Mae Bethan Pell, sy’n fyfyriwraig PhD yn DECIPHer, yn myfyrio ar ei phrofiad o gymryd rhan yn y gystadleuaeth Three Minute Thesis ( 3MT®), lle cyflwynodd ar ei hymchwil ar Drais a Cham-drin gan Blant at Rieni (CAPVA) Rhybudd – fe enillodd hi!
Tu hwnt i’m parth cysur
Mae 3MT® yn gystadleuaeth lle mae myfyrwyr PhD o bob rhan o’r brifysgol yn cael eu herio i gyflwyno eu PhD mewn dim ond 3 munud, gan ddefnyddio un sleid yn unig! Er mwyn gwneud hyn hyd yn oed yn anoddach, mae’n rhaid i chi gyfleu’ch PhD yn gryno i gynulleidfa leyg, anacademaidd. Mae hyn yn golygu na fyddai gan y gynulleidfa ddealltwriaeth sylfaenol o’n meysydd, felly ni chaniateir iaith gymhleth na jargon! Ni chewch fynd dros dri munud, chwaith – maen nhw’n eich amseru, ac os ewch chi dros yr amser hwnnw, byddwch yn cael eich gwahardd o’r gystadleuaeth. Brawychus, onid ydyw?!
Fe wnaeth ambell beth fy ysgogi i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, fodd bynnag. Fe wnaeth y cymhelliant o gael £20 (yr oedd yr holl gyfranogwyr a gymerodd ran yn ei dderbyn), rhaid cyfaddef, fy hudo i ddechrau (mae’n rhaid fy mod i’n teimlo’n arbennig o dlawd y diwrnod hwnnw!). Fodd bynnag, fy mhrif ysgogiad oedd yr her. Roeddwn i wedi cyflwyno mewn cynadleddau cwpl o weithiau ac i wahanol grwpiau ymchwil ond doeddwn i erioed wedi cymryd rhan mewn unrhyw beth fel hyn o’r blaen ac roeddwn i’n teimlo y byddai’n fy nhynnu allan o’m parth cysur. Roeddwn i hefyd yn meddwl y byddai’n rhoi cyfle i mi ddatblygu sgil unigryw o gyfleu effaith fy ymchwil, mewn ffordd hylaw, emosiynol, i gynulleidfa leyg anacademaidd – sy’n sgiliau hanfodol o ran cyfleu ymchwil ar gyfer newidiadau polisi ac ymarfer.
Fy PhD yn gryno…
Fy mhwnc yn gyffredinol yw trais a cham-drin teuluol, ond yn fwy penodol Trais a Cham-drin gan Blant at Rieni (neu CAPVA). Mae’n faes sydd wedi cael ei esgeuluso braidd mewn ymchwil, yn enwedig o gymharu â mathau eraill o drais a cham-drin teuluol, fel trais a cham-drin domestig, neu gam-drin plant. Mae’r diffyg ymchwil yn golygu bod gennym ddealltwriaeth gyfyngedig, fframweithiau polisi ac ymyrraeth gyfredol ar gyfer sut i fynd i’r afael â CAPVA ac ymateb iddo. Mae i hyn oblygiadau dinistriol i deuluoedd, sydd angen cefnogaeth ac ymyrraeth dybryd. Fodd bynnag, y cam hanfodol cyntaf tuag at ddatblygu ymyriadau yw cael dealltwriaeth ddamcaniaethol o’r broblem, ac nid oes gennym hyn ar gyfer CAPVA ar hyn o bryd.
Roeddwn i’n teimlo’n ofnadwy o nerfus ar y diwrnod, i’r graddau fy mod wedi colli’r bws gan ‘mod i’n mynd drosto yn fy mhen!
Nod fy PhD yw mynd i’r afael â’r bwlch hwn trwy ddatblygu ein dealltwriaeth ddamcaniaethol fel cam cyntaf hanfodol, i lywio a datblygu ymyriadau sy’n mynd i’r afael â’r ffenomen gymhleth hon ac ymateb yn briodol iddi.
Yr holl baratoi (ac ymarfer)
Roedd yr Academi Ddoethurol, sy’n trefnu digwyddiad Prifysgol Caerdydd, yn amhrisiadwy wrth baratoi ar gyfer 3MT®. Fe wnaethant roi llawer o syniadau ac awgrymiadau ymarferol ar sut i baratoi. Gwnaethant argymell ysgrifennu naratif tebyg i stori, gyda dechrau, canol a diwedd clir a oedd yn amlygu pwysigrwydd ac effaith a ddymunir ein hymchwil. Fe wnaethant awgrymu defnyddio ‘bachyn’ cychwynnol, agoriad bachog a fyddai’n dal y gynulleidfa a’u tynnu i mewn i’n sgyrsiau. Rhoddon nhw feini prawf y beirniaid i ni, felly roedden ni’n gwybod beth fydden nhw’n chwilio amdano ar y diwrnod a chawsom fynediad at sgyrsiau’r llynedd, i roi rhywfaint o ysbrydoliaeth i ni.
