Mynd i'r cynnwys
Home » Sut Gall Rhanddeiliaid Ysgolion Uwchradd Lywio Rhaglenni Iechyd?

Sut Gall Rhanddeiliaid Ysgolion Uwchradd Lywio Rhaglenni Iechyd?

  • Flog

Y Cydymaith Ymchwil Hayley Reed Sy’n Archwilio Cyd-gynhyrchu Mewn Lleoliad Ysgol

Hayley Reed

Beth yw’r broblem?


Mae ymdrechion i newid iechyd pobl ifanc mewn ysgolion wedi dibynnu ar gynnal rhaglenni safonol gyda’r un gweithgareddau’n cael eu darparu ym mhob ysgol. Mae’r rhaglenni hyn wedi wynebu heriau gan eu bod wedi cael eu datblygu gan ddefnyddio syniadau’r ymchwilwyr o sut i newid iechyd, a dydyn nhw ddim yn hyblyg i anghenion ysgolion unigol.

Oherwydd yr heriau hyn, mae ymdrech wedi bod i ddatblygu rhaglenni drwy eu cyd-gynhyrchu â rhanddeiliaid ysgolion (disgyblion, athrawon, ac uwch reolwyr). Mae hyn yn golygu mai’r bobl yn yr ysgol sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch pa broblemau iechyd ddylid eu targedu (gosod problemau) a sut gellid eu newid (datrys problemau). Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y nifer a’r mathau o raglenni cyd-gynhyrchu ag ysgolion, ac mae rhywfaint o dystiolaeth gynnar addawol yn dangos eu bod yn gallu gwneud newid cadarnhaol i iechyd disgyblion.

Beth yw’r ymchwil?


Gan fod ansicrwydd ynghylch y gwahanol fathau o raglenni a gyd-gynhyrchwyd a oedd yn cael eu defnyddio mewn ysgolion, a beth oedd barn rhanddeiliaid amdanynt, roedd rhan gyntaf o’r ymchwil PhD hwn yn canolbwyntio ar adolygu beth oedd eisoes wedi’i wneud. Chwiliais am yr holl erthyglau ac adroddiadau ymchwil cyhoeddedig lle roedd rhaglenni ysgolion wedi cynnwys disgyblion (o leiaf) mewn gwaith gosod a datrys problemau. Gan ddechrau gyda 37,976 o gyhoeddiadau posib, cawsant eu gwirio yn erbyn y meini prawf gan arwain at 30 o bapurau, a thua 22 o wahanol astudiaethau, a ddefnyddiodd dulliau cyd-gynhyrchu gyda disgyblion ysgol. Yn y gyfres hon o bapurau, roedd gan 23 ohonyn nhw, a oedd yn seiliedig ar 18 astudiaeth, wybodaeth am brofiadau rhanddeiliaid o gymryd rhan mewn prosiectau cyd-gynhyrchu.

Beth yw’r gwahanol fathau o ddulliau o gyd-gynhyrchu a ddefnyddir mewn ysgolion i newid iechyd?


Ar ôl dadansoddi’r papurau, roedd yn amlwg bod gwahanol fathau o ddulliau cyd-gynhyrchu eisoes wedi’u defnyddio.

Galwyd y cyntaf yn Adeiladu Capasiti Allanol, gan ei fod yn cynnwys ymchwilydd/ymarferydd yn datblygu eu dealltwriaeth o fframwaith cyfranogi, a’i gynnal gyda rhanddeiliaid ysgolion fel bod modd gosod a datrys problemau.

Galwyd yr ail yn Adeiladu Capasiti ar Lefel Unigol, a oedd yn canolbwyntio ar staff ysgol neu weithwyr ieuenctid yn hyfforddi disgyblion fel ymchwilwyr, fel bod modd iddyn nhw ymchwilio i weld beth oedd y problemau iechyd yn yr ysgol, ac awgrymu newidiadau.

Enw’r math olaf oedd Adeiladu Capasiti ar Lefel System, gan ei fod yn cynnwys sefydlu Grwpiau Gweithredu Ymchwil o ddisgyblion, staff, a rhieni neu aelodau o’r gymuned hyd yn oed. Cefnogwyd y grwpiau gan hwylusydd allanol a data a oedd eisoes wedi’i gasglu am iechyd disgyblion yr ysgol, er mwyn penderfynu ar flaenoriaethau iechyd a’u datrysiadau.

