Mae astudiaeth fapio newydd yn edrych ar y rhwystrau a brofir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrth gyrchu gwasanaethau iechyd ac yn gwneud awgrymiadau allweddol i wella’r nifer sy’n manteisio arnynt.
Cafodd yr astudiaeth, y gellir ei darllen yma, ei chynnal gan Jay Harley a Jasmine Jones o Sipsiwn a Theithwyr Cymru a Dr Rhiannon Evans o DECIPHer. Fe’i comisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n ceisio deall darpariaeth gwasanaeth clefydau trosglwyddadwy ar gyfer ystod o grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
Pam y cymunedau hyn?
Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn profi rhai o’r canlyniadau iechyd a’r anghydraddoldebau iechyd gwaethaf ymhlith unrhyw boblogaeth yn y DU (Tŷ’r Cyffredin a Chydraddoldeb, 2019).
Yng Nghymru a Lloegr:
- Canfu data o Gyfrifiad 2011 mai Sipsiwn a Theithwyr Gwyddelig oedd â’r gyfran isaf o ymatebwyr yng Nghymru a Lloegr a nododd fod eu hiechyd cyffredinol yn ‘dda’ neu’n ‘dda iawn’ (70%) o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol (81%) (Cook et al., 2013; Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2014).
- Mae’r cymunedau hyn yn byw rhwng pump a 25 mlynedd yn llai na phoblogaeth ehangach y DU (Comisiwn Ewropeaidd, 2019); Parry et al., 2007).
- Maent yn profi hyd at chwe blynedd yn llai o Fywyd a Addaswyd yn ôl Ansawdd (h.y. blynyddoedd yn byw mewn iechyd da) (Comisiwn Ewropeaidd, 2019; Parry et al., 2007).
Mapio gwasanaethau iechyd
Mapiodd y tîm ymchwil y gwasanaethau sydd ar gael i gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac archwilio eu profiadau o ddarparwyr gofal iechyd.
Roedd y mapio yn cynnwys dau weithgaredd:
- Ymgynghori â chynghorwyr sefydliadol a rhwydweithiau perthnasol eraill i gynhyrchu map o wasanaethau a ddefnyddir ar hyn o bryd gan gymunedau Sipsiwn a Theithwyr yn Ne Cymru.
- Adolygiad cwmpasu byr o’r sylfaen dystiolaeth i ganfod effeithiolrwydd posibl gwasanaethau, enghreifftiau o arfer gorau, a rhwystrau a hwyluswyr i ddarparu a derbyn gwasanaethau.
Prif Ganfyddiadau
Nododd yr ymgynghoriad ddiffyg sylweddol o wasanaethau wedi’u teilwra’n benodol i anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Er bod diffyg modelau arfer gorau, mae’r enghreifftiau sydd ar gael yn canolbwyntio ar gyd-gynhyrchu ac allgymorth cymunedol.
Roedd yr ymgynghoriad a’r adolygiad yn nodi amrywiaeth o rwystrau i’r nifer sy’n derbyn y gwasanaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Y stigma yn ymwneud â stereoteipiau negyddol ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol;
- Diffyg mynediad, yn enwedig lle gall cymunedau deithio am gyfnodau hir;
- Efallai na fydd gwybodaeth a meddyginiaeth yn addas o ran iaith a llythrennedd, yn enwedig lle mae traddodiad o gyfathrebu llafar;
- Digon o wyleidd-dra diwylliannol, gan gynnwys diffyg cydnabyddiaeth nad yw rhai meysydd iechyd (e.e. iechyd rhywiol) yn briodol i’w trafod;
- Adnoddau annigonol.
Argymhellion
Mae’r adroddiad yn cynnwys awgrymiadau o’r sylfaen dystiolaeth ar sut y gellir gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru i ddiwallu anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Mae’r rhain yn benodol i glefydau trosglwyddadwy ond maent yn berthnasol i iechyd yn ehangach.
Y pedwar prif argymhelliad yw:
Mwy o ddata gofal iechyd
O ystyried prinder y data gofal iechyd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru, mae angen cryfhau hyn i gefnogi dealltwriaeth o anghenion iechyd, proffiliau risg a chanlyniadau’r poblogaethau hyn yng Nghymru.
Cefnogi meddygon teulu
Y darparwr gofal iechyd mwyaf cyffredin a ddefnyddir ac a ffefrir gan gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yw Meddygon Teulu (GPs), a allai gael eu cefnogi ymhellach i ddiwallu anghenion a bennir yn ddiwylliannol.
Cydgynhyrchu gwasanaethau newydd
Efallai y bydd angen datblygu gwasanaethau sydd newydd eu teilwra, a dylid cyd-gynhyrchu’r rhain gyda’r cymunedau y maent yn bwriadu eu cynnwys.
Defnyddio dull cyfannol
Dylai Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru roi sylw cyson a systematig i anghenion cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr ar draws pob maes iechyd. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael ag ysygogiadau systematig iechyd gwael, fel tai, a sicrhau bod gwasanaethau priodol yn cael eu darparu.
Beth nesaf?
Meddai Dr Rhiannon Evans: ‘Mae’r gwaith mapio gwasanaethau hwn yn ddarn pwysig o waith wrth ddechrau deall sut yr ydym yn diwallu anghenion iechyd cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru. Mae’n nodi’n glir rhai bylchau a chyfyngiadau allweddol, gan roi arweiniad i ni ar gyfer ymchwil, polisi ac ymarfer yn y maes hwn ar gyfer y dyfodol.’
Gellir darllen Mapio Gwasanaethau ar gyfer Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy: Cymunedau Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru yma.