Mynd i'r cynnwys
Home » Dr Rebecca Anthony yn ennill gwobr Deorydd Ymchwil Iechyd Meddwl

Dr Rebecca Anthony yn ennill gwobr Deorydd Ymchwil Iechyd Meddwl

 

 

 

 

Gwobrwywyd Dr Anthony am ei gwaith hanfodol yn archwilio problemau iechyd meddwl ymhlith plant mewn teuluoedd mabwysiadol.

Gwobrwyodd beirniaid Deorydd Ymchwil Iechyd Meddwl saith ymchwilydd y mae eu prosiectau yn cynrychioli rhai o’r datblygiadau newydd mwyaf cyffrous mewn ymchwil iechyd meddwl heddiw, yn ogystal ag wyth unigolyn a ddaeth yn yr ail safle. Dr Anthony, sy’n gweithio mewn partneriaeth â DECIPHer a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a ddaeth i’r brig yn y categori Adeiladu Ymchwil ym Meysydd sydd Heb Wasanaeth Digonol. Roedd ei gwaith yn seiliedig ar ganfyddiadau Astudiaeth Carfan Mabwysiadu Cymru, a arweiniwyd gan yr Athro Katherine Shelton, ac ymchwil DECIPHer a SHRN ar iechyd meddwl plant mewn gofal.

Mae ymchwil Dr Anthony wedi canolbwyntio ar nifer yr achosion o faterion iechyd meddwl ymhlith plant sy’n cael eu mabwysiadu ar ôl bod o dan ofal, yn ogystal â’u rhieni mabwysiadol. Mae hi wedi bod yn edrych ar gyfraniad profiadau niweidiol yn ystod plentyndod o ran problemau iechyd meddwl diweddarach a sut mae patrymau adfyd penodol yn gysylltiedig â symptomau straen wedi trawma. Mae ei hymchwil wedi cael sylw mewn dau adolygiad tystiolaeth NIHR, Gall Plant Mabwysiedig Ddatblygu Mathau Penodol o Straen Ôl-drawmatig Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod: pa gymorth sydd ei angen ar bobl ifanc?

Yn ôl Deorydd Ymchwil Iechyd Meddwl, ‘Mae ymchwil Rebecca gyda phlant mabwysiedig a’u teuluoedd yn hanfodol i wneud yn siŵr bod ymyriadau iechyd meddwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn cyrraedd y rhai sydd eu hangen.’ Ychwanegon nhw: ‘Cydnabu’r beirniaid ymrwymiad arbennig Rebecca i’w gwaith. Diolch i’w hymdrechion parhaus, mae anghenion teuluoedd mabwysiadol wedi’u hamlygu mewn lleoliadau llywodraeth, ar lefel ymarferwyr lleol, yn ogystal â chynadleddau rhyngwladol.

Dywedodd Dr Anthony “Rwyf ar ben fy nigon i dderbyn y wobr hon. Mae safon yr ymchwil ym maes iechyd meddwl mor uchel, felly mae’n fraint enfawr i bobl gyfeirio ata i yn yr un modd ag ymchwilwyr eraill mor wych. Mae’r wobr hon yn dangos pwysigrwydd ymchwil barhaus gyda phlant sydd â phrofiad o ofal. Rwy’n gobeithio y bydd ymchwil yn y degawd nesaf yn symud tuag at werthuso ymyriadau i gefnogi plant mabwysiedig o ddechrau eu taith fabwysiadu byddant yn oedolion.’

Mae rhagor o wybodaeth am waith Dr Anthony ar gael yma. Mae ei chyfrif Twitter i’w weld yma.