Mynd i'r cynnwys
Home » Pontio Ysgolion, Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol A Phandemig Covid-19

Pontio Ysgolion, Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol A Phandemig Covid-19

  • Flog

Yn y blog hwn, a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn BERA, mae Dr Graham Moore yn trafod cau ysgolion, dwysau o ran anghydraddoldeb ac amharu ar bontio yn sgil Covid-19

Mae’r amgylchiadau y’i ganwyd iddynt yn eithriadol o ddylanwadol ar addysg a llesiant plant. Mae dod o deulu mwy cyfoethog yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau cadarnhaol. Cysyniad perthynol yw tlodi. Cysylltir mynychu ysgol lle mae’r rhan fwyaf o ddisgyblion yn gyfoethog â chanlyniadau gwell. Fodd bynnag, i ddisgyblion o gefndiroedd mwy difreintiedig, gall mynychu ysgol lle mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn gyfoethocach na nhw gael effaith niweidiol ar eu llesiant (Moore et al., 2017).

Mae’r anghydraddoldebau hyn yn codi o rymoedd strwythurol mewn cymdeithas ac mae angen datrysiadau strwythurol. Fodd bynnag, mae gan ysgolion ran i’w chwarae i ‘wneud yn iawn am gymdeithas’ i raddau (Gorard, 2010). Yng Nghymru, mae myfyrwyr sy’n mynychu ysgolion â charfannau tlotach yn adrodd am berthnasoedd mwy cadarnhaol gyda’u hathrawon (Moore et al., 2017). Cysylltir perthnasoedd cadarnhaol gydag athrawon â llu o ganlyniadau llesiant. Felly, er bod rhaid i ni beidio â disgwyl i athrawon wneud yn iawn am gymdeithas yn llwyr, mae eu gwaith yn sicrhau tegwch yn debygol o helpu i wneud cymdeithas ychydig yn llai anghyfartal nag y gallai fod fel arall.

Carreg filltir ddatblygiadol bwysig yng ngyrfa ysgol plant yw pontio i’r Ysgol Uwchradd. Mae’r rhan fwyaf yn edrych ymlaen at bontio. Mae ysgol uwchradd fwy o faint yn cynnig amrywiaeth ehangach o gysylltiadau cymdeithasol a llawer o gyfleoedd newydd. Fodd bynnag, mae llawer yn poeni am golli perthynas gyda ffrindiau a staff ysgol, a heriau wrth ffurfio rhai newydd yn eu hysgol newydd.

Mae pontio rhwng ysgolion hefyd yn gyfnod lle mae’n bosibl i amddifadedd cymharol gael ei amlygu. Mae nifer o ysgolion cynradd yn dod at ei gilydd mewn ysgol uwchradd mwy o faint. Bydd cyfartaledd cyfoeth disgyblion mewn ysgol uwchradd yn fras yn gyfartal â chyfartaledd cyfoeth y rheini yn yr ysgolion cynradd sy’n ei bwydo. Mae disgyblion o’r ysgolion cynradd mwyaf difreintiedig yn eu clwstwr felly’n debygol o bontio i ysgol lle mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn fwy cyfoethog na nhw, gan fabwysiadu safle cymharol is yn hierarchaeth economaidd-gymdeithasol eu hysgol.

“Mae pontio rhwng ysgolion yn bwynt critigol mewn bywyd pan fydd anghydraddoldebau economaidd gymdeithasol yn ehangu, yn fwyaf tebygol drwy ei effaith ar amddifadedd cymharol”.

Ar gyfer ein papur diweddar a gyhoeddwyd yn y British Educational Research Journal (Moore et al., 2020), cynhaliom ni arolwg o yn agos i 40,000 o ddisgyblion oedd wedi pontio’n ddiweddar i ysgol uwchradd. Roedd llesiant meddyliol yn amrywio yn ôl pa ysgol gynradd roedd y plentyn yn ei mynychu, a pha ysgol uwchradd roedd yn pontio iddi. Adroddodd plant oedd yn mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd gyda charfannau tlotach lesiant is. Fodd bynnag, roedd symud i ysgol uwchradd oedd yn fwy llewyrchus na’u hysgol gynradd yn gysylltiedig â llesiant meddwl is.

Mae pontio rhwng ysgolion felly’n debygol o fod yn bwynt critigol mewn bywyd pan fydd anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol yn ehangu, yn fwyaf tebygol drwy ei effaith ar amddifadedd cymharol.

Cyhoeddwyd ein herthygl ym mis Mawrth 2020, wrth i bandemig Covid-19 ddwysau yn y DU. Ddyddiau yn ddiweddarach, caewyd ysgolion drwy genhedloedd y DU, fel mewn nifer o wledydd (Viner et al., 2020).

Mae Covid-19 wedi amlygu dwy thema ein herthygl ddiweddar yn glir:

Rôl ysgolion yn lliniaru anghydraddoldebau;
Pontio fel carreg filltir bwysig yn natblygiad pobl ifanc.


