Mynd i'r cynnwys
Home » Pa Gymorth Sydd Ei Angen Ar Blant Yr Haf Hwn?

Pa Gymorth Sydd Ei Angen Ar Blant Yr Haf Hwn?

  • Flog

Ar 18 Mawrth 2021, bu Dr Kelly Morgan yn rhan o drafodaeth bwrdd crwn COVID-19 yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol ar raglenni cymorth i blant ysgol dros yr haf. Mae’n adrodd ar y casgliadau

Dr Kelly Morgan

Ar ran DECIPHer, bûm i yn nigwyddiad bwrdd crwn diweddaraf yr Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol yn trafod y ffordd orau i gynllunio a strwythuro rhaglenni cymorth i blant ysgol dros yr haf. Daeth dros 40 o bobl ar draws y DU i’r digwyddiad, gyda chynrychiolaeth o blith academyddion, llunwyr polisïau ac ymarferwyr.

Yn ystod y digwyddiad, trafodwyd tri chwestiwn allweddol:

· Beth mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am yr hyn y dylid ei wneud yn ystod gwyliau’r haf?

· Pa rai o’r camau hyn y dylid eu blaenoriaethu, ac i ba grwpiau?

· Beth yw’r cyfuniad gorau o weithredu cenedlaethol a lleol i sicrhau bod hyn yn digwydd?

O ran yr hyn y dylid ei wneud, roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau heb eu strwythuro gan ddarparu chwarae, gweithgaredd corfforol a bwyd iach. Nodwyd bod rôl darpariaethau gwyliau haf presennol yn allweddol, a bod angen manteisio ar gysylltiadau cymunedol lleol a rhannu dysgu ar draws y cenhedloedd. Nodwyd Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf (SHEP) yng Nghymru fel enghraifft o arfer da, gyda nifer o gynlluniau yn rhedeg ledled Cymru a’r rhaglen yn ehangu bob blwyddyn.

‘Yng ngoleuni’r flwyddyn ddiwethaf a chyfyngiadau COVID-19 ar fywydau beunyddiol plant, ystyriwyd bod yr angen am le i gymdeithasu â ffrindiau ac ailgysylltu yn hollbwysig.’

Trafodwyd effeithiau’r pandemig ar iechyd corfforol a lles meddyliol plant wrth i ddiogelwch bwyd, ffyrdd o fyw sy’n gynyddol eisteddog a gofidiau a phryderon cyffredinol barhau i osod heriau pwysig. Trafodwyd heriau penodol yn ymwneud â phlant ar draws yr ystodau oedran hefyd, gydag effaith ar ddatblygiadau iaith, hyder a sgiliau bywyd allweddol a cholli cyfleoedd yn ystod cyfnodau pontio (e.e. o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd neu bontio i addysg bellach).

Cafwyd llawer o drafodaeth ar y ffocws ar ‘ddal i fyny’ gyda’r angen i ganiatáu rhyddid i blant fwynhau cymdeithasu a chwarae heb y pwysau o ddal i fyny ar yr amser a gollwyd ar gyfer addysg (h.y. peidio â’i lenwi gyda gwersi ychwanegol). Yng ngoleuni’r flwyddyn ddiwethaf a chyfyngiadau COVID-19 ar fywydau beunyddiol plant, ystyriwyd bod yr angen am le i gymdeithasu â ffrindiau ac ailgysylltu yn hollbwysig. Hefyd nodwyd cyfleoedd i athrawon a rhieni gael amser a lle i ymadfer.

Ers y digwyddiad, cyhoeddwyd nodyn polisi byr yn amlinellu saith egwyddor arweiniol fel sail i ymagwedd y DU ar gyfer cefnogi ein plant yr haf hwn:

  1. Dylai ‘ailosod dros yr haf’ fod yn flaenoriaeth genedlaethol
  2. Ni ddylai’r rhaglenni haf edrych fel yr ysgol
  3. Dylai’r rhaglenni gael eu harwain yn lleol
  4. Dylai’r rhaglenni gael cefnogaeth genedlaethol
  5. Dylent fod ar agor i bob plentyn, gan ganolbwyntio ar y mwyaf difreintiedig
  6. Rhaid i raglenni fod â chyswllt agos â rhieni a gwirfoddolwyr
  7. Mae angen ‘cynllun B’ hefyd rhag ofn y ceir cyfyngiadau cloi pellach

Gellir darllen mwy am nodyn polisi’r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol a’r saith egwyddor arweiniol yma. Diolch i’r Arsyllfa am fy ngwahodd i fod yn rhan o’r broses hanfodol hon fydd hefyd yn adferol, gobeithio.

Mae Kelly Morgan yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer. Ffocws sylweddol ei hymchwil yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae Kelly Morgan yn Gymrawd Ymchwil yn DECIPHer. Ffocws sylweddol ei hymchwil yw gwella iechyd a lles plant a phobl ifanc. Mae mwy o wybodaeth am y Rhaglen Cyfoethogi Gwyliau Ysgol (SHEP) i’w gweld yma a’i gwaith blaenorol ar wyliau haf ac iechyd meddwl yma.