Mynd i'r cynnwys
Home » Cyfle i gwrdd â’r Cymrodorion o Namibia: Cynthy K. Haihambo

Cyfle i gwrdd â’r Cymrodorion o Namibia: Cynthy K. Haihambo

  • Flog

 

 

Ar hyn o bryd mae DECIPHer yn croesawu chwe gweithiwr proffesiynol o Namibia ar ganol eu gyrfaoedd mewn cynllun a drefnwyd gan Brosiect y Ffenics. Mae’r Cymrodorion yn treulio tri mis yn cydweithio â’n hymchwilwyr i astudio sut gall addysg merched arwain at rymuso menywod. Yn yr ail o’n cyfres o flogiau, gofynnwn i Cynthy K. Haihambo am ei hargraffiadau hyd yn hyn.

 

 

Dywedwch wrthyn ni am eich gwaith yn Namibia


Rwy’n Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gwyddorau Addysgol Cymhwysol yn Ysgol Addysg Prifysgol Namibia. Athro sy’n addysgu ydw i, yn bennaf yn addysgu modiwlau mewn Seicoleg Addysg ac Addysg Gynhwysol i fyfyrwyr addysg athrawon. Mae’r rhain yn cynnwys Addysg Gynhwysol 1 a 2; Canllawiau a Chwnsela 1, Sgiliau Bywyd, Addysg Rhywioldeb Gynhwysfawr, Astudiaethau Rhywedd ac Anabledd, HIV ac AIDS ymhlith eraill.

Dathlu Diwrnod Annibyniaeth Namibia ar 21 Mawrth

Pam oeddech chi eisiau bod yn rhan o gynllun Cymrodoriaeth Broffesiynol y Gymanwlad?


Mae’r Gymanwlad yn sefydliad enwog sy’n datgloi potensial pobl ac yn galluogi pobl i gyflawni eu nodau. Pan welais mai thema Ysgoloriaethau’r Gymanwlad eleni oedd Addysg i Ferched, penderfynais ei hawlio! Fe wnes i gais oherwydd fy mod wedi ymwneud ag amrywiol raglenni cysylltiedig ag addysg merched yn Namibia. Rydym wedi cymryd camau breision o ran ehangu mynediad i addysg i ferched. Fodd bynnag, lle’r wyf yn gweithio mewn addysg uwch, nid yw merched ag anableddau a’r rhai sy’n dod o gymunedau brodorol a lleiafrifoedd ethnig yn llwyddo i dreiddio drwodd i addysg uwch fel y gellid disgwyl, er gwaethaf y buddsoddiad yn eu haddysg. Efallai eu bod yn wynebu mwy o rwystrau nag eraill mewn addysg. Rwyf am wybod beth yw’r rhwystrau hyn a sut gellid eu lleiafu er mwyn sicrhau cydraddoldeb a thegwch. Sylweddolais y gallai Cymrodoriaeth y Gymanwlad ddatgloi syniadau ar sut i fynd i’r afael â’r broblem hon. Roeddwn yn ffodus i dderbyn y wobr enwog hon, ac rwyf eisoes yn profi, fel galluogwr, y gall fy helpu i ddod o hyd i rai atebion.

Fy nod yw datblygu rhaglen addysg i ferched a fydd yn hwyluso mynediad, cadw ac addysg o safon i ferched ag anableddau a rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol yn Namibia.

Sut brofiad ydych chi wedi’i gael yma hyd yn hyn?


O fewn y mis yr ydym wedi bod yma yn Adeilad Spark ac yn benodol gyda DECIPHer yn ein lletya, ni allaf ond siarad am brofiadau dymunol, cyfoethog a syfrdanol. Mae rhywbeth arbennig am DECIPHer – mae pobl yn gyfeillgar ac yn barod i rannu syniadau. Does dim rhaid i chi ofyn am help; cynigir cymorth hyd yn oed cyn i chi ofyn. Mae digonedd o adnoddau ar gael inni; heb sôn am y mentoriaid hynod gymwys a digymell. Mae ein rhaglen yn gyfoethog ac yn dangos dealltwriaeth graff. Mae gennym ni seminarau a chyflwyniadau gan y goreuon a dyna sydd wrth fy modd am fod yma. Ac wrth gwrs, dwi’n hoff iawn o’r glaw, golygfeydd hyfryd y ddinas, y parciau a’r llynnoedd a chyfeillgarwch a lletygarwch y Cymry!

Beth yw eich nodau tra byddwch chi yma?


‘Fy nod yw datblygu Rhaglen Addysg i Ferched a fydd yn hwyluso mynediad, cadw ac addysg o safon i ferched ag anableddau a rhai o grwpiau ethnig lleiafrifol yn Namibia.’ Rwyf hefyd yn astudio addysg athrawon a sut gellir ei defnyddio’n gyfrwng i sicrhau Addysg i Bawb.

A gawsoch unrhyw brofiadau hyd yn hyn sy’n sefyll allan i chi?


Mae’r amgylchedd yn ffafriol iawn ar gyfer dysgu a chymdeithasu. Mae cyfeillgarwch y bobl yn gwneud bywyd yn ddiymdrech. Mae’r profiadau academaidd yn gyfoethog ac yn fy helpu i gyflawni’r nodau ar gyfer y prosiect Cymanwlad oedd gen i mewn golwg.

Fues i erioed yn cerdded fel hyn o’r blaen yn fy mywyd ac rwy’n ei hoffi! Rwy’n bwriadu parhau i wneud hynny pan af yn ôl adref.

Beth ydych chi’n edrych ymlaen fwyaf at ddysgu amdano tra byddwch yma yng Nghaerdydd?


Rwyf am ddeall hanes Cymru. Roedd y Daith o amgylch y Ddinas ar y bws yn gymaint o agoriad llygad. Ac rwy’n dysgu mwy bob dydd. Mae aelodau staff yn ein gwahodd i’w cartrefi ac yn mynd â ni i leoedd lle rydym yn dod i gysylltiad â phobl amrywiol. Mae hyn yn ein helpu i ddeall y bobl a’u diwylliant.

Mae rhagor o wybodaeth am brosiect y Ffenics yma: https://www.cardiff.ac.uk/cy/phoenix-project.