Mynd i'r cynnwys
Home » Adroddiad blynyddol DECIPHer 2021/22 ar gael nawr

Adroddiad blynyddol DECIPHer 2021/22 ar gael nawr

Ein hail adroddiad blynyddol yn ganolfan ymchwil sy’n cael ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n barod i’w ddarllen

Mae’r adroddiad yn trafod blwyddyn brysur a chynhyrchiol i DECIPHer ac yn tynnu sylw at ein prif lwyddiannau wrth geisio gwella capasiti, ein gweithgarwch ymchwil a’r ffordd rydym wedi cydweithio ac ymgysylltu i sicrhau effaith. Ynddo mae manylion ein metrigau craidd a’r wybodaeth ddiweddaraf am ein Rhwydweithiau Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd, y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion a grŵp ALPHA. Mae staff ymchwil a staff o’r gwasanaethau proffesiynol hefyd yn trafod taith eu gyrfa.

Dywedodd Simon Murphy, Cyfarwyddwr DECIPHer:

“Rwy’n falch o roi gwybod bod adroddiad blynyddol newydd DECIPHer wedi’i gyhoeddi. Mae’n disgrifio canolfan ymchwil fywiog sy’n ymgysylltu â’n polisïau, ein hymarfer a’n cymunedau cyhoeddus er mwyn gwneud ymchwil ragorol sy’n cael effaith go iawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod gwaith caled ac ymroddiad holl staff DECIPHer a dangos ein gwerthfawrogiad i’n holl bartneriaid yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.”

Darllenwch yr adroddiad yma: