Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol sy’n gofyn i bob ysgol sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer trin a thrafod iechyd y meddwl a lles teimladol yn ei gwaith beunyddiol. Gan nad yw dull o’r fath wedi’i ddefnyddio i’r graddau hyn mewn unrhyw le erioed, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i’w helpu i lunio ffordd o asesu dull ysgol gyfan yn ôl meini prawf newid a gwerthuso.
Adolygodd yr ymchwilwyr ddogfennau am bolisïau ac arferion cyn cyhoeddi adroddiadau, yn ogystal â chyfweld budd-ddalwyr pwysig. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod angen canolbwyntio’n gryf ar y gweithredu i gyflawni nodau a gwneud y gorau o’r cyfleoedd i hwyluso deilliannau. Ar ôl dadansoddi’r dystiolaeth oedd ar gael ynghylch defnyddio dull ysgol gyfan, cyflwynodd yr ymchwilwyr gyfres o argymhellion. Disgrifion nhw’r rheiny’n elfennau craidd gweithredu yn ôl dull ysgol gyfan, gan eu hargymell yn fan cychwyn gweithredu cyson ym mhob ysgol.
Dyma rai camau sydd wedi’u hargymell:
• Adolygu polisïau’r ysgol ynghylch iechyd y meddwl a lles teimladol.
• Cymorth a hyfforddiant er lles y staff.
• Mapio asedion a chryfderau i nodi arferion a medrau presennol.
• Mireinio perthnasoedd â gwasanaethau allanol i ofalu y bydd llwybrau atgyfeirio effeithiol.
• Asesu anghenion pawb yn yr ysgol i’w deall yn drylwyr.
Dywedon ni fod angen i bob ysgol gael gwneud hynny’n hyblyg, yn ôl ei gallu a’i hadnoddau, a phennu ei blaenoriaethau a’i chamau ei hun ynghylch dull ysgol gyfan yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf o drin a thrafod cynnwys yr ystafell ddosbarth yn effeithiol. Nododd canlyniadau’r ymchwil anawsterau sylweddol ynghylch nodi dulliau gwerthuso a fydd yn briodol i gymhlethdod dull ysgol gyfan o ran ehangder a natur ysgolion y wlad, rhaglen y dulliau ysgol gyfan a’r ffordd o gloriannu unrhyw newidiadau a allai ddeillio ohoni. Bydd yr adroddiad hwn yn llywio ffordd Llywodraeth Cymru o lunio a gwerthuso dull ysgol gyfan a helpu ysgolion i ateb y gofynion yn unol â’r canllawiau statudol.
Gan fod digon o hyblygrwydd yn y rhaglen hon, bydd yn anos ei chloriannu ac rydyn ni’n argymell gwerthuso hirdymor gan gynnwys mesur y broses a’r deilliannau fel ei gilydd a defnyddio amrywiaeth helaeth o ddata. Canolfan Wolfson Prifysgol Caerdydd fydd yn arwain y gwerthuso ar draws y wlad, a bydd yn dechrau eleni. Byddwn ni’n ystyried ymchwil mewn meysydd eraill i helpu i gyflwyno a defnyddio dull ysgol gyfan hefyd megis datblygu proffesiynol staff, defnyddio data i bennu camau a lledaenu data ymhlith yr ysgolion, y consortia a’r awdurdodau lleol.
Dyma’r adroddiad yn ei gyfanrwydd
Cydymaith Ymchwil yn DECIPHer a Chmrawd Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer lechyd Meddwl Pobl Ifanc yw Rachel Brown. Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yng nghyfres Wolfson Research Spotlight.