Mynd i'r cynnwys
Home » Interniaeth Sneha: ‘Rwyf wedi dysgu cymaint ac mae gen i gymaint o atgofion gwych.’

Interniaeth Sneha: ‘Rwyf wedi dysgu cymaint ac mae gen i gymaint o atgofion gwych.’

  • Flog

Mae Sneha Salel yn fyfyriwr Seicoleg gradd Meistr a gyflawnodd leoliad tri mis dros yr haf yn DECIPHer .

Rwyf bob amser wedi bod â diddordeb brwd mewn pobl, eu hymddygiad, a deall pam maen nhw’n gwneud y pethau maen nhw’n eu gwneud. Dechreuais Seicoleg yn yr ysgol uwchradd a chwblhau fy Magloriaeth mewn Seicoleg, Cyfathrebu a Llenyddiaeth Saesneg. Ar hyn o bryd, rwy’n fyfyriwr ar y cwrs MSc Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Er fy mod bob amser wedi gwybod fy mod i eisiau dilyn gyrfa mewn seicoleg, roeddwn yn ansicr ynghylch pa fath o rôl y byddwn i eisiau gweithio ynddi. Mae’r cwrs rydw i’n ei wneud ar hyn o bryd yn ddwys iawn o ran ymchwil, a dyna pryd sylweddolais fy mod i’n mwynhau ymchwil ac roeddwn i eisiau ei archwilio ymhellach! Sicrheais leoliad tri mis dros yr haf yn DECIPHer gan fod y gwaith roeddent yn ei wneud yn cyd-fynd â’m diddordebau.

Dr. Jemma Hawkins oedd fy ngoruchwyliwr. Sicrhaodd hi fy mod yn cael croeso cynnes gan fy nghyflwyno i’r staff yn DECIPHer. Roedd Jai, sy’n fyfyriwr arall ar fy nghwrs, hefyd ar leoliad yno ac roedd y ffaith bod y ddau ohonom yno wedi yn ein helpu i ymgartrefu’n eithaf cyflym. Roeddwn i’n gweithio’n bennaf ar brosiect Cymru Iach ar Waith gyda Jemma, Dr. Kelly Morgan a Dr. Sara Long. Dywedais hefyd yr hoffwn i weithio ar sawl prosiect i ddatblygu sgiliau gwahanol ymhellach. Rhoddodd Jemma fi mewn cysylltiad â staff ar brosiectau eraill, ac wedi hynny, cefais gyfle i weithio ar yr adroddiadau o arolwg diweddar y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion mewn ysgolion cynradd a helpu gyda chwiliadau llenyddiaeth am gyhoeddiad gan brosiect arall. Mynychais y Fforwm DECIPHer misol lle cyflwynodd ymchwilwyr eu gwaith. Rhoddodd hyn gipolwg i mi ar sut maen nhw’n mynd ati i gynnal ymchwil.

Sbarc yn lle gwych i weithio ynddo ac roedd yn fy helpu i fod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol. Anogwyd rhwydweithio ac fe wnes i gyfarfod â chriw o bobl newydd â diddordebau tebyg.

Ces i gyfle hefyd i helpu Sara i hwyluso cwrs hyfforddi ar gyfer Cydlynwyr Ysgolion Iach. Crëwyd argraff arna’ i gan yr amrywiaeth o waith a oedd yn cael ei wneud yn DECIPHer. Er fy mod wedi gallu gweithio ar bethau y bu gennyf ddiddordeb ynddynt erioed, enillais sgiliau newydd hefyd, er enghraifft mewn ymchwil ansoddol. Cawsom ni seminarau a phrosiectau cyfyngedig ar ymchwil ansoddol ar fy nghwrs, a chyn fy lleoliad roeddwn i’n eithaf pryderus amdano. Ond rhoddodd Jemma gyfle i mi weithio ar brosiectau gydag ymchwil ansoddol ac fe wnes i fwynhau!

Sneha yn SBARC|SPARK

Roedd yn brofiad gwych bod mewn amgylchedd gwaith wedi fy amgylchynu gan ymchwilwyr eraill, a oedd yn gyfeillgar iawn a bob amser yn agored i ateb unrhyw gwestiwn oedd gen i yn ystod fy lleoliad.  Roedd adeilad Sbarc | Spark yn lle gwych i weithio ynddo ac roedd yn fy helpu i fod hyd yn oed yn fwy cynhyrchiol. Anogwyd rhwydweithio ac fe wnes i gyfarfod â chriw o bobl newydd â diddordebau tebyg.

Cefais gyfle hefyd i gyfarfod â myfyrwyr lleoliadau eraill sy’n gweithio mewn gwahanol ganolfannau ymchwil yn Sbarc | Spark. Roedd yn ddiddorol siarad â phobl mewn gwahanol feysydd, a chynhaliodd un o’r canolfannau her ryngddisgyblaethol a oedd yn ddigwyddiad lle cawsom ni weithio gyda’n gilydd. Roedd yn anodd i mi ddod allan o fy nghragen gan fy mod yn newydd i’r DU ac fel arfer rwy’n cymryd ychydig o amser i fod yn gyffyrddus, ond helpodd DECIPHer i gyflymu’r broses honno, sydd wedi cael effaith nid yn unig ar fy mywyd proffesiynol ond fy mywyd personol, hefyd.

Dylwn i sôn bod Jemma yn oruchwyliwr gwych! Fe wnaeth hi greu lle diogel i mi, roedd hi wastad yn cysylltu a byddem yn cael cyfarfodydd bob wythnos, roedd hi’n fy nghadw i’n atebol ac yn fy nghymell i wneud y gwaith a wnes i.  Ar y cyfan, rwyf wedi dysgu cymaint o’m hamser gyda DECIPHer ac mae gen i gymaint o atgofion gwych y byddaf yn eu trysori am byth.

Mae mis wedi mynd heibio ers i mi gwblhau fy lleoliad ac wrth fyfyrio arno, rwy’n teimlo cymaint o ddiolch am y cyfle a gefais i weithio gyda DECIPHer. Rwyf bellach yn hyderus yn fy mhenderfyniad i weithio ym maes ymchwil, ac ar hyn o bryd rwy’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil yn yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy’n argymell yn gryf gwneud lleoliad yn DECIPHer.