Mynd i'r cynnwys
Home » Mae bron i chwarter o bobl ifanc Cymru yn rhoi gwybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn dilyn y pandemig

Mae bron i chwarter o bobl ifanc Cymru yn rhoi gwybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn dilyn y pandemig

Gofynnwyd i fwy na 123,000 o ddisgyblion am eu barn yn yr arolwg cenedlaethol o iechyd a lles.

Rhoddodd bron i chwarter y ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru wybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn COVID-19, yn ôl adroddiad diweddaraf Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) Prifysgol Caerdydd.

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau arolwg mawr o bobl ifanc yng Nghymru a seiliwyd ar ysgolion. Cafodd ei baratoi gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ac mae’n rhoi’r trosolwg manwl cyntaf o iechyd a lles pobl ifanc ers i’r pandemig ddechrau. Am y tro cyntaf, gellir cymharu detholiad o’r data hefyd ar draws ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru, diolch i bartneriaeth SHRN â dadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi creu  dangosfwrdd rhyngweithiol ar-lein sy’n cyflwyno canlyniadau’r arolwg yn fanylach.

Yr Arolwg o Iechyd a Lles Disgyblion gan SHRN yw’r mwyaf o’i fath yn y DU gan i fwy na 123,000 o ddisgyblion rhwng blynyddoedd 7 ac 11 o 202 o ysgolion yng Nghymru gymryd rhan yn 2021/22. Mae’r arolwg eang ei natur, sy’n cael ei gynnal bob dwy flynedd, yn gofyn i ddisgyblion am agweddau ar eu hiechyd corfforol a meddyliol a’u perthnasoedd cymdeithasol, ac mae’r data dienw yn cael ei rannu gyda’r ysgolion er mwyn llywio arferion lleol.

Mae canfyddiadau’r adroddiad diweddaraf yn dangos bod 24% o bobl ifanc yng Nghymru wedi profi lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl, yn seiliedig ar ymatebion i’r Holiadur ar Gryfderau ac Anawsterau – sef adnodd ymchwil safonol a ddefnyddir i asesu iechyd meddwl plant. Roedd merched (28%) bron ddwywaith yn fwy tebygol na bechgyn (16%) o fod wedi rhoi gwybod am lefelau uchel iawn o symptomau iechyd meddwl.

Roedd mesurau eraill yn dangos bod un o bob dau (53%) o bobl ifanc hefyd wedi rhoi gwybod eu bod yn teimlo o leiaf rywfaint o bwysau oherwydd eu gwaith ysgol, ac mae un o bob pedwar (27%) yn teimlo llawer o bwysau.

Roedd y rhan fwyaf o’r sawl a holwyd yn teimlo bod cymorth ar gael iddyn nhw; Roedd dwy ran o dair (66%) yn cytuno bod aelod o staff yn yr ysgol y gallen nhw ymddiried ynddo ac roedd y rhan fwyaf yn dweud eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn gan eu hathrawon (70%). Roedd mwy na hanner (65%) y sawl a holwyd yn cytuno eu bod yn cael y cymorth a’r gefnogaeth emosiynol sydd eu hangen arnyn nhw gan eu teulu, tra bod bron i ddwy ran o dair (63%) yn cytuno y gallan nhw ddibynnu ar eu ffrindiau pan fydd pethau’n mynd o chwith, ac roedd 29% yn cytuno’n “gryf iawn” yn hyn o beth.

Dyma a ddywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, a Phrif Ymchwilydd SHRN: “Dechreuodd ein hymchwil cwta 18 mis ar ôl cyfnod clo cyntaf Covid. Efallai nad yw’n fawr o syndod felly bod cynifer o bobl ifanc yn wynebu heriau iechyd meddwl a phwysau gwaith ysgol ar hyn o bryd.

“Ond yr hyn sydd hefyd yn glir ac yn galonogol yn sgil y canfyddiadau yw bod y rhan fwyaf o bobl ifanc o’r farn bod ganddyn nhw rywun yr oedden nhw’n gallu troi ato am gymorth, naill ai yn yr ysgol neu yn eu teuluoedd a’u grwpiau cyfeillgarwch. Mae’r canfyddiadau hyn yn ein helpu i ddeall yr heriau o ran iechyd y cyhoedd sy’n wynebu pobl ifanc ond mae hefyd yn awgrymu meysydd y gellir eu datblygu i fynd i’r afael â nhw.”

Dyma a ddywedodd Dr Nicholas Page, Cydymaith Ymchwil yn DECIPHer a phrif awdur yr adroddiad: “Bydd y data hwn, sy’n ymchwilio i ystod eang o faterion sy’n effeithio ar fyfyrwyr yng Nghymru, o ddiddordeb i unrhyw un sy’n gweithio yn y sectorau iechyd ac addysg yn ogystal â rhoi tystiolaeth gadarn a all lywio a llunio polisïau. Rydyn ni’n ddiolchgar i bob ysgol a myfyriwr a gymerodd ran.”

