Mynd i'r cynnwys
Home » Ymddygiadau cyfathrebu pobl ifanc ar-lein – cadarnhaol neu negyddol ar gyfer lles?

Ymddygiadau cyfathrebu pobl ifanc ar-lein – cadarnhaol neu negyddol ar gyfer lles?

 

 

 

Mae’r ymchwilwyr Emily Lowthian a Rebecca Anthony wedi ennill cyllid gan eNurture (UKRI) i gynnal ymchwil ar ymddygiadau cyfathrebu pobl ifanc ar-lein a’r risgiau a’r manteision i’w lles cymdeithasol, corfforol a meddyliol.

Bydd yr ymchwilwyr yn cynnal dadansoddiad dosbarth cudd o ymddygiadau pobl ifanc ar-lein gan ddefnyddio setiau data cyfoethog o arolygon panel COVID-19 Understanding Society. Byddant yn archwilio sut mae patrymau gwahanol o gyfathrebu ar-lein yn gysylltiedig â lles meddwl ar y pryd ac yn hydredol.

Bydd y prosiect yn cael ei arwain a’i gefnogi gan bobl ifanc mewn grwpiau Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd yn TRIUMPH (Glasgow) a Chanolfan Wolfson (Prifysgol Caerdydd). Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i gyd-gynhyrchu adnodd i bobl ifanc am sut y gall eu hymddygiad cyfathrebu ar-lein fod yn gadarnhaol neu’n negyddol ar gyfer lles.

Rhwydwaith a ariennir gan UKRI yw Rhwydwaith eNurture sy’n meithrin cydweithrediadau newydd i hybu iechyd meddwl plant a phobl ifanc mewn byd digidol. Mae’n dod ag ymchwilwyr academaidd, cynghorwyr proffesiynol a phartneriaid o sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ynghyd.

Amlinellodd Dr Lowthian y cynlluniau ar gyfer y prosiect: ‘Byddwn yn cyd-gynhyrchu adnodd i bobl ifanc am ein hastudiaeth, mewn fformat hygyrch, wedi’i gydgynhyrchu – gan ddibynnu ar yr hyn y mae pobl ifanc yn ei ddweud wrthym.’

Ychwanegodd Dr Anthony: ‘Rydym yn gwybod y gall cyfryngau cymdeithasol fod yn gadarnhaol i les llawer o bobl ifanc, tra gall fod yn niweidiol i eraill. Bydd yr ymchwil hwn yn archwilio gwybodaeth fanwl am bwy mae pobl ifanc yn cyfathrebu â nhw, a sut maen nhw’n gwneud hynny, a’r cysylltiadau â lles meddwl. Gobeithiwn y bydd yn codi ymwybyddiaeth o batrymau cyfathrebu ar-lein a allai fod yn fuddiol neu’n niweidiol. Rydym yn hynod ddiolchgar am y cyllid i ganiatáu i’r gwaith hwn fynd yn ei flaen.’

Cadwch lygad am ddiweddariadau ar y prosiect yn y dyfodol.

Mae Rebecca Anthony yn Gydymaith Ymchwil yn DECIPHer a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.

Mae Emily Lowthian yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe yn yr Adran Addysg ac Astudiaethau Plentyndod. Cwblhaodd ei PhD yn DECIPHer yn 2021.