Mynd i'r cynnwys
Home »  Partner Gwerthuso Cymru Iach ar Waith

 Partner Gwerthuso Cymru Iach ar Waith

Prif Ymchwilwyr

Dr Jemma Hawkins

Cyd-ymchwilwyr

Dr Sara Long, yr Athro G.J. Melendez-Torres, Dr Kelly Morgan, yr Athro Simon Murphy, Mr Jordan Van Godwin


Cefndir

Mae pandemig COVID-19 wedi newid yn sylweddol y ffordd mae pobl yn gweithio ac wedi symud y dirwedd weithio yn y dyfodol, gydag uchelgais hirdymor Llywodraeth Cymru i draean o weithwyr Cymru weithio adref neu’n agos at adref (Llywodraeth Cymru, 2020). O ystyried y newidiadau hyn, ac effaith y pandemig ar iechyd a lles a chyfradd absenoldeb salwch Cymru, sy’n parhau i fod yn uwch na chyfartaledd y DU ar 2.2% (ONS, 2021), mae’n hanfodol deall iechyd a lles yn y gweithle i lywio camau gweithredu ynghylch iechyd y boblogaeth yn y dyfodol. Mae Cymru Iach ar Waith (HWW), sef rhaglen a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), yn cefnogi sefydliadau i greu gweithleoedd iach a diogel a hyrwyddo iechyd a lles cadarnhaol.

Cyn y pandemig, dechreuwyd ar waith i adolygu ac addasu’r model cyflwyno ar gyfer rhaglen Cymru Iach ar Waith, gan gynnwys cryfhau mesur effaith a chanlyniadau’r rhaglen. Er mwyn cyflawni hyn, cyhoeddodd ICC alwad am gynigion i nodi partner gwerthuso i gefnogi datblygiad offer asesu anghenion ar-lein ar gyfer mesur iechyd a lles y gweithlu a pharodrwydd y gweithle i hyrwyddo iechyd a lles. Yn dilyn yr alwad, cafodd ymchwilwyr o’r Ganolfan Datblygu, Gwerthuso, Cymhlethdod a Gweithredu mewn Gwella Iechyd Cyhoeddus (DECIPHer) eu contractio fel y partner gwerthuso i gefnogi’r gwaith hwn.


Nodau ac Amcanion

Ers 2019, mae DECIPHer ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) / Cymru Iach ar Waith (HWW) wedi bod yn cydweithio i ddatblygu offer asesu anghenion iechyd a lles ar-lein i ddeall, llywio a gwerthuso iechyd y boblogaeth yng Nghymru drwy waith rhaglen Cymru Iach ar Waith. Rhagwelwyd y byddai dau offeryn yn cael eu creu i gyflogwyr unigol eu defnyddio gyda’i gilydd i lywio eu camau gweithredu ar iechyd a lles: 1) offeryn ‘gweithiwr’ i asesu iechyd a lles y gweithlu a 2) offeryn ‘cyflogwr’ i asesu parodrwydd gweithle i hyrwyddo iechyd a lles. Mae tri darn o waith, a ariennir gan ICC, wedi’u cynnal hyd yn hyn gyda’r amcanion canlynol:

Amcanion astudiaeth 1:       

  • Archwilio safbwyntiau ac anghenion cyflogwyr yng Nghymru i sefydlu meysydd blaenoriaeth i’w hasesu o fewn yr offer ar-lein;
  • Cynnal archwiliad o ddulliau i amlygu mesurau addas i’w cynnwys yn yr offer ar-lein.

Amcanion astudiaeth 2:

  • Creu fersiynau drafft o’r offer ar-lein a chynnal profion peilot gyda chyflogwyr Cymru a’u gweithwyr i lywio gwaith mireinio a dylunio’r offer yn derfynol.

Amcanion astudiaeth 3:

  • Archwilio’r posibilrwydd o greu meincnodau cenedlaethol o ffynonellau data sefydledig a phresennol i eistedd ochr yn ochr â data o’r offeryn gweithwyr fel pwynt cymharu mewn adroddiadau teilwredig o’r offer a ddarperir i gyflogwyr.

Dyluniad yr Astudiaeth

Astudiaeth 1: I lywio cynnwys a dyluniad yr offeryn ar-lein, cynhaliwyd cyfweliadau ffôn lled-strwythuredig gyda chynrychiolwyr o gyflogwyr yng Nghymru, a samplwyd yn bwrpasol i ddarparu amrywiaeth o ran maint, sector a diwydiant. Defnyddiwyd dadansoddiad thematig i nodi blaenoriaethau a phryderon iechyd a lles ar draws cyflogwyr a dichonoldeb yr offer arfaethedig. Ochr yn ochr â hyn, cynhaliwyd trosolwg o adolygiadau systematig o ymyriadau iechyd yn y gweithle i nodi mesurau dibynadwy a dilys o iechyd a lles yn y gweithle i’w defnyddio yn yr offer a fapiwyd yn ôl blaenoriaethau cyflogwyr a nodwyd yn y cyfweliadau, ynghyd â mesurau ychwanegol a nodwyd trwy ymgynghori yn ehangach.

Astudiaeth 2: Cafodd cynnwys yr offer ar-lein ei grynhoi  mewn fformat drafft ar gyfer profion cychwynnol. Cafodd y mesurau eu cyfuno yn fformat arolwg ar-lein gyda’r nod o brofi’r offer gyda hyd at 200 o weithwyr ar draws 10 sefydliad. Gweinyddwyd y ddau offeryn drwy feddalwedd Online Surveys a gymeradwywyd gan Brifysgol Caerdydd. Crëwyd dau offeryn; Offeryn ‘gweithiwr’ i asesu iechyd a lles y gweithlu ac offeryn ‘cyflogwr’ i asesu parodrwydd gweithle i hyrwyddo iechyd a lles. Roedd y canlyniadau allweddol a aseswyd o fewn y cyfnod profi yn cynnwys cyfraddau ymateb cyffredinol, cyfraddau cwblhau mesur/eitem unigol, asesu effeithiau llawr a nenfwd, dilysu strwythur ffactor y mesurau perthnasol sydd wedi’u cynnwys ac adborth ansoddol ar brofiad y defnyddiwr o gwblhau’r offer.

Astudiaeth 3: Mae’r prosiect hwn yn defnyddio dulliau desg sy’n cynnwys mynediad at, a dadansoddiad o, feta-ddata a geiriaduron data arolwg, ac ymgynghori â thimau dylunio a dadansoddi arolygon, o ffynonellau’r arolwg o eitemau a ddefnyddir yn yr offer ar-lein. Bydd y data o’r ffynonellau hyn yn cael ei adolygu er mwyn sicrhau addasrwydd creu meincnod cenedlaethol i eistedd ochr yn ochr â data yn adroddiadau’r offer.


Mwy o wybodaeth a chyhoeddiadau

Mae adroddiad Astudiaeth 1 ac Astudiaeth 2 ar gael yma: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/cymru-iach-ar-waith/adroddiadau/

Erthygl DECIPHer: https://decipher.uk.net/news/healthy-working-wales-to-launch-evaluation-tools/


Dyddiad dechrau

1 Chwefror 2019

Dyddiad gorffen

Parhaus

Cyllidwyr

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Swm

Astudiaeth 1: £29,749

Astudiaeth 2: £19,215

Astudiaeth 3: £38,096