Yn olaf, cawsom gyfle i fynychu sesiwn adborth gyda’n cyd-gyfranogwyr. Hwn oedd y mwyaf defnyddiol ac rwy’n credu ei fod wedi bod hyn yn allweddol i fy llwyddiant, mewn gwirionedd – nid wyf yn credu y byddai fy nghyflwyniad wedi bod hanner cystal heb gefnogaeth ac adborth y cydlynydd 3MT® a’m cyd-gyfoedion. Fe wnes i adael y sesiwn gan wybod bod yn rhaid i mi wella fy ‘machyn’ a chyfleu effaith fy ymchwil. Yna, treuliais lawer o amser (ac rwy’n golygu llawer o amser) yn mireinio hyn! Pan oeddwn i’n meddwl bod fy sgript yn berffaith, bues yn ei ymarfer drosodd a throsodd, i deulu, ffrindiau a chyfoedion.
Pam ydw i’n gwneud hyn eto?!
Roeddwn i’n teimlo’n hynod nerfus ar y diwrnod, i’r graddau fy mod wedi colli fy mws i’r gystadleuaeth gan ‘mod i’n mynd drosto yn fy mhen – fodd bynnag, dwi’n meddwl bod y camau ychwanegol i’r swyddfa wedi helpu fy nerfau, felly doedd hynny ddim yn ddrwg i gyd. Roedd ychydig o bobl yn gwybod, fel fy ngoruchwylwyr a rhai cyfoedion, ac fe wnaethant ddymuno pob lwc i mi, ond fe wnes i gadw’n dawel amdano yn bennaf!
Roedd sawl adeg yn ystod y cyfnod paratoi pan aeth fy nghymhellion cychwynnol dros gymryd rhan fynd yn angof ac roeddwn i’n meddwl tybed beth oedd wedi dod drosta’ i.
I ddechrau, roedd distyllu traethawd ymchwil cyfan i gyflwyniad 3MT® yn teimlo’n amhosibl. Mae CAPVA yn bwnc cymhleth iawn, sensitif ac emosiynol i siarad amdano ac roeddwn i eisiau gwneud cyfiawnder ag ef. Rwyi’n gwybod pam mae fy mhwnc yn bwysig, rwy’n gwybod pam mae angen fy ymchwil ac rwy’n gwybod pa effaith rydw i eisiau iddo ei chael – ond roedd cyflwyno hynny mewn tri munud byr i gynulleidfa leyg yn anodd, a dweud y lleiaf. Cymerodd amser i mi fireinio fy sgwrs i fan lle roeddwn i’n teimlo ei fod yn gwneud synnwyr, wedi adrodd stori ac yn cyfleu effaith.
Roeddwn hefyd yn teimlo’n hynod bryderus am y peth. Roedd sawl adeg yn ystod y cyfnod paratoi lle aeth fy nghymhellion cychwynnol dros gymryd rhan yn angof ac roeddwn i’n meddwl tybed beth oedd wedi dod drosta’ i. Ond cefais lawer o gefnogaeth o’m cwmpas a phobl yn fy atgoffa o’r ymdeimlad o gyflawniad a boddhad y byddwn i’n ei deimlo wedyn.
A’r enillydd yw…
Roedd y digwyddiad ei hun yn anhygoel. Roedd yn rhyfeddol gweld fy nghyd-fyfyrwyr PhD yn bresennol. Roeddwn i’n teimlo fy mod i wedi cael fy ysbrydoli gan bob un ohonyn nhw a’r ymchwil eithriadol roedden nhw i gyd yn ei wneud. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i wedi ennill, roedd yn gymaint o sioc ond roeddwn i wrth fy modd – gallwch weld hynny o’m gwên fawr yn y llun? Roedd cymaint o gyflwyniadau da, felly roeddwn i’n teimlo’n lwcus iawn ac rwy’n gyffrous i wario’r wobr o £250 – efallai rhywbeth moethus na fyddwn i’n ei brynu i fi fy hun i ddathlu fel arfer; efallai sbectol haul arbennig?!
Y brif wers rwyf wedi’i chymryd o’r profiad hwn yw bod rhaid i chi weithiau dynnu eich hun o’ch parth cysur – dydych chi byth yn gwybod beth y gallech ei gyflawni oni bai eich bod chi’n rhoi eich hun allan yna.
Bydd recordiad y cyflwyniad yn cael ei gynnwys yn y rowndiau cynderfynol cenedlaethol a gynhelir gan Vitae yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst. Cyhoeddir y chwech sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol erbyn 20 Awst – dymunwch bob lwc imi!
Darllenwch fwy am ei gwaith yma: Miss Bethan Pell – Pobl – Prifysgol Caerdydd.
Ceir mwy o wybodaeth am gystadleuaeth Vitae Three Minute Thesis (3MT) yma: Cystadleuaeth Vitae Three Minute Thesis (3MT®®) — gwefan Vitae