Mynd i'r cynnwys
Home » Cyrsiau byr DECIPHer 2023 – sut wnaethom ni?

Cyrsiau byr DECIPHer 2023 – sut wnaethom ni?

  • Flog

Elfen allweddol o raglen ymchwil dulliau DECIPHer yw ein cyfres o gyrsiau byr sy’n cynnig hyfforddiant ar ddulliau ar gyfer gwyddor ymyrraeth iechyd cyhoeddus, yn cwmpasu datblygu, gwerthuso ac addasu ymyriadau. Bob blwyddyn, rydym yn cyflwyno cwrs haf wythnos sy’n cwmpasu cyflwyniad i amrywiaeth o ddulliau ac egwyddorion, ac wedyn cyrsiau undydd unigol yn ddiweddarach yn y flwyddyn sy’n edrych yn fanylach ar ddulliau penodol. Hefyd, rydym yn cyflwyno fersiynau pwrpasol o’r cyrsiau hyn i grwpiau ymchwil ac ymarferwyr ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Eleni, bu’n flwyddyn arbennig o brysur wrth gyflwyno cyrsiau byr ac, yma, mae ein harweinydd cyrsiau byr, Jemma Hawkins, yn edrych yn ôl ar sut aeth hi.

Yn 2023, aethom ati eto i gyflwyno ein holl gyrsiau yng Nghaerdydd yn gyfan gwbl wyneb yn wyneb, gyda’n cwrs haf wythnos yn digwydd wyneb yn wyneb am y tro cyntaf ers 2019. Roedd hi’n wych gallu cyfarfod â mynychwyr y cwrs wyneb yn wyneb a chael cyfle i ddod i’w hadnabod rhwng sesiynau ac yn digwyddiadau cymdeithasol a gynhaliwyd trwy gydol yr wythnos. Am y tro cyntaf, cynhaliom y cwrs yn lleoliad newydd DECIPHer, sef Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Roedd yr adeilad yn boblogaidd iawn gyda mynychwyr y cwrs, gyda gemau tenis bwrdd amser cinio yn uchafbwynt arbennig! Yn gyfan gwbl, mynychodd 31 o bobl y cwrs, gan gynrychioli 13 maes gwahanol ac yn dod o lawer o wahanol fannau ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Cafodd y cwrs yr adborth mwyaf cadarnhaol hyd yn hyn, gydag un mynychwr yn dweud: “Mae hwn wedi bod yn brofiad dysgu gwych. Rhodwyd ystyriaeth dda iawn i’r wythnos gyfan. Fe wnaeth hyd darlithoedd, amseroedd egwyl a digwyddiadau cymdeithasol greu amgylchedd addysgiadol, cefnogol a chyfeillgar”.

Gallwch ddarllen mwy am y cwrs hwn mewn blog ar wahân gan gydymaith ymchwil DECIPHer, Sam Garay, yma: https://decipher.uk.net/cy/flog/gorchwyl-a-gorffen-a-denis-bwrdd-cwrs-byr-decipher/

Yn fwy diweddar, fe wnaethom gyflwyno ein tri chwrs undydd arbenigol ar Astudiaethau Dichonoldeb, Gwerthuso Prosesau ac Addasu Ymyriadau i Gyd-destunau Newydd, sy’n cyflwyno golwg fanylach ar ddulliau penodol ar sail arweiniad methodolegol y mae DECIPHer wedi’i arwain neu wedi ymwneud ag ef. Mae’r cyrsiau hyn yn ffordd allweddol y mae ein hymyriadau methodolegol, a ddatblygwyd yng Nghymru, yn ymledu i gyd-destunau cenedlaethol a rhyngwladol eraill. Er enghraifft, eleni, fe wnaeth y cyrsiau ddenu cynulleidfa ryngwladol, gan gynnwys grŵp o Beriw rydym ni’n cydweithredu â nhw, a fydd yn defnyddio dulliau a ddatblygwyd gan DECIPHer i addasu ymyriadau er mwyn trosglwyddo ymyrraeth cymorth dementia o gyd-destun yr Unol Daleithiau i gyd-destun Periw.