Er bod gwahanol fathau, roedd rhywfaint o debygrwydd yn y prosesau a ddefnyddiwyd. Fel y dangosir uchod, roedd pob math yn cynnwys rhywfaint o adeiladu capasiti i uwchsgilio neu gynyddu dealltwriaeth cyn gosod a datrys problemau. Yn ogystal, aeth llawer o’r astudiaethau drwy broses recriwtio i ymgysylltu â rhanddeiliaid, a defnyddiodd rhai astudiaethau dasgau datblygu grŵp i ddatblygu cydlyniant grŵp. Yn olaf, yn y rhan fwyaf o astudiaethau roedd prosesau a oedd yn galluogi penderfynwyr yr ysgol i benderfynu a allen nhw fabwysiadu a gweithredu’r datrysiadau a argymhellwyd. Serch hynny, dim ond rhai o’r astudiaethau o’r rhaglenni a werthuswyd a arweiniodd at newidiadau yn nealltwriaeth neu iechyd disgyblion.

Beth oedd barn y rhanddeiliaid am gyd-gynhyrchu?


Roedd amrywiaeth o ran safbwyntiau pwy a gofnodwyd, gyda safbwyntiau disgyblion, athrawon, gweithwyr ieuenctid/hwyluswyr allanol, aelodau o’r Uwch Dîm Rheoli ac ymchwilwyr oll yn ymddangos mewn papurau.

Yn gyffredinol, roedd pawb a oedd yn rhan o bob math o gyd-gynhyrchu yn fodlon gyda’u cyfranogiad, ac yn croesawu cyfle i fod yn rhan o benderfyniadau ysgolion am iechyd. Serch hynny, roedd amrywiaeth o ran pa mor hawdd oedd cynnal cyd-gynhyrchu mewn gwahanol gyd-destunau ysgol. Er enghraifft, pa mor hawdd oedd cynnwys cwricwlwm ymchwil o fewn amser ac adnoddau addysgu, neu ba mor hawdd oedd recriwtio’r rhai y tu allan i’r ysgol i Grwpiau Gweithredu Ymchwil. Mae angen i ymchwilwyr feddwl am y meysydd hyn cyn cynnal rhaglen gyd-gynhyrchu yn y dyfodol.

Roedd y brif broblem yn ymwneud â faint o ryddid oedd gan ddisgyblion i wneud dewisiadau yn ystod y prosesau gosod a datrys problemau. Canfuwyd bod eu syniadau’n cael eu cyfyngu mewn ffyrdd cynnil wrth i hwyluswyr lywio disgyblion at syniadau mwy realistig, ac mewn ffyrdd amlwg wrth i benderfynwyr mewn ysgolion wrthod mabwysiadu syniadau disgyblion. Roedd y data ar hyn yn brin, felly byddai mwy o waith sy’n canolbwyntio ar hyn yn helpu i’w ddeall yn fwy.

Beth nesaf?


Cynhaliwyd yr adolygiad hwn fel rhan o brosiect PhD sydd bellach wedi datblygu Grwpiau Gweithredu Ymchwil (Adeiladu Capasiti ar Lefel System) mewn dwy ysgol, a gwerthuso eu cynnydd. Roedd y grwpiau hyn yn defnyddio data o brosiect ffotograffiaeth a gynhaliwyd yn yr ysgolion gan yr ymchwilydd PhD, ac Adroddiad Iechyd a Lles Disgyblion unigol yr ysgolion a ddatblygwyd drwy ymatebion dysgwyr i’r arolwg Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion. Mae’r gwerthusiad hwn yn canolbwyntio’n rhannol ar y bylchau a ganfuwyd yn yr adolygiad i ddeall sut mae’r broses gwneud penderfyniadau wedi’i chyfyngu, a sut gallai cyd-destunau gwahanol ysgolion helpu neu rwystro’r ffordd caiff cyd-gynhyrchu ei weithredu.

Efallai y bydd gennych ddiddordeb mewn darllen y papur llawn: Reed, H.et al. 2020. Co-production as an emerging methodology for developing school-based health interventions with students aged 11-16: Systematic review of intervention types, theories and processes and thematic synthesis of stakeholders’ experiences. Prevention Science (10.1007/s11121-020-01182-8).

Cyllid


Ariennir y PhD gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).

Cefnogaeth


Cefnogwyd yr adolygiad gan DECIPHer, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Cefnogwyd y gwerthusiad gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN).

Cyflwyniad Hayley: Co-production as an emerging methodology for developing school-based health interventions with students aged 11-16. Cyflwynwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Medi 2021.

Lawrlwytho