Yn ogystal ag iechyd meddwl a lles a bywyd yr ysgol, ystyriodd yr arolwg nifer o bynciau gwahanol, gan gynnwys bywyd teuluol a chymdeithasol, gweithgarwch corfforol a deiet, perthnasoedd, defnyddio sylweddau a gamblo, yn ogystal â hawliau plant. Ymhlith y canfyddiadau eraill y mae:

  • Gofalwyr ifanc: Rhoddodd 17% o bobl ifanc wybod eu bod wedi gorfod gofalu am aelod o’r teulu.
  • E-sigaréts ac ysmygu: Rhoddodd un o bob pump (20%) o bobl ifanc wybod eu bod wedi rhoi cynnig ar e-sigarét. Rhoddodd 5% o bobl ifanc wybod eu bod yn ysmygu e-sigarét ar hyn o bryd (o leiaf unwaith yr wythnos) ac mae llai o fechgyn (4%) yn dweud eu bod yn eu defnyddio ar hyn o bryd o’u cymharu â merched (7%). Ar y cyfan, rhoddodd 3% o bobl ifanc wybod eu bod yn ysmygu tybaco ar hyn o bryd.
  • Yfed alcohol: Rhoddodd bron i dri o bob pump (58%) o bobl ifanc wybod nad ydyn nhw byth yn yfed alcohol, a dywedodd 7% eu bod yn yfed ar hyn o bryd (o leiaf unwaith yr wythnos).
  • Lleoedd heb fwg: Yn yr arolwg, rhoddodd pobl ifanc eu barn am wahardd ysmygu mewn lleoedd nad yw deddfau di-fwg cyfredol yn berthnasol. Roedd tua un o bob dau yn cytuno y dylid gwahardd ysmygu mewn cartrefi pan fo plant yn bresennol (54%) a thu allan i giatiau’r ysgol (49%), tra bod dau o bob pump yn cytuno y dylid ei wahardd y tu allan i dafarndai, caffis a bwytai (37%), ac mewn parciau cyhoeddus (40%).
  • Ymarfer corff: Roedd 16% o bobl ifanc yn bodloni’r canllawiau a argymhellir ar gyfer gweithgarwch corff, sef o leiaf 60 munud y dydd.
  • Bwyta ffrwythau a llysiau: Rhoddodd 33% o fyfyrwyr wybod eu bod yn bwyta ffrwythau o leiaf unwaith y dydd, o’i gymharu â 35% a oedd yn bwyta llysiau o leiaf unwaith y dydd

Dyma a ddywedodd Zoe Strawbridge, un o ddadansoddwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r data hwn mor werthfawr gan ei fod yn rhoi’r cipolwg manwl cyntaf inni ar y ffordd yr oedd pobl ifanc yng Nghymru yn teimlo ac yn ymddwyn yn y blynyddoedd cyn ac yn ystod cyfnod aciwt y pandemig. Am y tro cyntaf rydyn ni wedi gallu rhoi gwybod am ddata lleol, ac mae hyn yn ein helpu i ddeall gwahaniaethau rhanbarthol o ran iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru.”

Mewn ymdrech i wella lles emosiynol pobl ifanc, mae arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru’n annog ysgolion i fabwysiadu Dull Ysgol Gyfan Llywodraeth Cymru o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol. Mae’r dull gweithredu yn cydnabod y gall pob agwedd ar fywyd ysgol effeithio ar iechyd a lles, gan roi arweiniad i helpu pawb i weithio ar y cyd er mwyn gwella hyn. Mae data SHRN yn chwarae rhan hollbwysig wrth adnabod y materion y mae angen mynd i’r afael â nhw yn ogystal â ffordd o werthuso’r cynnydd.

Dyma a ddywedodd Emily Van de Venter, Ymgynghorydd Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn helpu ysgolion i ddefnyddio Fframwaith Llywodraeth Cymru ym maes y Dull Ysgol Gyfan o ymdrin ag Iechyd Meddwl a Lles Emosiynol i estyn cymorth i’w disgyblion yn y cyfnod hwn ar ôl y pandemig. Mae’n cydnabod bod pob agwedd ar fywyd ysgol yn gallu effeithio ar iechyd meddwl a lles disgyblion ac y dylai dysgwyr, rhieni a gofalwyr, athrawon a llywodraethwyr weithio gyda’i gilydd i wella iechyd a lles yn yr ysgol. Dylai diwylliant ac ethos ysgol fod yr un mor bwysig â’i chwricwlwm a’i pholisïau. Rydyn ni wrthi’n annog ysgolion i ddilyn y dull hwn ac yn eu cefnogi i wneud gwelliannau.”

