Mynd i'r cynnwys
Home » DECIPHer a thu hwnt

DECIPHer a thu hwnt

  • Flog

I ble y gall bod yn ymchwilydd ar ddechrau gyrfa yn DECIPHer fynd â chi? Dyma dri ymchwilydd yn adrodd hynt eu gyrfa

Dr Caitlyn Donaldson: ‘Rwyf wedi gweld trosglwyddo o fod yn fyfyriwr DECIPHer i fod yn aelod staff yn gadarnhaol iawn’

Ymunais â DECIPHer yn 2019 fel myfyriwr PhD. Roedd fy rolau blaenorol wedi cynnwys ymchwil ac ysgrifennu ar ystod eang o bynciau iechyd y cyhoedd, ond roeddwn wedi dechrau magu mwyfwy o ddiddordeb mewn iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Cafodd fy neges e-bost hapfasnachol at yr Athro Simon Murphy ei thrin yn gadarnhaol ac, o ganlyniad, cefais drafodaethau â darpar oruchwylwyr am y posibilrwydd o wneud cais am gyllid. Gyda’u cefnogaeth nhw, roedd fy nghais am gyllid i’r ESRC yn llwyddiannus ac, yn fuan wedi hynny, dechreuais fy PhD yn edrych ar iechyd meddwl pobl ifanc ar draws y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a’r ysgol uwchradd gyda’r Athro Graham Moore a Dr Jemma Hawkins yn oruchwylwyr.

Mae DECIPHer ar flaen y gad ym maes ymchwil iechyd ysgolion yng Nghymru ac mae bod yn fyfyriwr yn yr adran wedi cynnig cyfleoedd gwych i feithrin arbenigedd a manteisio ar y data helaeth sydd ar gael i’w ddadansoddi ar ysgolion yng Nghymru. Tua diwedd fy PhD, dechreuodd DECIPHer y broses o ymestyn y gwaith SHRN uwchradd i ysgolion cynradd, a daeth rôl Cydymaith Ymchwil ar gael. Fe wnes i gais ac roeddwn yn llwyddiannus. Rwyf wedi gweld trosglwyddo o fod yn fyfyriwr DECHIPHer i fod yn aelod staff yn gadarnhaol iawn. Dros y flwyddyn nesaf, rwy’n bwriadu cyhoeddi rhai papurau o’m traethawd ymchwil, yn ogystal â dechrau meddwl am brosiectau ymchwil a chyfleoedd ariannu yn y dyfodol.

Dr Lauren Copeland: ‘Roedd yn gyfle gwych i fod yn rhan o ganolfan ymchwil o safon fyd-eang’

Ymunais â DECIPHer ym mis Ionawr 2019 fel Cydymaith Ymchwil yn gweithio’n bennaf ar astudiaeth i ddatblygu arweiniad ar gyfer addasu ymyriadau i gyd-destunau newydd. Roedd yn gyfle gwych i fod yn rhan o astudiaeth a fyddai’n dylanwadu ar arferion addasu yn y dyfodol ac i fod yn rhan o ganolfan ymchwil o safon fyd-eang. Fy meysydd ymchwil o ddiddordeb yw iechyd meddwl a chwnsela, felly roedd ymuno â DECIPHer yn fy ngalluogi i ymchwilio i’r meysydd hyn ac ennill sgiliau a phrofiad gwerthfawr mewn llunio grantiau, rhwydweithio a llywio polisi’r llywodraeth.

Yn ogystal â hyn, cefais fentoriaeth a oedd yn hollbwysig i’m dilyniant gyrfa. Cefais fy nghefnogi i ennill profiad mewn meysydd sy’n hanfodol ar gyfer darlithyddiaeth. Mae hyn wedi fy arwain i ennill darlithyddiaeth yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, https://decipher.uk.net \ 9 lle rwyf yn addysgu ar hyn o bryd ar draws lefelau israddedig ac ôl-raddedig ac yn datblygu syniadau ymchwil mewn cwnsela ac addysg.

Dr Hannah Littlecott: ‘Yn y pen draw, mae’r gefnogaeth a’r profiad hwn wedi arwain at gyfle gwych’

Dechreuodd fy nhaith gyda DECIPHer yn 2012, pan gefais fy recriwtio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil. Cefais brofiad o weithio ar sawl prosiect, gan hefyd wneud cais ar gyfer cyllid PhD. Dechreuais fy PhD ym mis Ionawr 2014, gan ei gwblhau yn 2016 ymhen cyfnod o dair blynedd. Ochr yn ochr â’r prosiect PhD, cefais gyfle i weithio’n hamddenol ar sawl prosiect a chael profiad o lunio a chyhoeddi nifer o bapurau gwyddonol. Ar ôl y PhD, cefais fy nghefnogi i gael cyllid cymrodoriaeth. Er y cafodd y pandemig effaith negyddol ar y prosiect hwn, rhoddodd brofiad pwysig i mi o ran llwyddo i gael cyllid ymchwil fel Prif Ymchwilydd a rheoli fy mhrosiect fy hun.

Tra’n gweithio yn DECIPHer, rwyf hefyd wedi cael dau gyfnod o absenoldeb mamolaeth ac roeddwn yn teimlo bod gennym gefnogaeth gan staff y Gwasanaethau Proffesiynol, yn ogystal â chydweithwyr academaidd. Yn y pen draw, mae’r gefnogaeth a’r profiad hwn wedi arwain at gyfle gwych â chydweithwyr ym Mhrifysgol Ludwig Maximilian ym Munich, lle rwy’n gweithio o bell ar hyn o bryd yn arwain adolygiadau Cochrane i gyfosod ymchwil yn ymwneud â SARSCoV-2 a mesurau mewn ysgolion.

Mae mwy o ddiweddariadau staff DECIPHer yn ein hadroddiad blynyddol 2022-2023 yma neu ar ein blog.

Gellir dod o hyd i gyfleoedd i weithio gyda ni ar ein tudalennau Gweithio Gyda Ni, LinkedIn a Twitter/X.