Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer ysgolion uwchradd i helpu mynd i’r afael â’r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc
Mae’r canllawiau, y gellir eu darllen yma, yn darparu gwybodaeth allweddol i ysgolion am e-sigarennau a’u defnydd (a elwir yn gyffredin yn ‘fepio’) ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â chamau y gall ysgolion eu cymryd i fynd i’r afael â fepio. Mae’n defnyddio data o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr gan Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sy’n dangos bod fepio wedi cynyddu ymhlith pobl ifanc 11–16 mlwydd oed yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.
Dyma a ddywedwyd yn arolwg 2021/22 hefyd:
- Mae 1 o bob 5 o ddysgwyr oedran uwchradd (20%) o Flwyddyn 7 i 11 wedi rhoi cynnig ar fepio
- Dywedodd 5% o ddysgwyr oedran uwchradd eu bod yn defnyddio fêps yn rheolaidd (diffinnir hyn fel bob wythnos, o leiaf)
- Roedd dysgwyr Blwyddyn 11 yn fwy tebygol o ddefnyddio dyfais fepio o leiaf bob wythnos, o leiaf (14%) o gymharu â dysgwyr Blwyddyn 7 (1%).
- Dysgwyr oedran uwchradd o deuluoedd llai cefnog oedd fwyaf tebygol o fod wedi rhoi cynnig ar fepio ac yn eu defnyddio’n rheolaidd
- Dywedodd cyfran uwch o ferched Blwyddyn 7 i 11 (7%) eu bod yn fepio o leiaf bob wythnos o gymharu â bechgyn (4%). Ymhlith y bobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch, dywedodd 8% eu bod yn fepio bob wythnos, o leiaf. 1
Ymhlith y camau a awgrymwyd i ymateb i fepio, a mynd i’r afael ag ef, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori ysgolion i gymryd deg o gamau allweddol yn gysylltiedig â fepio. O’u defnyddio ochr yn ochr â meysydd blaenoriaeth eraill fel rhan o gyflwyno’r cwricwlwm a gweithredu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles, mae’r camau hyn yn cynnwys:
- Defnyddio dangosfwrdd SHRN i ddeall sut mae ymddygiadau fepio yn eu hysgol yn cymharu ag ardaloedd eraill, a ledled Cymru.
- Defnyddio adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr cenedlaethol SHRN i helpu nodi proffil oedran ymddygiad fepio a chynllunio cyflwyno’r cwricwlwm yn unol â hynny.
- Parhau i gymryd rhan yn arolygon ysgolion SHRN i helpu creu darlun o ymddygiadau ac ymatebion ysmygu a fepio a sut maen nhw’n esblygu.
Dywedodd Arweinydd a Dadansoddwr Gwyddonol Dros Dro SHRN, Dr Nick Page:
‘Mae’r canllawiau hyn yn enghraifft wych o’r modd y mae SHRN yn cefnogi ymdrechion i wella iechyd cyhoeddus ledled Cymru trwy ddarparu data gweithredadwy ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc. Un o gryfderau allweddol data’r SHRN yw ei fod yn darparu tystiolaeth ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol, gan alluogi ysgolion i nodi anghenion iechyd a lles dysgwyr a thargedu camau priodol. Mae arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2023 yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn cynnwys cwestiynau ychwanegol ar ddyfeisiau fepio tafladwy ac amgyffrediadau o niwed. Bydd y data hwn, fydd ar gael yng ngwanwyn 2024, yn ychwanegu at sail y dystiolaeth bresennol ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac yn llywio strategaethau ataliol yn y dyfodol.’
Gellir darllen gwybodaeth a chanllawiau ar Fepio ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd yng Nghymru, a gasglwyd ynghyd gan y Tîm Rheoli Tybaco a’r Tîm Lleoliadau Addysgol, yr Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yma: https://phw.nhs.wales/topics/information-and-guidance-on-vaping-for-secondary-aged-learners-in-wales/information-and-guidance-on-vaping-for-secondary-aged-learners-in-wales/ .
Gellir darllen cefndir i’r canllawiau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/topics/information-and-guidance-on-vaping-for-secondary-aged-learners-in-wales/ .
Gellir darllen mwy am yr arolwg ar wefan SHRN: https://www.shrn.org.uk/cy/data-cenedlaethol/ .
1. Page, N., Angel, L., Ogada, E., Young, H., Murphy, S. (2023). Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad am Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, y DU. https://www.shrn.org.uk/cy/data-cenedlaethol/