Mynd i'r cynnwys
Home » Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble a gyda phwy mae disgyblion yn teimlo’n fwyaf diogel?

Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble a gyda phwy mae disgyblion yn teimlo’n fwyaf diogel?

Yn 2023, siaradodd ymchwilwyr DECIPHer â disgyblion ysgol a gofyn iddyn nhw greu posteri yn ymwneud â theimlo’n ‘ddiogel’ yn eu hysgolion.

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith sy’n ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol yn ganllaw statudol i ysgolion. Mae’r gwerthusiad o’r Fframwaith hwn yn nwylo ymchwilwyr DECIPHer sy’n gweithio yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc. Y posteri sydd i’w gweld isod yw’r rhai cyntaf mewn cyfres barhaus o grynodebau canfyddiadau a gasglwyd fel rhan o’r gwerthusiad hwn.

Gwerthuso beth sy’n gweithio


Mae niferoedd cynyddol o bobl ifanc ledled Cymru yn profi trallod emosiynol. Dywedodd bron chwarter y dysgwyr ysgol uwchradd yng Nghymru fod ganddynt lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd ar ôl COVID-19, yn ôl canfyddiadau’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN).

Er mwyn lleihau’r pwysau ar wasanaethau iechyd meddwl a gwella llesiant plant a phobl ifanc, mae ysgolion yn cael eu hystyried fwyfwy fel safle ar gyfer cyflwyno ymyriadau sy’n hybu llesiant emosiynol da ac yn atal anawsterau iechyd meddwl rhag codi neu waethygu. Mae Fframwaith Llywodraeth Cymru yn amlygu rôl i bawb yng nghymuned yr ysgol ystyried eu hymdeimlad eu hunain ac eraill o berthyn, effeithiolrwydd a llais.

Nod gwerthusiad DECIPHer yw ceisio deall nid yn unig effaith y Fframwaith ar lesiant meddyliol, ond hefyd y manylion cynnil o ran pa systemau ac arferion sy’n gweithio’n dda yn yr ysgol, ym mha gyd-destun, ac ar gyfer pwy.

Pe bawn i’n Bennaeth…


Mae rhan o’r gwerthusiad yn cynnwys cyfweliadau â phlant, pobl ifanc, staff addysgu a gweithwyr proffesiynol perthnasol sy’n gweithio ym myd addysg, yn ogystal â dadansoddi data arolwg SHRN a gasglwyd yn genedlaethol mewn ysgolion rhwng 2002 a 2025. Ar gyfer y prosiect hwn, siaradodd ymchwilwyr â disgyblion ysgol cynradd ac uwchradd a gofyn iddynt greu posteri o’r canlynol:

  • Pobl ddiogel yn yr ysgol
  • Mannau diogel yn yr ysgol
  • Beth bydden nhw’n ei wneud i wella’r ysgol pe baen nhw’n Bennaeth

Cafwyd rhai canlyniadau calonogol, gyda mwyafrif y disgyblion ysgol gynradd yn hynod gadarnhaol am y bobl yn eu cymuned ysgol. Rhestrodd mwyafrif y disgyblion uwchradd o leiaf un athro ysgol yr oeddent yn ymddiried ynddyn nhw ac y byddent yn mynd atyn nhw pe bai angen cymorth arnynt.

Fodd bynnag, roedd mwyafrif y disgyblion cynradd ac uwchradd yn teimlo bod ardaloedd gorlawn, fel neuadd ginio’r ysgol, yn peri straen. Roedd mwyafrif y disgyblion hefyd yn ystyried toiledau ysgol yn broblematig, gyda fêpio a fandaliaeth yn ffactorau i ddisgyblion uwchradd, a glanweithdra i ddisgyblion cynradd.

Meddai’r Cynorthwy-ydd Ymchwil Zoe Haslam, a gynhaliodd y sesiynau gyda’r disgyblion:

‘Roedd yn ddadlennol trafod y materion hyn gyda’r dysgwyr a chael gwir ymdeimlad o’r hyn sy’n bwysig i blant a phobl ifanc ledled Cymru mewn perthynas â lles meddyliol ac emosiynol yn yr ysgol.

Mae’r crynodebau hyn yn amlygu rôl arwyddocaol pobl a lle o ran effeithio ar les dysgwyr, a gobeithiwn eu bod yn arf defnyddiol i ysgolion barhau â sgyrsiau am gefnogi dysgwyr.

Gan fod y prosiect ymchwil hwn yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl gallu cynhyrchu mwy o’r crynodebau hyn yn ystod y flwyddyn sydd i ddod i gyfleu canfyddiadau pellach am brofiadau athrawon a dysgwyr o les mewn ysgolion ledled Cymru.’

Gellir darllen y posteri isod:

Deunydd darllen pellach

Protocol llawn

Tudalen astudio DECIPHer

Fframwaith Llywodraeth Cymru ar Ymgorffori Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Lles Emosiynol a Meddyliol

Blog: Defnyddio dull ysgol gyfan i ymdrin â iechyd meddwl yng Nghymru