Un o’r ysgolion wnaeth dreialu’r dull o weithredu oedd Ysgol Brenin Harri’r VIII yn y Fenni. Dywed y pennaeth cynorthwyol Jake Parkinson ei fod wedi bod yn fuddiol.

Dyma a ddywedodd: “Mae bod yn ysgol beilot ar gyfer y dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol wedi bod yn brofiad dysgu cadarnhaol iawn i’r ysgol.  Mae’r fframwaith hwn wedi ein helpu i ddathlu’r holl bethau gwych rydyn ni eisoes yn eu gwneud, ond mae hefyd wedi cynorthwyo’r ysgol i adnabod meysydd datblygu pellach, gan ein helpu i flaenoriaethu anghenion drwy hunanwerthuso ar sail tystiolaeth.” 

Wrth sôn am ganfyddiadau’r SHRN, dyma a ddywedodd Ian Gerrard, Pennaeth Ysgol Aberconwy: “Mae’r data hwn yn bwysig iawn inni yn yr ysgol gan ei fod yn rhoi cipolwg manwl inni ar sut mae’r pandemig wedi effeithio ar bobl ifanc Cymru. O ganlyniad, mae ein tîm bugeiliol mewn sefyllfa dda i roi cymorth i unigolion ac i grwpiau o blant sy’n mynegi pryderon am eu hiechyd meddwl, ac rydyn ni’n gallu cynllunio’n strategol i ddarparu gweithgareddau a fydd yn eu helpu.”


Partneriaeth yw SHRN rhwng y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU.

Ariennir y bartneriaeth gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adran Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Yn 2021 yr ysgolion oedd pob ysgol uwchradd a chanol a gynhelir yng Nghymru.


Mae DECIPHer yn aelod o SPARK – Parc Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol. Mae SPARC, ar Gampws Arloesi Caerdydd, yn dod â chanolfannau a sefydliadau ymchwil arbenigol yn y gwyddorau cymdeithasol at ei gilydd mewn canolfan bwrpasol, sef sbarc|spark, i fynd i’r afael â phroblemau dybryd y gymdeithas. 

Ymunwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn gweminar fydd yn dangos y ffordd orau o ddefnyddio’r dangosfwrdd. Ceir hefyd y cyfle i ofyn cwestiynau a chael trafodaeth gyda’r sawl a oedd wedi llunio dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Iach Cymru ac academyddion DECIPHer.


Mae asesiadau annibynnol y llywodraeth yn cydnabod Prifysgol Caerdydd yn un o brifysgolion blaenllaw Prydain o ran addysgu ac ymchwil, ac mae’n aelod o Grŵp Russell, sef prifysgolion mwyaf gweithgar y DU ym maes ymchwil. Canfu Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 fod 90% o ymchwil y Brifysgol yn arwain y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol.  Ymhlith ei staff academaidd mae dau enillydd Gwobr Nobel, gan gynnwys enillydd Gwobr Nobel Meddygaeth 2007, yr Athro Syr Martin Evans. Sefydlwyd y Brifysgol yn sgîl Siarter Frenhinol ym 1883, a heddiw mae’n cyfuno cyfleusterau modern trawiadol ag agwedd ddeinamig at addysgu ac ymchwil. Mae ehangder arbenigedd y Brifysgol yn cynnwys: Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd; a Choleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg. Mae sefydliadau’r Brifysgol yn dod ag academyddion o ystod o ddisgyblaethau ynghyd i fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r gymdeithas, yr economi a’r amgylchedd. Cewch ragor o wybodaeth drwy ymweld â www.caerdydd.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am Ddull yr Ysgol Gyfan o ymwneud ag Iechyd Meddwl neu’r dangosfwrdd rhyngweithiol ar-lein, cysylltwch â thîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 0300 003 0277 neu communications.team@wales.nhs.uk.


Iechyd Cyhoeddus Cymru yw sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol Cymru.

  • Ni yw eich prif ffynhonnell o wybodaeth ddibynadwy ym maes iechyd cyhoeddus, arbenigedd annibynnol ac ymchwil ac arloesi o’r radd flaenaf, a hynny i helpu pawb yng Nghymru i fyw bywyd iachach.
  • Ar y cyd â’n partneriaid ar draws y llywodraeth, y trydydd sector a chymunedau lleol, mae ein timau’n gweithio i atal clefydau, amddiffyn iechyd a rhoi arbenigedd arbenigol.
  • Gyda’n gilydd, ein nod yw lleihau anghydraddoldeb, cynyddu disgwyliad oes iach a gwella iechyd a lles i bawb yng Nghymru, yn awr ac at genedlaethau’r dyfodol.

Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cydweithio i greu Cymru iachach.

Cewch ragor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy ymweld â https://icc.gig.cymru/