I nodi dechrau Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth, mae Abbey Rowe yn trafod ei PhD ar sut mae ysgolion uwchradd yn effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc niwroamrywiol, yn enwedig rhai sydd ag ADHD
Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn fenter flynyddol arloesol sy’n ceisio helpu’r byd i ddeall, gwerthfawrogi a dathlu gwahaniaethau, cryfderau a thalentau meddyliau niwroamrywiol. Ym mis Hydref 2022, roeddwn i ar ben fy nigon pan ddyfarnwyd ysgoloriaeth PhD tair blynedd i fi gyda DECIPHer a Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson i gynnal ymchwil sy’n cyd-fynd yn gryf â phwrpas a chenhadaeth y fenter wych hon. Yn y blog hwn rwy’n gobeithio cynnig cipolwg ar gynlluniau fy mhrosiect ymchwil presennol, fy nghymhellion i astudio’r pwnc pwysig hwn a’r daith hyd yn hyn.
Teitl y prosiect yw Rôl ysgolion yn y gwaith o gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc niwroamrywiol. Y nod cyffredinol yw deall sut y gallai arferion dydd-i-ddydd ysgolion uwchradd, sy’n dylanwadu ar iechyd meddwl eu disgyblion, gael effeithiau arbennig o bwysig ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc niwroamrywiol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sydd ag Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Ar hyn o bryd mae’r prosiect wedi’i gynllunio mewn tri cham.
Y cam cyntaf fydd dadansoddi data eilaidd o’r arolygon Rhwydweithiau Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), a gwblheir bob dwy flynedd gan bob ysgol uwchradd yng Nghymru. Byddaf yn archwilio dichonoldeb cysylltu’r setiau data hyn yn ddigidol â data cofnodion iechyd meddwl ac addysg cenedlaethol o ddiagnosis ADHD drwy fanc data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw yn Ddiogel (SAIL). Trwy ddadansoddiad trawstoriadol a hydredol, fy nod yw archwilio i ba raddau y mae’r cysylltiad rhwng niwroamrywiaeth a mesurau gorbryder, iselder a lles yn wahanol rhwng ysgolion.
Bydd canfyddiadau cam hwn y prosiect yn helpu i lywio’r ail gam, sy’n cynnwys samplu ysgolion astudiaeth achos er mwyn creu esboniadau pam y gallai rhai ysgolion fod yn gwneud yn well nag eraill wrth atal iselder a gorbryder, a hybu lles ymhlith pobl ifanc sydd ag ADHD.
Bydd y rhan olaf yn defnyddio canlyniadau’r camau hyn i lywio penderfyniadau ar fesurau amgylchedd yr ysgol i fodelu ac o bosibl esbonio’r amrywiaeth rhwng ysgolion o ran canlyniadau ar gyfer y bobl ifanc hyn.
Fy ngobaith yn y pen draw yw y bydd y prosiect ymchwil yn arwain at ddealltwriaeth a all lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a strategaethau iechyd meddwl dan arweiniad niwroamrywiaeth i ysgolion ledled Cymru.
– Abbey
Cefais fy nenu at y prosiect am ei fod yn cyfuno nifer o ddiddordebau rwyf i wedi’u datblygu ar draws fy mywyd gwaith fel athro a chydlynydd prosiect trydydd sector. Agorodd addysgu fy llygaid i’r heriau a wynebai pobl ifanc niwroamrywiol oedd yn aml yn ei chael hi’n anodd ffynnu yn yr ysgol. Roedd yn amlwg bod ysgolion yn brwydro i ddarparu ar gyfer eu myfyrwyr, ond roedd cydnabyddiaeth gynyddol o’r cynnydd mewn anawsterau iechyd meddwl oedd yn wynebu pobl ifanc yn golygu bod hyn yn heriol.
Yna dechreuais weithio gyda Mind Casnewydd, yn cydlynu prosiect Dull Ysgol Gyfan (WSA), gan ddatblygu a chyflwyno ymyriadau iechyd meddwl wedi’u teilwra ar gyfer myfyrwyr, staff a rhieni/gofalwyr ysgolion uwchradd lleol. Roedd yr ysgolion yn aml yn cael trafferth diwallu anghenion uchel eu disgyblion ac yn awyddus i ddeall sut i wneud newidiadau cynaliadwy er mwyn i’w systemau gyd-fynd â gweithredu fframwaith WSA 2021 Llywodraeth Cymru.
Ar ôl pedair blynedd yn gweithio ar y prosiect WSA, es i seminar ar-lein Canolfan Wolfson a gyflwynwyd gan yr Athro Graham Moore â’r teitl Improving mental health within complex school systems. Dyna pryd y sylweddolais beth oedd yr effaith bosib y gallai ymchwil yn y maes hwn ei gael ar rai o’r bobl ifanc mwyaf bregus yng Nghymru. Pan gododd y cyfle i gynnal ymchwil a allai helpu i ddeall sut y gallai ysgolion uwchradd gefnogi eu cymunedau ifanc a niwroamrywiol, fe neidiais at y cyfle i ymgeisio. Fy ngobaith yn y pen draw yw y bydd y prosiect ymchwil yn arwain at ddealltwriaeth a all lywio’r gwaith o ddatblygu polisïau a strategaethau iechyd meddwl dan arweiniad niwroamrywiaeth i ysgolion ledled Cymru.
Mae gweithio o fewn DECIPHer yn adeilad newydd SBARC |SPARK wedi bod yn daith anhygoel hyd yma, gan roi cyfle i mi ddysgu gan weithwyr proffesiynol blaenllaw ym maes iechyd meddwl pobl ifanc. Un o’r uchafbwyntiau yw mynychu digwyddiadau dysgu rheolaidd lle mae ymchwilwyr yn dod at ei gilydd i rannu a thrafod eu prosiectau ymchwil yn feirniadol. Rwy’n gwybod y byddaf i’n parhau i ddysgu gan y tîm dros y tair blynedd nesaf ac rwy’n edrych ymlaen at rannu fy nghanfyddiadau ymchwil fy hun yn y dyfodol agos.
Rwy’n ddiolchgar fod yr astudiaeth yn cael ei hariannu gan Sefydliad Wolfson drwy Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc gyda thîm gwych, rhyngddisgyblaethol o oruchwylwyr, gan gynnwys yr Athro Graham Moore (Gwyddorau Cymdeithasol), Dr Kate Langley (Seicoleg) a’r Athro Anita Thapar (Seiciatreg Plant). Wrth i’r PhD fynd rhagddo, mi wnaf i’n siŵr fy mod yn diweddaru blog DECIPHer.