Mynd i'r cynnwys
Home » ‘Dim llai na thrawsnewidiol’ – interniaeth Kayleigh

‘Dim llai na thrawsnewidiol’ – interniaeth Kayleigh

  • Flog

Gwnaeth Kayleigh Nash, myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol yn ei hail flwyddyn, gymryd rhan yng Nghynllun Interniaeth Ar y Campws Prifysgol Caerdydd yn haf 2024. Yma, mae’n edrych ar sut y gwnaeth elwa o’i hinterniaeth yn y Canolfan Treialon Ymchwil a DECIPHer.

Fel myfyriwr Gwyddorau Biofeddygol, roedd bob amser gen i ddiddordeb mawr mewn ymchwil wyddonol, felly pan gododd y cyfle i gael profiad o weithio ochr yn ochr â thîm o ymchwilwyr, ro’n i wrth fy modd, ond braidd yn nerfus! Er fy mod i wedi ymchwilio i gyfrifoldebau dyddiol ymchwilydd o’r blaen, doedd gen i ddim profiad uniongyrchol mewn tîm ymchwil. Serch hynny, ro’n i’n argyhoeddedig mai gyrfa mewn ymchwil oedd y llwybr cywir i mi. Wrth i mi aros yn eiddgar at ddechrau fy interniaeth, bues i’n pendroni ynghylch a fyddai’r rôl yn bodloni fy nisgwyliadau ac yn cynnig y profiad ymarferol yr oedd ei angen arnaf i gadarnhau fy nyheadau.

Gwaith tîm sy’n bwysig


Roedd y diwrnodau cyntaf yn gorwynt o gyflwyniadau a chyfeiriadu ar draws y Ganolfan Ymchwil Treialon a DECIPHer, yn ogystal ag ymgyfarwyddo â’r prosiect ymchwil ro’n i’n gweithio arno. Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ymarferoldeb cyflwyno rhaglen rianta yn rhithwir – pwnc amlwg iawn ar ôl y pandemig. Ces i groeso cynnes gan y tîm ar unwaith, a gwahoddiad i gyfarfodydd tîm prosiect wythnosol i drafod cynnydd a gweithrediad yr astudiaeth. Roedd yn werthfawr cael bod yn rhan o’r cyfarfodydd hyn a gweld sut mae rolau amrywiol mewn tîm ymchwil yn cydweithio ac yn dod â gwahanol agweddau o ymchwil i’r astudiaeth.

Roedd fy rôl yn y tîm yn canolbwyntio ar ddiweddaru’r wybodaeth gefndir am gyflwyno rhaglenni rhianta’n rhithwir, trwy ymchwilio i’r llenyddiaeth berthnasol. Gydag arweiniad fy ngoruchwylwyr a’r llyfrgellydd pwnc, llwyddais i ddiweddaru’r wybodaeth gefndir. Gwnes i hynny trwy greu strategaeth chwilio, rhedeg y chwiliad ar gronfeydd data gwyddonol a sgrinio am erthyglau perthnasol. Gwnaeth hyn nid yn unig fy ngalluogi i gael dealltwriaeth well o’r ymchwil gyfredol yn y maes hwn, ond hefyd fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau ymchwil a fydd yn hynod fuddiol wrth gwblhau gwaith cwrs ac asesiadau yn y dyfodol.

Ochr yn ochr â’r rôl hon, ces i wahoddiad i fynychu amrywiaeth o gyfarfodydd drwy gydol fy interniaeth. Roedd y rhain yn cynnwys cyfarfodydd ar gyfer y ganolfan gyfan yn y Ganolfan Ymchwil Treialon a DECIPHer ac roedden nhw’n wych ar gyfer dysgu mwy am weithrediad y ddwy adran, gan hefyd gynnig cipolwg manylach ar y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Fel interniaid, cawson ni hefyd gyfle i gymryd rhan mewn cyrsiau byr a oedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am gysyniadau allweddol sy’n sail i strategaethau ymchwil.

Profiad gwerthfawr


Mae’r profiad hwn wedi bod yn ddim llai na thrawsnewidiol, ac mae wedi rhoi cipolwg llawer manylach i mi ar fyd cyffrous ymchwil. Rydw i wedi dysgu mwy am strwythur timau ymchwil, a’r amrywiaeth o rolau y mae timau ymchwil yn eu cynnwys; amserlen astudiaeth, o’r cais cychwynnol am gyllid i’r camau lledaenu; yn ogystal â dulliau ymchwil amrywiol do’n i ddim yn gyfarwydd â nhw o’r blaen, fel gwaith cof.

Mae’r interniaeth hon yn sicr wedi atgyfnerthu fy angerdd am ymchwil wyddonol. Wrth i mi barhau â’m taith academaidd, rwy’n gyffrous iawn i adeiladu ar y sylfaen hon ac archwilio llwybrau ymchwil newydd. I unrhyw fyfyrwyr sy’n ystyried interniaeth, rwy’n argymell gwneud cais yn fawr – mae’r rhaglen hon wedi bod yn garreg gamu enfawr i fyd ymchwil ac wedi agor fy llygaid i lawer o gyfleoedd yn y dyfodol.

Cafodd Kayleigh ei goruchwylio gan Nina Jacob a Jeremy Segrott. Mae rhagor o wybodaeth am Gynllun Interniaeth Ar y Campws Prifysgol Caerdydd ar gael yma: Darllenwch ragor.