Mynd i'r cynnwys
Home » Asesu dull yr ysgol gyfan o drin a thrafod iechyd a lles y meddwl

Asesu dull yr ysgol gyfan o drin a thrafod iechyd a lles y meddwl

  • Flog

 

 

Yn 2021, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ganllawiau statudol sy’n gofyn i bob ysgol sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer trin a thrafod iechyd y meddwl a lles teimladol yn ei gwaith beunyddiol. Gan nad yw dull o’r fath wedi’i ddefnyddio i’r graddau hyn mewn unrhyw le erioed, comisiynodd Llywodraeth Cymru ymchwil i’w helpu i lunio ffordd o asesu dull ysgol gyfan yn ôl meini prawf newid a gwerthuso.

 

 

Rachel Brown

Adolygodd yr ymchwilwyr ddogfennau am bolisïau ac arferion cyn cyhoeddi adroddiadau, yn ogystal â chyfweld budd-ddalwyr pwysig. Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod angen canolbwyntio’n gryf ar y gweithredu i gyflawni nodau a gwneud y gorau o’r cyfleoedd i hwyluso deilliannau. Ar ôl dadansoddi’r dystiolaeth oedd ar gael ynghylch defnyddio dull ysgol gyfan, cyflwynodd yr ymchwilwyr gyfres o argymhellion. Disgrifion nhw’r rheiny’n elfennau craidd gweithredu yn ôl dull ysgol gyfan, gan eu hargymell yn fan cychwyn gweithredu cyson ym mhob ysgol.

Dyma rai camau sydd wedi’u hargymell:
• Adolygu polisïau’r ysgol ynghylch iechyd y meddwl a lles teimladol.
• Cymorth a hyfforddiant er lles y staff.
• Mapio asedion a chryfderau i nodi arferion a medrau presennol.
• Mireinio perthnasoedd â gwasanaethau allanol i ofalu y bydd llwybrau atgyfeirio effeithiol.
• Asesu anghenion pawb yn yr ysgol i’w deall yn drylwyr.

Dywedon ni fod angen i bob ysgol gael gwneud hynny’n hyblyg, yn ôl ei gallu a’i hadnoddau, a phennu ei blaenoriaethau a’i chamau ei hun ynghylch dull ysgol gyfan yn ôl y dystiolaeth ddiweddaraf o drin a thrafod cynnwys yr ystafell ddosbarth yn effeithiol. Nododd canlyniadau’r ymchwil anawsterau sylweddol ynghylch nodi dulliau gwerthuso a fydd yn briodol i gymhlethdod dull ysgol gyfan o ran ehangder a natur ysgolion y wlad, rhaglen y dulliau ysgol gyfan a’r ffordd o gloriannu unrhyw newidiadau a allai ddeillio ohoni. Bydd yr adroddiad hwn yn llywio ffordd Llywodraeth Cymru o lunio a gwerthuso dull ysgol gyfan a helpu ysgolion i ateb y gofynion yn unol â’r canllawiau statudol.

Gan fod digon o hyblygrwydd yn y rhaglen hon, bydd yn anos ei chloriannu ac rydyn ni’n argymell gwerthuso hirdymor gan gynnwys mesur y broses a’r deilliannau fel ei gilydd a defnyddio amrywiaeth helaeth o ddata. Canolfan Wolfson Prifysgol Caerdydd fydd yn arwain y gwerthuso ar draws y wlad, a bydd yn dechrau eleni. Byddwn ni’n ystyried ymchwil mewn meysydd eraill i helpu i gyflwyno a defnyddio dull ysgol gyfan hefyd megis datblygu proffesiynol staff, defnyddio data i bennu camau a lledaenu data ymhlith yr ysgolion, y consortia a’r awdurdodau lleol. 

 Dyma’r adroddiad yn ei gyfanrwydd

Cydymaith Ymchwil yn DECIPHer a Chmrawd Ymchwil yng Nghanolfan Wolfson ar gyfer lechyd Meddwl Pobl Ifanc yw Rachel Brown. Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yng nghyfres Wolfson Research Spotlight.

Ariennir yr astudiaeth hon gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.