Mynd i'r cynnwys
Home » Adferiad Teulu ar ôl Cam-drin Domestig (FReDA): Treial dichonoldeb a gwerthusiad proses nythog o ymyrraeth seico-addysgol grŵp i blant sydd wedi dod i gysylltiad â thrais a cham-drin domestig

Adferiad Teulu ar ôl Cam-drin Domestig (FReDA): Treial dichonoldeb a gwerthusiad proses nythog o ymyrraeth seico-addysgol grŵp i blant sydd wedi dod i gysylltiad â thrais a cham-drin domestig

Prif Ymchwilydd


Doctor Emma Howarth (Prifysgol Caergrawnt)


Cefndir


Mae tystiolaeth gref bod cysylltiad plant â thrais a cham-drin domestig (DVA) yn gysylltiedig â nam mewn iechyd corfforol a meddyliol yn ystod plentyndod a phan fyddant yn oedolion. Mae cefnogaeth gynyddol o ran polisi cyhoeddus ar gyfer darparu ymyriadau i leihau dioddefaint a baich clefydau sy’n gysylltiedig â DVA, a mwy o bwyslais ar wella canlyniadau iechyd meddwl ar gyfer grwpiau o blant sy’n agored i niwed, a buddsoddi ynddynt. Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth am ymyriadau cost effeithiol sy’n atal neu’n cyfyngu ar ganlyniadau iechyd meddwl gwael mewn plant sydd wedi dod i gysylltiad â DVA.

Yn y DU, mae’n arfer sefydledig i gynnig ymyriadau seico-addysgol i blant sydd wedi dod i gysylltiad â DVA. Mae’r Rhaglen Grwpiau Cymunedol (CGP), yn arbennig, wedi ennill ei phlwyf mewn rhai ardaloedd. Er bod gwerthusiad gwasanaeth yn awgrymu ei fod yn dderbyniol, nid oes dealltwriaeth gref o ba raddau y gellir gweithredu’r rhaglen yn llwyddiannus ac ni wyddys i ba raddau y mae’n gwella canlyniadau i blant. Mae angen treialon sydd wedi’u cynllunio’n dda ac wedi’u gweithredu’n ofalus ar frys i brofi perthnasedd ymyriadau addawol yng nghyd-destun y DU, ac i werthuso’r ymyriadau hynny, fel y CGP, a ddarperir amlaf, ond nad oes ganddynt gefnogaeth empirig ar hyn o bryd.


Nodau ac Amcanion


Nod yr astudiaeth a gynigiwn yw darganfod a oes modd cynnal astudiaeth arbrofol, neu dreial, i gymharu a yw plant sy’n cymryd rhan yn y CGP yn gwneud yn well na phlant tebyg sy’n derbyn y cymorth a fyddai ar gael iddynt fel arfer. Am y rheswm hwn, mae’n cael ei galw yn astudiaeth ddichonoldeb. Mae angen yr astudiaeth fel cam cyntaf gan nad ydym yn siŵr a fyddai teuluoedd neu’r bobl sy’n gweithio gyda nhw yn fodlon cefnogi treial lle mai dim ond rhai plant a mamau sy’n gallu cael mynediad at y rhaglen yr ydym yn ei phrofi.

NOD 1: Gwerthuso a ellir gweithredu’r CGP yn ffyddlon mewn lleoliadau yn y DU.

NOD 2: Darparu’r wybodaeth angenrheidiol i werthuso dichonoldeb a chynllun treial diffiniol.


Dyluniad yr Astudiaeth


YMYRRAETH A LLEOLIAD: Rhaglen seico-addysgol 12 wythnos dan arweiniad, wedi’i llywio gan drawma, i blant a’u gofalwyr benywaidd. Yn cael ei darparu gan weithwyr proffesiynol o wahanol ddisgyblaethau, mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol. Anogir plant i adnabod, enwi ac archwilio teimladau ynghylch DVA, datblygu strategaethau ymdopi addasol ac adeiladu rhwydweithiau cyfoedion. Mae sesiynau cyfochrog ar gyfer merched sy’n rhoi gofal yn eu helpu i gefnogi eu plant i ddod i delerau â’u profiadau. Ar hyn o bryd mae gofalwyr gwrywaidd sy’n ddioddefwyr wedi’u heithrio o’r ymyriad.

DULL: i) Grŵp dichonoldeb, paralel, pragmatig, treial ar hap wedi’i reoli’n unigol (RCT) gyda prosesau sefydledig a gwerthusiadau economaidd. ii) Is-astudiaeth ansoddol wedi’i nythu i archwilio derbynioldeb CGP mewn egwyddor i ofalwyr gwrywaidd sydd wedi dioddef.

CYFRANOGWYR: i) Plant 7-11 oed a’u gofalwyr benywaidd (n=64 clystyrau teulu) sydd wedi’u cyfeirio at un o ddau safle cynnal sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd agored i niwed. Bydd teuluoedd sy’n cydsynio yn cael eu rhannu ar hap i un o ddau grŵp triniaeth – gofal arferol gyda mynediad llawn at wasanaethau presennol (grŵp rheoli), neu ofal arferol ynghyd â CGP (grŵp ymyrraeth). Bydd cyfranogwyr yn cwblhau mesurau astudio ar y llinell sylfaen, yna chwe mis a 12 mis ar ôl cael eu rhannu ar hap. Cesglir data meintiol ac ansoddol i werthuso dichonoldeb a derbynioldeb y dulliau ymyrryd a threialu, ac i archwilio sut y gall gweithredu amrywio fel swyddogaeth cyd-destun. ii) N=15 o ofalwyr gwrywaidd sy’n ddioddefwyr a nodwyd gan asiantaethau cymunedol neu sydd mewn cysylltiad ag asiantaethau cynnal.

CANLYNIADAU: Dyfarniad o ddichonoldeb treial llawn, wedi’i asesu yn erbyn meini prawf dilyniant a ragnodwyd.

LLINELL AMSER: 28 mis o hyd. Bydd yr astudiaeth yn dechrau ym mis Medi 2019 gyda’r nod o recriwtio dros gyfnod o 12 mis o fis Ebrill 2020.

EFFAITH A LLEDAENU: Mae’r astudiaeth hon yn gam hanfodol tuag at RCT mwy, a bydd yn darparu gwybodaeth bwysig am y broses o weithredu ymyriadau iechyd cyhoeddus mewn systemau cymunedol cymhleth.


Dyddiad dechrau

Jan 2020

Dyddiad gorffen

May 2022

Arianwyr

NIHR

Swm

£635,077.95