Heddiw (dydd Iau 30 Ionawr) yw Diwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc, diwrnod o ymgyrchu am well cymorth i ofalwyr ifanc. Mae Ed Janes yn ymchwilydd gyda DECIPHer ac mae ei PhD yn canolbwyntio ar les gofalwyr ifanc. Roedd ymchwil arloesol yn ganolog i’r cynnydd mewn prosiectau gofalwyr ifanc yn y 1990au, ac yma mae’n ystyried pa rôl y gall ymchwil ei chwarae wrth lywio’r cam nesaf o gymorth
Mae diwrnod ymwybyddiaeth gofalwyr ifanc yn ddigwyddiad blynyddol a ddatblygwyd gan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr. Bydd sefydliadau a grwpiau gofalwyr ifanc cenedlaethol, rhanbarthol a lleol yn nodi’r cyfraniadau y mae gofalwyr ifanc yn eu gwneud yn y DU ond hefyd yn ymgyrchu dros well cymorth.
Plant a phobl ifanc dan 18 oed sy’n gofalu am aelod o’r teulu yw gofalwyr ifanc. Gall fod yn rhiant, yn frawd neu yn chwaer neu yn berthynas arall sydd angen cefnogaeth oherwydd salwch neu anabledd cronig, afiechyd meddwl neu gaethiwed i sylweddau. Gall y rôl gofalu hon gynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau gan gynnwys tasgau domestig ychwanegol, gofal personol, bod yn gwmni a gofalu am frodyr a chwiorydd. Mae’r gweithgareddau hyn yn mynd y tu hwnt i’r rhai y mae pobl ifanc yn eu cyflawni fel rhan arferol o dyfu i fyny.
Mae’r rhan fwyaf o ymchwil wedi canolbwyntio ar yr effeithiau a gaiff gofalu’n ifanc ar bobl ifanc. Yn fwy diweddar, canolbwyntiwyd ar effeithiau ymgymryd â thasgau gofalu penodol a gofalu am bobl â salwch neu anableddau penodol. Canfuwyd bod llawer o’r effeithiau yn negyddol gan gynnwys gorbryder ac iselder, dicter, unigedd a bwlio. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth hefyd o agweddau cadarnhaol, gan gynnwys mwy o hyder, sgiliau gofalu, a hapusrwydd a balchder o fod yn gallu helpu’r unigolyn y mae’n gofalu amdano.
Caiff yr ymchwil gychwynnol yn y 1990au ei chanmol am arwain at ddatblygu prosiectau gofalwyr ifanc sy’n cynnig gofal seibiant a chyngor ledled y DU. Gwyddys bod y prosiectau hyn yn cael eu gwerthfawrogi gan ofalwyr ifanc ond mae pryderon ynghylch y gefnogaeth a roddir i ofalwyr ifanc gan ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol a gweithwyr iechyd proffesiynol. Mae gwella’r gefnogaeth hon yn rhan allweddol o Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Gofalwyr Ifanc ond pa rôl y gall gwaith ymchwil ei chael?
Cwestiynau heb eu datrys mewn ymchwil am ofalwyr ifanc
Mae’n bosibl bod yr atebion i’w cael mewn nifer o broblemau sydd wedi cael eu derbyn ers tro mewn ymchwil i ofalwyr ifanc ond sydd heb eu datrys i raddau helaeth:
Pa mor gyffredin yw gofalwyr ifanc yng Nghymru a’r DU?
Sut mae bywydau gofalwyr ifanc sy’n defnyddio cefnogaeth yn wahanol i’r rhai sydd heb gefnogaeth ac sydd o bosibl yn anhysbys? Ceir nifer o amcangyfrifon ynghylch faint o ofalwyr ifanc sydd ond maent yn amrywio’n fawr. Fodd bynnag, mae astudiaethau mwy diweddar yn nodi lefelau uwch nag a feddyliwyd o’r blaen gyda’r astudiaeth SHRN ddiweddaraf yn amcangyfrif bod 16% o ddisgyblion ysgolion uwchradd yn ofalwyr ifanc. Mae’r ffigur hwn ymhell y tu hwnt i’r rhai sy’n defnyddio prosiectau gofalwyr ifanc, ac mae’n arwain at yr ail gwestiwn.
Prin yw’r ymchwil feintiol sy’n seiliedig ar y boblogaeth o ofalwyr ifanc ac mae’r rhan fwyaf o ymchwil ynghylch gofalwyr ifanc yn digwydd gyda’r rhai sydd eisoes yn cael cefnogaeth. Y rheswm am hyn yw nad yw llawer o ofalwyr ifanc (a’u teuluoedd) eisiau cael eu hadnabod. Fodd bynnag, sut rydym yn gwybod bod y profiadau’n debyg ar gyfer gofalwyr a gefnogir a’r rhai cudd? Byddai gwybod bod yr effeithiau ar y grŵp mwy yn negyddol yn awgrymu bod llawer mwy o angen am ddarpariaeth nag a geir ar hyn o bryd. Fel arall, byddai effeithiau neu fanteision negyddol cymedrol yn dangos bod y rhai sydd â’r angen mwyaf am gefnogaeth yn cael eu hadnabod yn llwyddiannus.
Fy mhrosiect ymchwil
Rydw i’n fyfyriwr PhD gyda DECIPHer a CASCADE yn fy nhrydedd flwyddyn, a theitl fy astudiaeth yw Bywydau Gofalu: Beth sydd ei angen ar blant a phobl ifanc sy’n gofalu am aelodau’r teulu i ffynnu?
Mae Bywydau Gofalu’n ymwneud â pham mae’r effeithiau a gaiff gofalu ar iechyd meddwl yn amrywio ar gyfer gwahanol blant a phobl ifanc. Mae hyn yn cynnwys meddwl am wahaniaeth mewn cyfrifoldebau gofalu, sefyllfa deuluol a chefnogaeth. Fel rhan o hyn rwyf wedi recriwtio o brosiectau gofalwyr ifanc ac ysgolion i edrych ar y gwahaniaeth rhwng gofalwyr ifanc sy’n cael eu cefnogi a’r rhai sy’n anhysbys i wasanaethau. Rwy’n cwrdd â phob gofalwr ifanc sawl gwaith i gysylltu newidiadau yn eu bywydau ehangach dros amser i newidiadau yn eu hiechyd meddwl.
Rwyf hefyd yn defnyddio data eilaidd o dros 12,000 o bobl ifanc i gymharu iechyd gofalwyr ifanc â phlant a phobl ifanc eraill dros amser.
Nod olaf fy PhD yw ystyried y posibilrwydd ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol a sut olwg fyddai ar y rhain. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn datblygu gwasanaethau sy’n seiliedig ar anghenion ar gyfer gofalwyr ifanc unigol a allai gyd-fynd â’r gwasanaethau presennol ar gyfer y grŵp cyfan. Rwy’n gobeithio y gallaf wedyn fwrw ymlaen â’r canfyddiadau mewn rhagor o ymchwil i ofalwyr ifanc yn y dyfodol.