Mynd i'r cynnwys
Home » Decipher yng nghynhadledd 2020 cymdeithas ryngwladol astudio hunan-niweidio

Decipher yng nghynhadledd 2020 cymdeithas ryngwladol astudio hunan-niweidio

Ar Fehefin 27 2020, cyfarfu cydweithwyr rhyngwladol ym maes hunan-niweidio nad yw’n hunanladdiad, yn cynnwys Rachel Parker o DECIPHer, yn rhithiol yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Ryngwladol Astudio Hunan-niweidio (ISSS).

Nod cynhadledd flynyddol ISSS yw rhannu gwybodaeth arbenigol er mwyn deall, atal a thrin hunan-niweidio nad yw’n hunanladdiad (NSSI)
a meithrin llesiant ymhlith y rheini sydd â phrofiad o fyw gydag NSSI a’r rheini mae NSSI wedi effeithio arnynt.

Cadeirydd a llywydd y gynhadledd oedd yr Athro Doctor Paul Plener, Pennaeth Adran Seiciatreg Plant a Glasoed, MedUni Fiena/Ysbyty Cyffredinol Fiena. Y cynllun gwreiddiol oedd cynnal y gynhadledd yn Fiena, ond symudodd i fformat rhithwir mewn ymateb i gyfyngiadau COVID-19 er mwyn gallu
parhau i’w chynnal. Bu dros 200 o ymchwilwyr, clinigwyr, myfyrwyr, pobl â phrofiad o NSSI, eiriolwyr a rhanddeiliaid eraill yn rhannu eu hymchwil a’u gwaith.

Roedd y gynhadledd yn cynnwys prif anerchiad gan Doctor Barent Walsh, panel o arbenigwyr, cyfarfodydd Grwpiau Diddordeb Arbennig, 37 o gyflwyniadau llafar wedi’u recordio, a phum symposiwm.

“Roedd yn gyfle amhrisiadwy i ddatblygu partneriaethau ymchwil rhyngwladol at y dyfodol.”

Rachel Parker


Cyflwynodd Rachel Parker, Ymchwilydd PhD yn DECIPHer, ei phrotocol diogelwch ar gyfer ymchwil ansoddol ar hunan-niweidio glasoed yn y gynhadledd. Roedd y gwaith hwn yn deillio o’i phrosiect ymchwil sy’n canolbwyntio ar gymorth ymyrraeth i atal hunan-niweidio mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru,a gaiff ei gwblhau ym mis Medi 2021. Mae’r protocol diogelwch ymchwil wedi’i gynllunio i reoli risg posibl o niwed i ddisgyblion ysgol uwchradd mewn ymchwil ymyrraeth i atal hunan-niweidio glasoed. Mae’r protocol wedi llwyddo i’r 37 o ddisgyblion chweched dosbarth a’r cyfranogwyr ifanc o Gymru a gymerodd ran yn y prosiect – roedd gan 36 o’r cyfranogwyr ymchwil hyn brofiad o hunan-niweidio glasoed.

Cynrychiolwyd 25 o wledydd yn y gynhadledd

Mae’r protocol diogelwch ymchwil yn ymdrin â rhai o’r rhwystrau ymchwil cyfredol wrth gwblhau ymchwil ymyrraeth i atal hunan-niweidio glasoed mewn ysgolion. Mae’n cyfrannu hefyd at y sail o wybodaeth sy’n ymddangos a’r drafodaeth sy’n amlygu’r materion moesegol cymhleth sy’n gallu codi wrth
gwblhau ymchwil i hunan-niweidio glasoed gyda phobl ifa

Mae Rachel wedi treulio dau ddegawd yn gweithio gyda hunan-niweidio glasoed fel gweithiwr proffesiynol llinell flaen ac ymchwilydd, yn cynnwys fel ymgynghorydd Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed ar grŵp Gorchwyl a Gorffen y DU ar hunan-niweidio glasoed. Mae’r protocol diogelwch ymchwil yn tynnu’n fawr ar brofiad ei hymarfer proffesiynol a’i gwybodaeth. Yr Athro Jonathan Scourfield Doctor Rhiannon Evans sy’n goruchwylio’r prosiect ymchwil PhD cyfredol hwn.

Dywed Rachel: ‘Cwblhaodd ISSS waith helaeth i drefnu fformat newydd eu cynhadledd ar-lein oedd yn golygu fy mod yn gallu cysylltu ag arbenigwyr byd-eang yn fy maes ymchwil. Fel Ymchwilydd ar Ddechrau Gyrfa roedd hwn yn gyfle amhrisiadwy i fi ddatblygu partneriaethau ymchwil rhyngwladol at y dyfodol, yn cynnwys drwy Raglen Ymchwil Gydweithredol ISSS sy’n cyflenwi mentora gan ymchwilydd NSSI rhyngwladol blaenllaw. Rwyf i’n edrych ymlaen at fanteisio ar y cyfleoedd cyffrous hyn ymhellach yn y dyfodol agos.’

Mae’r Athro Plener wedi cytuno i gynnal y gynhadledd ISSS nesaf yn Fiena yn 2021, ac mae cynrychiolwyr DECIPHer yn edrych ymlaen at fynd yno, yn osygtal â chynllunio ymchwil gydweithredol yn y dyfodol gydag ISSS i fodloni nodau ac amcanion cyffredin gyda’i gilydd. Yn ffodus, mae Parc Ymchwil newydd y Gwyddorau Cymdeithasol, SPARK, sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o Gampws Arloesedd £300m Prifysgol Caerdydd, yn debygol o allu harneisio’n sbardun hwn a helpu i fynd â’r gwaith partneriaeth rhyngwladol hwn yn ei flaen. Mwy yn y man!

Mae Rachel Parker yn ymchwilydd yn DECIPHer. Ceir rhagor o wybodaeth am ISSS yma.