Mynd i'r cynnwys
Home » Sut mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Sut mae gwasanaethau iechyd yng Nghymru yn cefnogi cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr?

Mae astudiaeth fapio newydd yn edrych ar y rhwystrau a brofir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrth gyrchu gwasanaethau iechyd ac yn gwneud awgrymiadau allweddol i wella’r nifer sy’n manteisio arnynt.

Cafodd yr astudiaeth, y gellir ei darllen yma, ei chynnal gan Jay Harley a Jasmine Jones o Sipsiwn a Theithwyr Cymru a Dr Rhiannon Evans o DECIPHer. Fe’i comisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n ceisio deall darpariaeth gwasanaeth clefydau trosglwyddadwy ar gyfer ystod o grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.

Pam y cymunedau hyn?

Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn profi rhai o’r canlyniadau iechyd a’r anghydraddoldebau iechyd gwaethaf ymhlith unrhyw boblogaeth yn y DU (Tŷ’r Cyffredin a Chydraddoldeb, 2019).

Yng Nghymru a Lloegr:

  • Canfu data o Gyfrifiad 2011 mai Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig oedd â’r gyfran isaf o ymatebwyr yng Nghymru a Lloegr a nododd fod eu hiechyd cyffredinol yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn’ (70%) o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol (81%) (Cook et al., 2013; Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2014).
  • Mae’r cymunedau hyn yn byw rhwng pump a 25 mlynedd yn llai na phoblogaeth ehangach y DU (Comisiwn Ewropeaidd, 2019); Parry et al., 2007).
  • Maent yn profi hyd at chwe blynedd yn llai o Fywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd (h.y. blynyddoedd yn byw mewn iechyd da) (Comisiwn Ewropeaidd, 2019; Parry et al., 2007).

Mapio gwasanaethau iechyd

Mapiodd y tîm ymchwil y gwasanaethau sydd ar gael i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac archwilio eu profiadau o ddarparwyr gofal iechyd.

Roedd y mapio yn cynnwys dau weithgaredd:

  • Ymgynghori â chynghorwyr sefydliadol a rhwydweithiau perthnasol eraill i gynhyrchu map o wasanaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn Ne Cymru.
  • Adolygiad cwmpasu byr o’r sylfaen dystiolaeth i ganfod effeithiolrwydd posibl gwasanaethau, enghreifftiau o arfer gorau, a rhwystrau a hwyluswyr i ddarparu a derbyn gwasanaethau.

Prif Ganfyddiadau

Nododd yr ymgynghoriad ddiffyg sylweddol o wasanaethau wedi’u teilwra’n benodol i anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Er bod diffyg modelau arfer gorau, mae’r enghreifftiau sydd ar gael yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu ac allgymorth cymunedol.

Roedd yr ymgynghoriad a’r adolygiad yn nodi amrywiaeth o rwystrau i’r nifer sy’n derbyn y gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Y stigma yn ymwneud â stereoteipiau negyddol ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol;
  • Diffyg mynediad, yn enwedig lle gall cymunedau deithio am gyfnodau hir;
  • Efallai na fydd gwybodaeth a meddyginiaeth yn addas o ran iaith a llythrennedd, yn enwedig lle mae traddodiad o gyfathrebu llafar;
  • Digon o wyleidd-dra diwylliannol, gan gynnwys diffyg cydnabyddiaeth nad yw rhai meysydd iechyd (e.e. iechyd rhywiol) yn briodol i’w trafod;
  • Adnoddau annigonol.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cynnwys awgrymiadau o’r sylfaen dystiolaeth ar sut y gellir gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru i ddiwallu anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r rhain yn benodol i glefydau trosglwyddadwy ond maent yn berthnasol i iechyd yn ehangach.

Y pedwar prif argymhelliad yw:

Mwy o ddata gofal iechyd

O ystyried prinder y data gofal iechyd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, mae angen cryfhau hyn i gefnogi dealltwriaeth o anghenion iechyd, proffiliau risg a chanlyniadau’r poblogaethau hyn yng Nghymru.

Cefnogi meddygon teulu

Y darparwr gofal iechyd mwyaf cyffredin a ddefnyddir ac a ffefrir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw Meddygon Teulu (GPs), a allai gael eu cefnogi ymhellach i ddiwallu anghenion a bennir yn ddiwylliannol.

Cydgynhyrchu gwasanaethau newydd

Efallai y bydd angen datblygu gwasanaethau sydd newydd eu teilwra, a dylid cyd-gynhyrchu’r rhain gyda’r cymunedau y maent yn bwriadu eu cynnwys.

Defnyddio dull cyfannol

Dylai Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru roi sylw cyson a systematig i anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar draws pob maes iechyd. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael ag ysygogiadau systematig iechyd gwael, fel tai, a sicrhau bod gwasanaethau priodol yn cael eu darparu.

Beth nesaf?


Meddai Dr Rhiannon Evans: ‘Mae’r gwaith mapio gwasanaethau hwn yn ddarn pwysig o waith wrth ddechrau deall sut yr ydym yn diwallu anghenion iechyd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Mae’n nodi’n glir rhai bylchau a chyfyngiadau allweddol, gan roi arweiniad i ni ar gyfer ymchwil, polisi ac ymarfer yn y maes hwn ar gyfer y dyfodol.’


Gellir darllen Mapio Gwasanaethau ar gyfer Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy: Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru yma.