Dull gweithredu wedi’i deilwra

Hefyd, rydym wedi bod yn eithaf prysur gyda chyrsiau pwrpasol eleni, gan gynnal tri hyd yn hyn a dau arall i ddod yn nes ymlaen yn y flwyddyn. I ddechrau, roedd cwrs ar-lein undydd ar werthuso prosesau a gyflwynwyd i weithwyr y llywodraeth yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Addaswyd cynnwys y cwrs i faes gwaith y sefydliad ac i ymgorffori eu canllawiau methodolegol mewnol nhw. Roedd y cwrs yn boblogaidd tu hwnt o fewn y sefydliad, gyda 55 o weithwyr wedi mynegi diddordeb ynddo.

Yn sgil hyn, cyflwynom gwrs tridiau wyneb yn wyneb i staff Prifysgol Ulster, Belfast, a ganolbwyntiodd ar gyflwyno gwahanol ddulliau a ddefnyddir ar gyfer datblygu, gwerthuso, addasu a gweithredu ymyriadau cymhleth. Croesawyd y cwrs gan yr Athro Laurence Taggart, a oedd wedi mynychu ein cwrs haf yng Nghaerdydd yn flaenorol. Gan fyfyrio ar y cwrs, meddai:

“Daeth bron i ddeugain o ymchwilwyr PhD, ymchwilwyr gyrfa gynnar a Darlithwyr/Athrawon prifysgol i’r cwrs hwn. Roedd adborth yn rhagorol gan bawb. Roedd perthnasedd y cynnwys, arbenigedd y staff a gyflwynodd y cwrs, yr enghreifftiau ymchwil o fywyd go iawn a ddefnyddiwyd i ategu’r theori/y fethodoleg, y sesiynau rhyngweithiol, a’r lle a’r amser i siarad â staff DECIPHer yn anhygoel. Roedd cyffro arbennig yn yr aer bob dydd. Heb os, byddwn yn argymell bod prifysgolion eraill yn ystyried gwahodd staff DECIPHer i gyflwyno’r cwrs hwn.”

Helo Byd!

Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio gyda chydweithwyr yn Sefydliad Karolinksa, Sweden, i gyflwyno fersiwn hwy o’n cwrs haf byr i ymgeiswyr doethurol yn Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd fel rhan o’r catalog o gyrsiau hyfforddiant doethurol â chredyd sydd ar gael. Ym mis Mai a mis Mehefin eleni, cyflwynom y cwrs am y trydydd tro i bymtheg myfyriwr newydd dros gyfnod o dair wythnos, gan gynnwys cyfuniad o ddarlithoedd a grwpiau trafod ar-lein, wedi’u recordio ymlaen llaw ac wyneb yn wyneb. Datblygodd y cwrs hwn wedi i’r arweinydd yn Stockholm ddod i’n cwrs haf yng Nghaerdydd ac roedd yn awyddus i gynnig rhywbeth tebyg i fyfyrwyr doethurol yn ei adran ac, ers ei ddechrau, mae wedi arwain at gydweithrediadau doethurol rhyngwladol newydd rhwng DECIPHer a nifer o brifysgolion Sgandinafia.

Yna yn olaf ym mis Awst, cyflwynom gwrs Gwerthuso Prosesau ar-lein pwrpasol arall, y tro hwn i staff ym Mhrifysgol Monash, Awstralia. Cafodd ei gyflwyno i grŵp o gydweithwyr yn yr Ysgol Glinigol Ganolog, a nododd fod DECIPHer wedi’i gydnabod yn rhyngwladol fel darparwr cynnwys yn y maes hwn. Cyflwynodd cydweithwyr yn y DU y cwrs hwn dros nos, oherwydd y gwahaniaeth mewn amser, i grŵp cyfeillgar a chwilfrydig iawn. Roedd adborth ar y cwrs yn gadarnhaol iawn a, hefyd, dysgom lawer am ffyrdd o weithio yn y sector iechyd yn Awstralia. Roedd hwn yn gyfle gwych i adeiladu cysylltiadau a rhwydweithiau newydd.

Gwyliwch y gofod hwn am flogiau a myfyrdodau i ddod ar ein cyrsiau yng Nghaerdydd a’n cynigion pwrpasol, a chadwch lygad ar ein tudalennau cyrsiau byr i gael gwybodaeth am ddyddiadau cyrsiau’r flwyddyn nesaf.

Mae rhagor o wybodaeth am gyrsiau byr DECIPHer ar gael yma a gallwch gofrestru ar gyfer ein rhestr bostio i gael gwybodaeth yma