnegau ymchwil i archwilio’r paratoadau cymhleth ar gyfer y diwygio ar draws y system addysgol, ac effeithiau’r system ysgolion newydd ar iechyd a lles.

Cynhaliais gyfweliadau ag uwch randdeiliaid yn system addysg Cymru, a dadansoddwyd data i ganfod themâu allweddol. Yn benodol, roedd gen i ddiddordeb yn nodau’r diwygio, gyda ffocws penodol ar y nodau iechyd a lles, ond heb ei gyfyngu i hynny, a materion yn ymwneud â gweithredu’n llwyddiannus. Nodwyd tri maes allweddol: ‘Cymdeithas sy’n newid a disgwyliadau cynyddol’; ‘Rôl ysgolion yn y dyfodol a nodau’r diwygio’ a hefyd ‘Y gofod cymhleth rhwng gweledigaeth a llwyddiant’. Cyflwynais ganfyddiadau’r ddau faes olaf, a oedd yn arbennig o berthnasol ar gyfer ymarfer ysgol a gweithredu’r diwygiadau.

Heriau a rhwystrau


Dyma’r canfyddiadau a gyflwynais ar:

  • Un o brif nodau’r diwygio yw cynyddu ymreolaeth a rhyddid ymarferwyr yn yr ystafell ddosbarth.
  • Bydd cyfeiriad newydd ar gyfer iechyd a lles, sy’n mynd ymhell y tu hwnt i’r ABCh statudol cyfredol, a’r tu hwnt i ganolbwyntio ar weithgaredd corfforol yn unig.
  • Mae gan ysgolion ran i’w chwarae ym maes cydraddoldeb a helpu POB dysgwr i gyflawni canlyniadau iechyd ac addysg cadarnhaol, beth bynnag yw eu cefndir, eu hil, eu rhyw neu eu gallu.

Mater i’w ystyried ymhlith ysgolion yw nad oes gan iechyd a lles yr un hanes o gael ei ddysgu â phynciau eraill, ac o’r herwydd, mewn gwirionedd mae’n debygol mai hwn yw’r Maes Dysgu a Phrofiad mwyaf heriol i’w gyflawni’n iawn. Gall dysgu proffesiynol, a dyrannu digon o amser a lle ar gyfer iechyd a lles yn y cwricwlwm ac amgylchedd ehangach yr ysgol, helpu i oresgyn rhwystrau.

At hynny, er y gall gweithio gyda phartneriaid allanol ategu agenda iechyd a lles ysgolion, gall rhoi gwaith ar gontract allanol fod yn broblem. Dylai ysgolion osgoi prynu gwasanaethau gan gwmnïau heb sylfaen gadarn o dystiolaeth a hanes blaenorol. Gall sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru a Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru ddarparu cyngor a gwybodaeth. Dylai gweithio mewn partneriaeth ategu, yn hytrach na disodli, gweithgareddau iechyd a lles ar lefel ysgol.

Dull gweithredu wedi’i deilwra


O ran beth oedd hyn yn ei olygu wrth ymarfer, mae’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles (yn ogystal â’r Meysydd Dysgu a Phrofiad eraill) wedi’i gynllunio i fod yn drawsbynciol. Mae hyn yn golygu y gellir plethu dysgu ynghylch iechyd a lles â meysydd pwnc eraill (er enghraifft, defnyddio ystadegau mewn gwersi rhifedd, neu olchi dwylo a hylendid mewn gwyddoniaeth). Gall mwy o ryddid ac ymreolaeth fod yn frawychus, ond gall fod yn fuddiol iawn. Mae’n golygu y gall ysgolion deilwra dysgu o amgylch iechyd a lles i’w cyd-destun penodol ac i anghenion dysgwyr unigol. O gyfuno hynny â defnyddio data a thystiolaeth a mabwysiadu dull gweithredu ysgol gyfan, gall ysgolion ddechrau cael effaith gadarnhaol iawn ar iechyd a lles. Mae risg y gall y bwlch anghydraddoldebau gynyddu os bydd mwy o ymreolaeth ar lefel ysgol. Er bod lleihau anghydraddoldebau ym maes iechyd ac addysg yn rhywbeth na ellir, ac na ddylid ei roi wrth ddrws ysgolion yn unig, trwy ddechrau ystyried ei rôl ehangach a chymryd perchnogaeth ohono, gall ysgol ddechrau cael effaith gadarnhaol.

Bydd ymgyfarwyddo â strategaeth Llywodraeth Cymru ar ‘Ddull Ysgol Gyfan o ymdrin â Iechyd Meddwl a Llesiant’ a’i mabwysiadu yn helpu ysgolion ar eu taith iechyd meddwl a lles. Bydd dysgu proffesiynol ar gael, a dylai ysgolion fanteisio ar yr hyn sy’n cael ei gynnig. Gall canolbwyntio ar y Dull Ysgol Gyfan, a hyfforddi ynghylch defnyddio data a thystiolaeth ym maes iechyd a lles gynyddu gwybodaeth a sgiliau ymarferwyr. Gall gweithio gyda phartneriaid ym maes iechyd hefyd hwyluso hyn. Gallai ysgolion ddechrau ystyried defnyddio data iechyd ar lefel ysgol yn y tymor hir i werthuso effeithiau eu mentrau iechyd. Disgrifiwyd rhai o’r dulliau o gyflawni newid diwylliant eisoes. Yn ogystal, gall arweinwyr ganolbwyntio ar ddarparu digon o amser a lle i ymarferwyr ddeall y cwricwlwm newydd, ac amser a lle i brofi a methu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae Dr Sara Long yn Gydymaith Ymchwil yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hi’n gweithio ar draws ystod o brosiectau rhyngddisgyblaethol gyda’r nod o wella canlyniadau iechyd, lles ac addysg. Dilynwch hi ar Twitter: @DrSaraLong. Darllenwch flog cyntaf Dr Long ar ei chymrodoriaeth yma.
Dewislen