Mynd i'r cynnwys
Home » ‘Grŵp croesawgar ac ysbrydoledig iawn.’ Myfyrwraig PhD, Nina, yn trafod ei chyfnod yn DECIPHer

‘Grŵp croesawgar ac ysbrydoledig iawn.’ Myfyrwraig PhD, Nina, yn trafod ei chyfnod yn DECIPHer

  • Flog
O’r llun ar dop yr ochr chwith: Cyflwyno i DECIPHer; Parkrun Ynys y Barri; Dechrau’r Parkrun; Blasu bwydydd o Gymru; Gwylio’r rygbi yn Stadiwm Principality

Mae Nina Johansson yn fyfyrwraig PhD mewn iechyd cyhoeddus
sydd yn ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Uppsala, Sweden.
Mae ganddi radd baglor mewn gwyddorau gwleidyddol a gradd meistr mewn iechyd y cyhoedd. Drwy gynllun Grant Symudedd Taith,
ymwelodd Nina â DECIPHer am bythefnos.

Beth ddaeth â chi i DECIPHer?

Ges i’r profiad cyntaf o waith DECIPHer drwy Jeremy Segrott yn ystod y cam cyntaf swyddogol ar fy nhaith PhD. Cafodd Jeremy wahoddiad i fod yn adolygwr allanol yn fy ‘seminar cynllunio’r prosiect’ ar ddechrau 2022. Yn fy adran i, rydyn ni fel arfer yn ceisio cyngor allanol ar gynllun prosiect PhD cyn bwrw ati gyda’r gwaith. Mae fy noethuriaeth wedi canolbwyntio ar y thema Teuluoedd Iachach a Chyfoethocach, model ataliol sy’n gweithio ar leihau lefelau tlodi plant yn Sweden. O ystyried profiad helaeth Dr Segrott mewn arfarnu prosesu ynghylch iechyd teuluol, mae wedi bod yn fraint dysgu o’i arbenigedd a datblygu fy ngwaith doethurol ymhellach.

Bu i fy chwilfrydedd o ran dysgu mwy am waith y tîm DECIPHer yn ystod blwyddyn olaf y PhD fy arwain i Gaerdydd. Ro’n i hefyd yn awyddus i gael gweld safbwynt newydd ar y byd academaidd.  Ro’n i hefyd yn awyddus i weld Cymru gan nad o’n i wedi ymweld o’r blaen.

Sut brofiad oedd ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd?

Cyrhaeddais ddiwedd mis Ebrill 2025 yn barod am dywydd oer, ond yn gobeithio am ychydig o haul y gwanwyn. Fodd bynnag, roedd cerdded trwy Barc Bute yn teimlo fel diwrnod braf o haf. Cefais groeso yr un mor gynnes gan Jeremy Segrott a Hayley Reed. Rhoddon nhw o’u hamser i’m tywys o amgylch SPARK a Chaerdydd hefyd. Mae tîm DECIPHer wir yn grŵp croesawgar ac ysbrydoledig iawn.

Gyda’r cyfarfod amddiffyn doethuriaeth ar y gweill – tebyg i viva yn Sweden – roedd yn gyfle gwych i mi ymarfer cyflwyno a thrafod yn academaidd.

Beth ydych chi wedi’i fwynhau?

Roeddwn i’n arbennig o falch o glywed am glwb ysgrifennu DECIPHer. Diolch yn fawr Rabeea’h Aslam, am fy ngwahodd ac am y drafodaeth ddiddorol ar wahanol strategaethau ysgrifennu. Yn un o’r clybiau ysgrifennu, gofynnwyd i mi gyflwyno’n fras fy argraffiadau o lyfr Barbara W. Sarnecka, The Writing Workshop: Write More, Write Better, Be Happier in Academia. Yn fy ngrŵp ymchwil i, rydyn ni’n galw’r llyfr yn “llyfr pengwin”, gan i Sarnecka gydnabod bod y byd academaidd weithiau’n teimlo fel gaeaf oer yn yr Arctig a bod angen i ymchwilwyr glosio at ei gilydd. Roedd dau gyflwyniad llafar wedi’u trefnu ar gyfer fy nghyfnod acw, yn fforymau ar-lein DECIPHer a chyflwyniad ar-lein ar gyfer y Ganolfan Treialon Ymchwil. Gyda’r cyfarfod amddiffyn doethuriaeth ar y gweill – tebyg i viva yn Sweden – roedd yn gyfle gwych i mi ymarfer cyflwyno a thrafod yn academaidd.

Nid dim ond ymarfer academaidd oedd hi yn ystod fy amser yng Nghaerdydd, ond ymarfer corff hefyd! Un diwrnod ar ôl gwaith, ymunais â Jordan Van Godwina Chlwb Rhedeg DECIPHer. A, diolch i Angharad Rogers, cefais roi cynnig ar Parkrun Ynys y Barri. Mae crwydro drwy ddinas wrth redeg wir yn weithgaredd gwych.

Sut y mae’r ymweliad wedi effeithio ar eich ymchwil?

Gall pythefnos, newid golygfa a danteithion lleol fel cacennau cri, caws Caerffili a chaws pob Cymreig wneud byd o wahaniaeth! Es i’n ôl i Sweden gydag ysbrydoliaeth o’r newydd, a chymhelliant i orffen y PhD. Diolch i Taith a DECIPHer am y cyfle hwn!

Rhagor o wybodaeth am waith Nina: https://www.uu.se/en/contact-and-organisation/staff?query=N19-1840.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am Taith: https://www.taith.cymru/.