Roedd yr adroddiad yn archwilio profiadau dysgwyr o gam-drin, a’u barn a’u profiad o bolisïau a gweithdrefnau ar lefel y coleg
Comisiynwyd yr adroddiad, sydd ar gael i’w ddarllen yma, gan Lywodraeth Cymru dan arweiniad Coleg Caerdydd a’r Fro. Ei nod oedd archwilio amlder cam-drin cymheiriaid (PoPA), profiad ohono a pha mor rheolaidd y’i cofnodwyd mewn saith coleg yng Nghymru (1). Y prif awdur oedd Sara Long, Cymrawd Ymchwil ac Arweinydd Gwerthuso yn DECIPHer, a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Disgwylir i ganfyddiadau’r gwaith lywio mesurau ar lefel coleg a system a fydd yn arwain at feithrin amgylcheddau coleg mwy diogel a mwy cynhwysol ar gyfer dysgwyr o bob rhan o Gymru.
Yn yr adroddiad, dyma ddiffiniad Cam-drin Ymysg Cymheiriaid (PoPA): Gwahaniaethu, mynegi casineb, aflonyddu a/neu drais rhwng cymheiriaid (yn gyflawnwyr neu’n ddioddefwyr), sy’n digwydd mewn amgylchedd coleg neu yn sgil perthnasoedd a grëir yn y coleg.
Noda’r adroddiad: Mae cam-drin ymysg cymheiriaid (PoPA) yn broblem fyd-eang, ac mae angen ymdrechion pwrpasol i leihau niwed a hyrwyddo cynhwysiant, gyda lleoliadau addysg yn chwarae rhan hanfodol o ran gwella profiad dysgwyr. Mae PoPA yn cynnwys ystod o fathau gwahanol o aflonyddu a thrais a all gael effaith andwyol ar les meddyliol y dysgwyr.
Mae deall profiadau dysgwyr yn bwysig er mwyn llywio polisïau a gweithdrefnau ar aflonyddu a thrais, cydnabod anghenion y dioddefwyr sy’n ceisio cymorth, ac archwilio profiadau dysgwyr sydd wedi adrodd am achosion i’r coleg.
Casglu’r data
Cynhaliwyd arolwg dysgwyr i bennu a yw profiadau PoPA yn ymwneud â demograffeg megis rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, crefydd a/neu anabledd. Yn ogystal, cynhaliwyd archwiliad bwrdd gwaith o bolisïau a gweithdrefnau lefel coleg i archwilio tebygrwydd ac amrywioldeb yn y ffordd y mae colegau yn ymateb i PoPA. Dylid cymryd gofal wrth ddehongli canfyddiadau’r arolwg a’u cymhwyso i leoliadau eraill, gan fod y rhan helaeth o’r ymatebwyr yn ddysgwyr yng Ngholeg Caerdydd a’r Fro (77.2%, n=1440), sydd wedi effeithio’r data.
Prif ganfyddiadau
- Roedd rhan fwyaf o ymatebwyr y sampl rhwng 17 ac 18 oed (55%).
- Nododd y rhan fwyaf eu bod yn heterorywiol (77.1%) neu’n LHDTQ (14.9%).
- Dywedodd dros 2 o bob 3 o ddysgwyr y byddant yn adrodd am PoPA pe bai’n digwydd.
- Byddai dros hanner yr ymatebwyr yn rhoi gwybod i’r coleg a staff cymorth (62%).
- Roedd dros hanner yn deall prosesau adrodd PoPA yn eu coleg (58%).
Fodd bynnag, o’r dysgwyr a wnaeth nodi eu bod nhw’n profi PoPA, roedd llai nag 1 o bob 10 (9%) wedi rhoi gwybod am yr achos i’w coleg.
- Roedd y profiad PoPA mwyaf cyffredin a oedd wedi’i nodi gan ddysgwyr yn ymwneud â rhywedd/rhyw, gyda 1 ym mhob 10 o ddysgwyr (10.6%) yn hunan-adrodd yn ddioddefwyr.
- Roedd cam-drin ar sail ethnigrwydd hefyd yn gyffredin (1 o bob 12 (8.5%)).
- Nesaf roedd cam-drin ar sail cyfeiriadedd rhywiol (1 ym mhob 14 (7%)).
Sut mae modd gwella?
Roedd yr arolwg yn cynnwys ystod o gwestiynau agored i ganfod barn y dysgwyr am wella polisïau a gweithdrefnau’r coleg ar PoPA.
Dylai dulliau adrodd gynnig empathi, cyfrinachedd a chymorth parhaus i ddioddefwyr.
Dylid cymryd cam-drin o ddifrif, a dylai’r cyflawnwyr wynebu’r goblygiadau.
Awgrymodd y dysgwyr y gellid codi ymwybyddiaeth a chynnal trafodaethau agored am ddigwyddiadau a phroblemau fel dulliau atal.
Dylai dulliau adrodd gynnig empathi, cyfrinachedd a chymorth parhaus i ddioddefwyr.
Dylid cymryd cam-drin o ddifrif, a dylai’r cyflawnwyr wynebu’r goblygiadau.
Casgliad
Mae’r adroddiad yn awgrymu bod dysgwyr yn cael eu cam-drin ac yn dod yn darged ar sail nodweddion gwahanol megis rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd, crefydd ac anabledd.
Mae colegau’n gyfrifol am greu gofod diogel a chyfforddus ar gyfer dysgu, ac mae angen dulliau, polisïau a gweithdrefnau systemig i wneud yn siŵr nad yw cam-drin yn cael ei oddef.
Mae angen cymorth dibynadwy ar ddioddefwyr gan wasanaethau mewnol (h.y. staff y coleg) a ffynonellau allanol, megis gwasanaethau’r heddlu, teulu, ffrindiau a rhwydweithiau cymorth. Mae llawer o ffactorau’n dylanwadu ar b’un a yw dioddefwyr yn ceisio cymorth gan eu colegau, felly dylai colegau godi ymwybyddiaeth o bolisïau adrodd ymysg dysgwyr.
Dylid sicrhau bod gweithdrefnau diogelu cadarn ar waith i atal niwed, a chefnogi dioddefwyr i gael cymorth gan bartneriaid allanol.
- Bridgend College, Coleg Cambria, Cardiff and Vale College, Coleg y Cymoedd, Merthyr College, Pembrokeshire College, and Saint Davids
Learner experience and reporting of Peer-on-Peer Abuse (PoPA) in Welsh colleges: Findings from a learner survey and desktop review of cross-college level policies and procedures, Dr Sara Long, Vasiliki Kolovou, Niamh Mchugh and
Christine Jenkins: Darllenwch yma.
Rhagor o ddeunydd darllen
Cyfrannodd DECIPHer at ymgynghoriad Senedd Cymru ar aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion ymhlith dysgwy
Mae adroddiad newydd gan y Senedd yn gofyn: Sut gallwn ni atal trais ar sail rhywedd?