Mynd i'r cynnwys
Home » FFRAMWAITH NEWYDD WEDI’I GYHOEDDI AR ‘DDULL GWEITHREDU YSGOL GYFAN’ O YMDRIN AG IECHYD MEDDWL A LLES

FFRAMWAITH NEWYDD WEDI’I GYHOEDDI AR ‘DDULL GWEITHREDU YSGOL GYFAN’ O YMDRIN AG IECHYD MEDDWL A LLES

Mae DECIPHer a Chanolfan Iechyd Meddwl Wolfson yn cyfrannu at bolisi iechyd meddwl

Os yw COVID-19 wedi dysgu unrhyw beth i ni, pwysigrwydd ein hiechyd meddwl yw hynny. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc, sydd wedi’u hynysu oddi wrth eu hathrawon a’u cyfoedion yn ystod cyfnod helaeth o’r pandemig. Ym mis Gorffennaf 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad agored, yn ceisio barn ar ei chanllawiau fframwaith drafft ar ymgorffori ‘dull gweithredu ysgol gyfan’ o ymdrin ag iechyd a lles meddwl. Bwriad y fframwaith yw ‘cefnogi ysgolion i adolygu eu tirlun llesiant eu hunain’.

Fe wnaeth yr ymgynghoriad alluogi pobl i wneud sylwadau ac awgrymu gwelliannau i’r fframwaith, sy’n ymwneud â meysydd fel cefnogi dysgwyr a staff; datblygu ac ymgorffori arfer gorau; cysondeb a chydweithrediad rhwng ysgolion a phartneriaid a gweithgareddau fel hyfforddiant ac ymwybyddiaeth.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng Gorffennaf a Medi 2020 a derbyniwyd 142 o ymatebion. Cyflwynodd DECIPHer a Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson ymateb, y gellir ei ddarllen yma. Cyfrannodd Cyfarwyddwr DECIPHer, yr Athro Simon Murphy, hefyd at y Grŵp Gorffen a Gorchwyl Gweinidogol ar y Cyd a gefnogodd ddatblygiad y canllawiau cychwynnol.

Cyhoeddwyd y Fframwaith gan Lywodraeth Cymru ar 15 Mawrth 2021 ac mae ar gael yma. Yn ôl y Llywodraeth mae ‘yn galluogi ysgolion i gwmpasu eu hangen, gan fapio eu cryfderau a’u gwendidau, a defnyddio’r ystod o ddata sydd ar gael iddynt.’ Mae hefyd yn cyfeirio at bwysigrwydd defnyddio data Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgol (SHRN) wrth fesur effaith ac archwilio a llunio arferion cwricwlwm ac addysgu.

Dywedodd Addysg Llywodraeth Cymru ar Twitter: ‘Mae meithrin cydberthnasau cryfach a chefnogi ein gilydd wrth wraidd y #DullYsgolGyfan newydd i fframwaith iechyd meddwl a lles emosiynol.’ O’r diwedd, dyma rywbeth cadarnhaol i ddod i’r amlwg o flwyddyn heriol.