Mae effeithiau meddygol Covid-19 i’w teimlo fwyaf mewn cymunedau mwy difreintiedig. Fel y dadleuodd yr Athro Devi Sridhar, ‘cyfoeth yw’r strategaeth warchodol orau ar gyfer y feirws hwn.’ Yn yr un modd, bydd effeithiau cymdeithasol ac economaidd Covid-19 yn fwyaf difrifol i’r rheini sy’n dechrau o safle mwy difreintiedig, gyda’r rheini sy’n dechrau mewn safleoedd mwy cyfforddus yn fwy abl i oroesi’r cyfnod cythryblus hwn. Gall cyfnodau o gau ysgolion fod yn arbennig o unig i bobl ifanc o gefndiroedd tlotach (Morgan et al., 2019). Mae llawer o deuluoedd yn ei chael yn anodd bwydo eu plant yn ystod cyfnod o gau ysgolion, tra bo costau rhedeg cartref yn cynyddu. Tra bo teuluoedd yn brwydro i gwrdd â’u hanghenion sylfaenol, mae plant o deuluoedd tlotach yn llai tebygol na’u cyfoedion o ymgysylltu ag arlwy addysgu ar-lein, a bydd anghydraddoldebau addysgol sydd eisoes yn bodoli wedi cynyddu erbyn i’r bobl ifanc ddychwelyd i’r ysgol.

Mae Covid-19 wedi creu carfan o bobl ifanc y mae eu gyrfaoedd ysgol gynradd wedi dod i ben yn sydyn. Gyda Chymru a Lloegr yn awgrymu gwahanol gyfnodau ar gyfer ailagor ysgolion, mae’r ddwy wlad yn cydnabod pwysigrwydd cefnogi pontio iach, gan flaenoriaethu disgyblion sy’n pontio wrth fynd ati i ailagor yn ddiogel. Hyd yn oed os bydd disgyblion yn dychwelyd, gallai eu hwythnosau olaf yn yr ysgol gynradd fod yn fersiwn gwahanol o’u profiad ysgol, yn llawn gofid a phellhau cymdeithasol. Gydag anghydraddoldebau’n dwysau yn ystod y cyfnod clo, bydd disgyblion o gefndiroedd tlotach yn wynebu’r cyfnod cythryblus hwn gydag effeithiau eu safle cychwynnol difreintiedig yn amlycach nag erioed.

Mae argyfwng Covid-19 wedi dangos bod pobl mewn argyfwng yn fodlon aberthu i sicrhau bod y mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn cael eu diogelu. Amser a ddengys a fydd cymdeithas, mewn cyfnod normal, yn cyfeirio ei hymdrechion cyfunol at gefnogi adferiad o’r pandemig ymhlith y rheini y mae’r cyfnod o drawma sylweddol wedi effeithio fwyaf arnyn nhw. Y tu hwnt i’r pandemig, bydd angen i ysgolion, teuluoedd ac asiantaethau sy’n cefnogi addysg a llesiant plant a phobl ifanc gael cefnogaeth eu llywodraethau i gynorthwyo gyda’r adferiad hwn.

Seiliwyd y blog hwn ar yr erthygl ‘Socioeconomic status, mental wellbeing and transition to secondary school: Analysis of the School Health Research Network/Health Behaviour in School‐aged Children survey in Wales’ gan Graham F. Moore, Rebecca E. Anthony, Jemma Hawkins, Jordan Van Godwin, Simon Murphy, Gillian Hewitt a G. J. Melendez‐Torres, a gyhoeddwyd yn y British Education Research Journal ar sail mynediad agored.

Mae Dr Graham Moore yn darllenydd gwyddorau cymdeithasol ac iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae ganddo ddiddordeb mewn anghydraddoldebau iechyd ac addysgol plant a glasoed, a pholisi cyhoeddus ac ymyriadau. Mae ffrwd fawr yn ei ymchwil, a gynhelir i raddau helaeth gyda’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yng Nghymru, yn canolbwyntio ar rôl ysgolion yn lleihau neu amlygu anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol. Mae’n ddirprwy gyfarwyddwyr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er mwyn Gwella Iechyd y Cyhoedd, a bydd yn cyd-arwain ffrwd o waith ar iechyd meddwl mewn ysgolion gyda Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, fydd yn dechrau yn 2020.

Cyfeirnodau


Gorard, S. (2010). Education can compensate for society – a bit. British Journal of Educational Studies, 58(1), 47–65.

Moore, G. F., Anthony, R. E., Hawkins, J., Van Godwin, J., Murphy, S., Hewitt, G., & Melendez‐Torres, G. (2020). Socioeconomic status, mental wellbeing and transition to secondary school: Analysis of the School Health Research Network/Health Behaviour in School‐aged Children survey in Wales. British Educational Research Journal. Rhag-gyhoeddiad ar-lein Cyrchwyd: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1002/berj.3616. Adalwyd o: https://onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1002/berj.3616

Moore, G. F., Littlecott, H. J., Evans, R., Murphy, S., Hewitt, G., & Fletcher, A. (2017). School composition, school culture and socioeconomic inequalities in young people’s health: Multi‐level analysis of the Health Behaviour in School‐aged Children (HBSC) survey in Wales. British Educational Research Journal, 43(2), 310–329.

Morgan, K., Melendez-Torres, G., Bond, A., Hawkins, J., Hewitt, G., Murphy, S., & Moore, G. (2019). Socio-economic inequalities in adolescent summer holiday experiences, and mental wellbeing on return to school: analysis of the school health research network/health behaviour in school-aged children survey in Wales. International Journal of Environmental Research and Public Health, 16(7), 1107.

Viner, R. M., Russell, S. J., Croker, H., Packer, J., Ward, J., Stansfield, C., Mytton, O., Bonell, C., & Booy, R. (2020). School closure and management practices during coronavirus outbreaks including Covid-19: A rapid systematic review. The Lancet Child & Adolescent Health, 4(5), 397–404.