
Bydd ymchwilwyr yn ymchwilio i’r ffyrdd y gellir cefnogi plant yn well i wneud dewisiadau iachach
Bydd darpariaeth prydau ysgol yn ogystal â nifer a chanran y disgyblion sy’n eu defnyddio yn destun ymchwil astudiaeth dan arweiniad academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ariennir yr astudiaeth tair blynedd gwerth £1.6m gan Ymchwil ac Arloesi’r DU (UKRI) yn rhan o’i gwaith i greu cyfleoedd a gwella deilliannau. Mae’n cael ei chynnal mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, LACA – the School Food People, Prifysgol Newcastle, Prifysgol y Frenhines, Belfast, Prifysgol Caledonian, Glasgow, yn ogystal â chyngor gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Mae’r gallu i gyrchu Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb (UFSM) – sef cynnig prydau ysgol i blentyn waeth beth fo’i statws ariannol – yn amrywio ledled y DU. Mae UFSM ar gael mewn rhai lleoedd yn Lloegr. Yn yr Alban, mae ar gael hyd at flwyddyn pump, ac mae rhai awdurdodau lleol yn ymestyn y ddarpariaeth y tu hwnt i’r grŵp blwyddyn hwnnw. Cymru yw’r genedl gyntaf yn y DU i gyflwyno’r polisi i bob plentyn oedran cynradd.
Mae’r polisi mwy cyffredin, sef Prydau Ysgol am Ddim yn seiliedig ar brawf moddion.
Yn yr astudiaeth hon, bydd ymchwilwyr yn gweithio gyda staff ysgolion, cynghorau lleol, arlwywyr, arbenigwyr iechyd cyhoeddus a gwleidyddion ledled pedair rhan y DU, i ymchwilio i’r bwyd sy’n cael ei ddarparu a’i fwyta yn yr ysgol.
‘Mae’r ymchwil hon yn gyfle unigryw i ddysgu rhagor am y ddarpariaeth ledled y DU, a hynny er mwyn dysgu gwersi am sut y gellir rhoi’r sylfeini gorau i blant a phobl ifanc gael bywydau iach a hapus.’ Dr Sara Long
Bydd y tîm yn gweithio’n agosach gyda dau awdurdod lleol yng Nghymru i astudio cynnwys maeth bwydlenni ysgolion ac ymchwilio i’r hyn y mae plant yn ei fwyta go iawn. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall a yw un o fwriadau polisi UFSM, sef bwyta pryd iach a maethlon cytbwys yn yr ysgol gynradd, yn digwydd go iawn.
Bydd yr ymchwilwyr hefyd yn cyfweld â staff ysgolion, rhieni/gofalwyr a phlant i wybod beth sy’n dylanwadu ar y ddarpariaeth yn ogystal â nifer a chanran y disgyblion sy’n eu defnyddio. Bydd arolygon blynyddol hefyd yn cael eu hanfon i ysgolion Cymru i ofyn cwestiynau am ddewisiadau bwyd ysgol, a hynny er mwyn monitro tueddiadau tymor hwy. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i gynnig argymhellion i wella darpariaeth, nifer a chanran y disgyblion sy’n bwyta bwyd ysgolion, yn ogystal â chyfrannu at strategaethau i hyrwyddo dewisiadau iachach ymhlith plant a theuluoedd.
Dyma’r hyn a ddywedodd Dr Sara Long yn y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyraethau Cymhleth er Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer): “Mae llawer o deuluoedd yn cael trafferth gyda chostau byw. Mae prisiau wedi codi, ac yn aml bydd bwyd llai iach ar gael yn rhatach ac yn haws i ddod o hyd iddo. Yn aml, fydd plant sy’n byw yn yr ardaloedd tlotaf ddim yn bwyta digon o ffrwythau, llysiau a bwydydd eraill sy’n rhan o deiet iach a chytbwys. Felly, mae prydau ysgol yn gyfle gwych i sicrhau bod pob plentyn yn cael maeth da.
“Ond dydyn ni ddim yn gwybod digon am gynnwys maethol bwyd a gynigir mewn ysgolion. Fydd pob plentyn a theulu ddim yn dewis bwyta prydau ysgol. I’r rheini sy’n gwneud hynny, ychydig a wyddwn am ddewis bwyd ac a yw plant yn bwyta’r eitemau iachach sy’n cael eu rhoi ar eu platiau.
“Mae’r ymchwil hon yn gyfle unigryw i ddysgu rhagor am y ddarpariaeth ledled y DU, a hynny er mwyn dysgu gwersi am sut y gellir rhoi’r sylfeini gorau i blant a phobl ifanc gael bywydau iach a hapus.”
Dyma’r hyn a ddywedodd Athro Kevin Morgan yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd: “Gan mai Cymru yw’r unig genedl yn y DU sydd wedi cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i Bawb yn llawn ym mhob ysgol gynradd wladol, dyma le addas i gynnal prosiect a ariennir gan UKRI ar ddarpariaeth, nifer a chanran y disgyblion sy’n bwyta prydau ysgol am ddim i bawb.”
Dyma a ddywedodd Rachel Bath, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus sy’n arwain y Tîm Maeth a Phwysau Iach Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae’r ymchwil hon yn gyfle arwyddocaol ac amserol i ddeall yn well y graddau y mae polisïau ar fwyd ysgolion yn cael effaith go iawn ar iechyd plant. Cryfder yr astudiaeth hon yw ei dull cydweithredol – gan ddod â lleisiau’r byd academaidd, arlwyo, iechyd y cyhoedd, addysg ac ymarfer ynghyd. Mae ehangder yr arbenigedd hwnnw’n golygu y bydd y canfyddiadau wedi’u seilio ar dystiolaeth ond ar ben hynny yn berthnasol iawn ac at y diben, gan helpu i lunio polisïau sy’n gwella lles plant am flynyddoedd i ddod.
Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf ar wefan Prifysgol Caerdydd: https://www.cardiff.ac.uk/cy/news/view/2923780-school-meals-focus-of-new-uk-wide-study.