Mynd i'r cynnwys
Home » Newidiadau a heriau: Sut brofiad o les sydd gan athrawon ysgol?

Newidiadau a heriau: Sut brofiad o les sydd gan athrawon ysgol?

Yn rhan o’u gwerthusiad o ddull yr ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol, holodd ymchwilwyr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyraethau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) athrawon am les mewn ysgolion

Yn 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Fframwaith sy’n ymgorffori dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol yn ganllaw statudol i ysgolion. Mae ymchwilwyr DECIPHer sy’n gweithio yng Nghanolfan Wolfson er Iechyd Meddwl Pobl Ifanc wrthi’n gwerthuso’r fframwaith hwn, a hynny mewn astudiaeth y disgwylir iddi barhau rhwng mis Awst 2022 a gwanwyn 2026.

Yn 2023, yn rhan o’r gwerthusiad hwn, siaradodd ymchwilwyr DECIPHer â disgyblion, gan ofyn iddyn nhw greu posteri a oedd yn yn ymwneud â theimlo’n ‘ddiogel’ yn eu hysgolion. Cyhoeddwyd y posteri ym mis Chwefror 2024 a gellir eu gweld yma: Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble, ac yng nghwmni pwy, y mae disgyblion yn teimlo fwyaf diogel?

Yr eitem nesaf ar yr agenda oedd cyfweliadau gydag athrawon. Yn 2023, cyfwelodd ymchwilwyr â 36 aelod o staff mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ofyn iddyn nhw sut y mae anghenion y disgyblion o ran lles wedi newid ers Covid. Er bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn ymdopi’n dda, daeth ambell i her amlwg i’r golwg. Mae’r posteri’n crynhoi’r hyn a ddywedodd y staff, a gellir darllen y rhain isod. Y pwyntiau allweddol yw:

Dyma a ddywedodd y Prif Ymchwilydd Dr Rachel Brown:

Roedd ein trafodaethau â staff ysgolion ledled Cymru yn taflu goleuni ar eu canfyddiadau o effeithiau hirdymor pandemig Covid-19 ar ysgolion. Ymhlith y rhain roedd y newidiadau a welwyd yn natblygiad a lles meddyliol y dysgwyr, ond hefyd problemau parhaus sy’n baich ar ysgolion o ran lles a chadw staff, yn ogystal â’r heriau sy’n eu wynebu o ran cyflawni diwygiadau sylweddol.

Un peth y sylwyd arno oedd cynifer o ysgolion sy’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl i ddiwallu eu dysgwyr ac i gefnogi eu lles, ac mae’r crynodebau hyn yn amlygu’r gost ariannol ac emosiynol y mae hyn yn ei gael ar ysgolion a staff unigol.

Wrth edrych tua’r dyfodol, byddwn ni’n dadansoddi ein hail gylch o ddata cyfweld gyda’r un ysgolion i weld beth sydd wedi newid, sut maen nhw’n rhoi mentrau polisi ar waith, gan gynnwys dull yr ysgol gyfan (WSA) a phroblemau parhaus sy’n effeithio ar les y dysgwr.’

Deunydd darllen pellach

Yn ddiogel fel… ysgolion? Ble, ac yng nghwmni pwy, y mae disgyblion yn teimlo fwyaf diogel?

Protocol llawn

Datblygu asesiad o Theori Newid a’r Gallu i Werthuso yn achos y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin â Iechyd Meddwl

Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol

Flog: Defnyddio dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru