Beth yw’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion?
Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yw’r rhwydwaith cenedlaethol mwyaf o’i fath yn y byd. Mae’n dod â’r holl ysgolion uwchradd prif ffrwd a gynhelir yng Nghymru, ymchwilwyr academaidd, llunwyr polisïau ac ymarferwyr ym meysydd iechyd, addysg a gofal cymdeithasol at ei gilydd er mwyn hyrwyddo dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth o wella iechyd a lles pobl ifanc mewn ysgolion.
Mae’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cancer Research UK a WISERD (Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru). Mae’n yn cael ei harwain gan y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r bartneriaeth hon yn hwyluso’r gwaith o gysoni agendâu ymarfer, ymchwil a pholisi mewn ffordd strategol.
Mae ysgolion y Rhwydwaith yn cymryd rhan mewn Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr electronig, dwyieithog bob dwy flynedd. Mae’r arolwg yn seiliedig ar yr Arolwg Ymddygiad Iechyd Plant Oedran Ysgol, sef arolwg cydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd, i’w gwneud yn bosibl integreiddio’r ddau arolwg bob pedair blynedd. Mae’r data sy’n cael ei gasglu gan fyfyrwyr fel arfer yn cynnwys data mwy na 65% o’r holl ddisgyblion rhwng 11 a 16 oed yng Nghymru o fwy na 90% o ysgolion. Mae Holiadur Amgylchedd yr Ysgol yn ategu’r data hwn ac yn galluogi perthynas rhwng polisi ac ymarfer mewn ysgolion. Mae hefyd yn ei gwneud yn bosibl ymchwilio i ganlyniadau i iechyd myfyrwyr.
Mae’r Rhwydwaith yn sicrhau bod yr ymchwil yn berthnasol i randdeiliaid er mwyn sicrhau y bydd ymchwil ddilynol yn fwy tebygol o ddylanwadu ar bolisi ac ymarfer ar gyfer effaith iechyd y boblogaeth. Mae gwerth yr astudiaethau sydd wedi’u mabwysiadu gan y Rhwydwaith dros £25 miliwn.