Mynd i'r cynnwys
Home » Gweithio Gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Yn Ystod Covid-19

Gweithio Gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Yn Ystod Covid-19

  • Flog

Rachel Parker, ymchwilydd PhD yn DECIPHer ac ymgynghorydd iechyd meddwl sy’n myfyrio ar weithio gyda phrosiectau cymunedol yn ystod y pandemig.

Rachel Parker

Fy maes ymchwil yw atal hunan-niwed glasoed a chymorth ymyrraeth. Mae fy PhD yn canolbwyntio ar gynllunio cefnogaeth ataliol ar gyfer hunan-niwed glasoed yn y DU, archwilio lleoliad yr ysgol uwchradd a systemau cysylltiedig i gynllunio cefnogaeth sy’n dderbyniol ac yn ymarferol i ysgolion.

Pan ddechreuodd pandemig COVID-19, roeddwn yn gallu tynnu ar unwaith ar fy ngwybodaeth o’r PhD i ddeall rhai o’r heriau y byddai plant a phobl ifanc yn eu hwynebu. Gan wybod am y galwadau newidiol a fyddai’n digwydd yng nghyd-destun COVID-19, a’r angen am gapasiti gwasanaeth cynyddol i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc, gwirfoddolais fy ngwasanaeth mewn tri phrosiect cymunedol yng Nghymru i helpu i gyflawni hyn.

Roedd y prosiectau cymunedol yn cynnwys:

• Prosiect iechyd meddwl a lles mewydd o’r enw SAIB i ddisgyblion uwchradd yng Nghymru;

• Cais yr elusen pobl ifanc Area 43 am gyllid a datblygu gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc (roedd y cais yn llwyddiannus, a bydd yn arwain at bum mlynedd o wasanaeth);

 The Well-Being Doc, safle cymorth lles a seico-addysgol i staff llinell flaen cymunedol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Ei nod yw cryfhau a diogelu lles y staff yng nghyd-destun COVID-19 er mwyn iddyn nhw allu parhau i ddarparu cefnogaeth o safon i’r bobl ifanc maen nhw’n gweithio gyda nhw.

Pa gefnogaeth sydd ei angen ar bobl ifanc?


Defnyddiais fy nata ymchwil PhD cyfredol i gael tystiolaeth am yr hyn mae pobl ifanc yn dymuno ei gael gan eu cefnogaeth iechyd meddwl a lles. Roedd yr enghreifftiau’n cynnwys:

• Dim gosod stigma a dim beirniadaeth;

• Cael ei gyflenwi’n gyffredinol i BOB disgybl;

• Cael ei gyflenwi gan bobl broffesiynol sydd wedi’u hyfforddi i weithio gyda phobl ifanc ac sy’n gwybod sut i gyfathrebu’n effeithiol yn defnyddio amrywiol ddulliau;

• Hygyrch (felly amrywiol opsiynau, fel ar-lein a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol, apiau, yn ogystal ag opsiwn fformat ystafell ddosbarth);

• Seiliedig ar bartneriaeth;

• Cymryd pobl ifanc a’u hanghenion o ddifrif, gan hwyluso clywed eu lleisiau a’u barn ar y materion hyn mewn polisïau ac ymarfer ar gyfer cynllunio cefnogaeth;

• Cynnig mynediad at gymorth ychwanegol un-i-un os oes angen.

Tynnu ar fy adnoddau


Cedwais yn gyfredol gyda’r ymchwil COVID-19 oedd yn datblygu ar effeithiau iechyd meddwl a lles pobl ifanc. Ymhlith yr adnoddau a ddefnyddiais oedd The Lancet, Cymdeithas Seiciatrig EwropElsevier a WHO. Ar y dechrau un, llywiodd dogfen ganllaw OCHA fy agwedd ymateb cyflym at adeiladu capasiti i ymdrin ag agweddau iechyd meddwl a seicogymdeithasol COVID-19 i bobl ifanc.

Maes ffocws arall i fi oedd ymarfer moesegol, i sicrhau diogelwch a lles pobl ifanc a staff. Defnyddiais fy mhrotocol a chynllun diogelwch ymchwil o fy ymchwil PhD gyfredol yn DECIPHer gan drosi hyn yn benodol yn ymarfer gwaith at y diben hwn (ceir rhagor o wybodaeth am hyn yma).

Beth ddysgais i


Roedd yr ymgysylltu cymunedol yn hynod o fuddiol i fi fel ymchwilydd, gan roi dealltwriaeth newydd i mi am yr effeithiau ar iechyd meddwl pobl ifanc yng nghyd-destun COVID-19, a gallaf ddefnyddio’r rhain nawr yn fy ymchwil. Roedd hefyd yn brofiad amhrisiadwy i allu cymhwyso fy hyfforddiant iechyd cyhoeddus systemau-cymhleth DECIPHer i argyfwng byd real COVID-19. Mae’r ymgysylltu hwn yn dangos sut y gall ymchwil gryfhau capasiti gwasanaeth yn ein cymunedau pan gaiff ei rhoi ar waith, gan wella iechyd meddwl a lles pobl ifanc mewn cyfnod heriol.