Mynd i'r cynnwys
Home » Papur newydd yn ymchwilio i’r ffordd mae iechyd meddwl plant yn dylanwadu wrth bontio i’r ysgol uwchradd

Papur newydd yn ymchwilio i’r ffordd mae iechyd meddwl plant yn dylanwadu wrth bontio i’r ysgol uwchradd

 

 

Mae pontio i’r ysgol uwchradd yn gyfnod heriol i blentyn a gall effeithio ar iechyd meddwl a chyflawniad academaidd disgybl yn y dyfodol.

 

 

Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad yr Athro Frances Rice ym Mhrifysgol Caerdydd wedi nodi rhai o’r ffactorau sy’n ymwneud â pha mor dda mae pobl ifanc yn ymgyfarwyddo â bod yn yr ysgol uwchradd. Asesodd yr ymchwilwyr hyn trwy edrych ar ystod o ganlyniadau sy’n bwysig i bobl ifanc gan gynnwys nid yn unig eu cyrhaeddiad academaidd, ond hefyd eu hymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, a’u teimladau am yr ysgol (p’un a oeddent yn teimlo’n unig yn yr ysgol neu’n hoffi’r ysgol).

Dywedodd yr Athro Frances Rice “Mae plant sy’n pontio i’r ysgol uwchradd yn wynebu ystod o brofiadau a disgwyliadau newydd gan gynnwys trefn newydd, newid yn eu perthynas gyda chyfoedion ac athrawon a chwrdd â safonau academaidd newydd. Yn flaenorol, mae dylanwad teimladau plant o bryder, eu hiechyd meddwl, a disgwyliadau rhieni ac athrawon wrth ragfynegi pa mor dda y bydd plant yn addasu i’r ysgol uwchradd wedi bod yn aneglur.”

“Yn yr astudiaeth hon, gwelsom fod y rhan fwyaf o blant yn mynegi rhai pryderon am ddechrau yn yr ysgol uwchradd ond bod hyn yn lleihau dros y flwyddyn uwchradd gyntaf. O ran profi pa ffactorau oedd yn gysylltiedig â pha mor dda roedd plant yn ymgyfarwyddo â’r ysgol uwchradd, roedd y plant hynny oedd â symptomau isel o anawsterau iechyd meddwl yn yr ysgol gynradd ac yr oedd eu rhieni neu athrawon yn disgwyl iddynt ymgyfarwyddo’n dda, yn tueddu i wneud yn well mewn amrywiaeth o ganlyniadau swyddogaethol erbyn diwedd yr ysgol uwchradd (yn academaidd, hoffi’r ysgol, ymddygiad yn y dosbarth, gwneud ffrindiau).”

Ychwanegodd yr Athro Graham Moore, hefyd o Ganolfan Wolfson a Phrifysgol Caerdydd “Roedd disgwyliadau athrawon ysgol gynradd yn dangos cysylltiad ag ystod eang o ddangosyddion ar gyfer pontio’n llwyddiannus. Gallai gwybod disgwyliadau’r athro ysgol gynradd ynghylch y ffordd y bydd disgybl yn pontio fod yn ddefnyddiol i alluogi gwell cefnogaeth a monitro i berson ifanc yn ystod y cyfnod addysgol hwn a all fod yn heriol.   Mae holiadur byr 4 eitem ar gyfer asesu disgwyliadau rhieni ac athrawon wrth i ddisgybl bontio i’r ysgol uwchradd ar gael yn y papur.”

Gorffennodd yr Athro Rice, “Bydd yr astudiaeth yn ddefnyddiol yn ymchwil Canolfan Wolfson a bydd gwaith dan arweiniad yr Athro Simon Murphy a’r Athro Graham Moore yn parhau i archwilio’r rôl bwysig y gall ysgolion ei chwarae wrth hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol mewn disgyblion.”

Cyhoeddir y papur, Pupil Mental Health, Concerns and Expectations About Secondary School as Predictors of Adjustment Across the Transition to Secondary School: A Longitudinal Multi‑informant Study, yn Springer Nature.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd