Mynd i'r cynnwys
Home » Data SHRN yn llywio canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fepio  

Data SHRN yn llywio canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru ar fepio  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer ysgolion uwchradd i helpu mynd i’r afael â’r cynnydd mewn fepio ymhlith pobl ifanc  

Mae’r canllawiau, y gellir eu darllen yma, yn darparu gwybodaeth allweddol i ysgolion am e-sigarennau a’u defnydd (a elwir yn gyffredin yn ‘fepio’) ymhlith pobl ifanc, yn ogystal â chamau y gall ysgolion eu cymryd i fynd i’r afael â fepio. Mae’n defnyddio data o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr gan Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN), sy’n dangos bod fepio wedi cynyddu ymhlith pobl ifanc 11–16 mlwydd oed yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf.   

Dyma a ddywedwyd yn arolwg 2021/22 hefyd:  

  • Mae 1 o bob 5 o ddysgwyr oedran uwchradd (20%) o Flwyddyn 7 i 11 wedi rhoi cynnig ar fepio  
  • Dywedodd 5% o ddysgwyr oedran uwchradd eu bod yn defnyddio fêps yn rheolaidd (diffinnir hyn fel bob wythnos, o leiaf)  
  • Roedd dysgwyr Blwyddyn 11 yn fwy tebygol o ddefnyddio dyfais fepio o leiaf bob wythnos, o leiaf (14%) o gymharu â dysgwyr Blwyddyn 7 (1%).  
  • Dysgwyr oedran uwchradd o deuluoedd llai cefnog oedd fwyaf tebygol o fod wedi rhoi cynnig ar fepio ac yn eu defnyddio’n rheolaidd  
  • Dywedodd cyfran uwch o ferched Blwyddyn 7 i 11 (7%) eu bod yn fepio o leiaf bob wythnos o gymharu â bechgyn (4%). Ymhlith y bobl ifanc a nododd nad oeddent yn fachgen nac yn ferch, dywedodd 8% eu bod yn fepio bob wythnos, o leiaf. 1  

Ymhlith y camau a awgrymwyd i ymateb i fepio, a mynd i’r afael ag ef, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori ysgolion i gymryd deg o gamau allweddol yn gysylltiedig â fepio. O’u defnyddio ochr yn ochr â meysydd blaenoriaeth eraill fel rhan o gyflwyno’r cwricwlwm a gweithredu ymagwedd ysgol gyfan at iechyd a lles, mae’r camau hyn yn cynnwys:  

  • Defnyddio dangosfwrdd SHRN i ddeall sut mae ymddygiadau fepio yn eu hysgol yn cymharu ag ardaloedd eraill, a ledled Cymru.  
  • Defnyddio adroddiad Iechyd a Lles Myfyrwyr cenedlaethol SHRN i helpu nodi proffil oedran ymddygiad fepio a chynllunio cyflwyno’r cwricwlwm yn unol â hynny.  
  • Parhau i gymryd rhan yn arolygon ysgolion SHRN i helpu creu darlun o ymddygiadau ac ymatebion ysmygu a fepio a sut maen nhw’n esblygu.  

Dywedodd Arweinydd a Dadansoddwr Gwyddonol Dros Dro SHRN, Dr Nick Page:  

‘Mae’r canllawiau hyn yn enghraifft wych o’r modd y mae SHRN yn cefnogi ymdrechion i wella iechyd cyhoeddus ledled Cymru trwy ddarparu data gweithredadwy ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc. Un o gryfderau allweddol data’r SHRN yw ei fod yn darparu tystiolaeth ar lefelau cenedlaethol, rhanbarthol, a lleol, gan alluogi ysgolion i nodi anghenion iechyd a lles dysgwyr a thargedu camau priodol. Mae arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr 2023 yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ac yn cynnwys cwestiynau ychwanegol ar ddyfeisiau fepio tafladwy ac amgyffrediadau o niwed. Bydd y data hwn, fydd ar gael yng ngwanwyn 2024, yn ychwanegu at sail y dystiolaeth bresennol ynghylch fepio ymhlith pobl ifanc yng Nghymru ac yn llywio strategaethau ataliol yn y dyfodol.’  

Gellir darllen gwybodaeth a chanllawiau ar Fepio ar gyfer dysgwyr oedran uwchradd yng Nghymru, a gasglwyd ynghyd gan y Tîm Rheoli Tybaco a’r Tîm Lleoliadau Addysgol, yr Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru, yma: https://phw.nhs.wales/topics/information-and-guidance-on-vaping-for-secondary-aged-learners-in-wales/information-and-guidance-on-vaping-for-secondary-aged-learners-in-wales/ . 

Gellir darllen cefndir i’r canllawiau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://phw.nhs.wales/topics/information-and-guidance-on-vaping-for-secondary-aged-learners-in-wales/ . 

Gellir darllen mwy am yr arolwg ar wefan SHRN:   https://www.shrn.org.uk/cy/data-cenedlaethol/ . 

1. Page, N., Angel, L., Ogada, E., Young, H., Murphy, S. (2023). Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad am Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Prifysgol Caerdydd, Caerdydd, y DU. https://www.shrn.org.uk/cy/data-cenedlaethol/