Mynd i'r cynnwys
Home » (FLOURISH) Hyrwyddo Iechyd Gydol Oes sy’n Canolbwyntio ar Deuluoedd a’r Glasoed

(FLOURISH) Hyrwyddo Iechyd Gydol Oes sy’n Canolbwyntio ar Deuluoedd a’r Glasoed

Prif Ymchwilwyr (yn nhrefn yr wyddor)

Yr Athro Dr. Nevena Calovska, Cymdeithas y Ganolfan Addysg Therapyddion Systemig

Dr. Rhiannon Evans, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Dr. Heather Foran, Prifysgol Klagenfurt

Yr Athro Nina Heinrichs, Prifysgol Bielefeld

Dr. Galina Lesco, Cymdeithas Iechyd i Ieuenctid

Yr Athro Graham Moore, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Marija Raleva, ALTERNATIVA

Yr Athro Judit Simon, Prifysgol Feddygol Fienna

Dr. Yulia Shenderovich, Prifysgol Caerdydd

Yr Athro Bojan Shimbov, Prifysgol Jaume I Castellon


Cyd Ymchwilwyr (yn nhrefn yr wyddor)

Yr Athro Maite Alguacil, Prifysgol Jaume I Castellon

Viorel Babii, Cymdeithas Iechyd i Ieuenctid

Dr. Slavica Gajdadzis-Knezhevikj, ALTERNATIVA

Janina Müller, Prifysgol Klagenfurt

Bethan Pell, Prifysgol Caerdydd

Dr. Antonio Piolanti, Prifysgol Klagenfurt

Franziska Waller, Prifysgol Klagenfurt

Dennis Wienand, Prifysgol Feddygol Fienna


Cefndir

Mae pobl ifanc yn Nwyrain Ewrop yn wynebu risgiau lluosog i’w hiechyd meddwl a’u llesiant am sawl rheswm, gan gynnwys tlodi, anghydraddoldeb, a phrofiadau niweidiol eraill, sydd bellach wedi’u gwaethygu gan y gwrthdaro parhaus yn Wcráin. Mae’r teulu’n chwarae rhan hanfodol fel clustog bosibl rhag y risgiau hyn. Fodd bynnag, mae ymchwil ar ddulliau wedi’u llywio gan dystiolaeth o gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc sy’n fforddiadwy ac yn graddadwy mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig yn dal i fod yn gyfyngedig.

Mae iechyd meddwl yn fwy nag absenoldeb problemau iechyd meddwl. Mae’r glasoed cynnar yn gyfnod allweddol i iechyd gan ei fod yn gyfnod o newidiadau corfforol, emosiynol, a chymdeithasol enfawr ac yn gyfnod penodol o ddatblygiad yr ymennydd. Y glasoed cynnar hefyd yw’r oedran pan ddaw tua hanner problemau iechyd meddwl i’r amlwg. Mae dulliau magu plant sy’n cynnig cynhesrwydd ac ymreolaeth wedi bod yn gysylltiedig ag ymddygiadau iach mewn plant a phobl ifanc, megis cwsg hirach ac o ansawdd gwell, ymddygiadau maethiad a deietegol iachach a gweithgarwch corfforol, yn ogystal â gwell iechyd meddwl, megis llai o symptomau iselder a gorbryder. Mae monitro rhieni a chyfathrebu am ymddygiadau risg, fel defnyddio sylweddau, wedi’i gysylltu â chyfraddau is o ymddygiadau risg ymhlith y glasoed.

Bydd y pecyn ymyrraeth yn adeiladu ar y rhaglen mynediad agored ‘Parenting for Lifelong Health for Parents and Teens’. Bydd y rhaglen deuluol hon yn cael ei chyfuno mewn pecyn gwasanaeth gyda chydrannau eraill i gryfhau sgiliau glasoed ar gyfer llesiant, megis datrys problemau.

Mae ‘Parenting for Lifelong Health’ (PLH) yn gyfres o ymyriadau cymdeithasol-ymddygiadol seiliedig ar grwpiau ar lefel unigolion a theuluoedd. Mae PLH yn seiliedig ar dystiolaeth ynglŷn â’r cydrannau sy’n gysylltiedig â chanlyniadau cadarnhaol mewn arferion rhianta, cyfathrebu gofalwr-glasoed, a chanlyniadau eraill ymhlith teuluoedd. Datblygwyd PLH gan ganolbwyntio ar ddichonoldeb gweithredu, ar y cyd rhwng ymchwilwyr, Sefydliad Iechyd y Byd ac UNICEF, i ddiwallu angen hybu iechyd plant a glasoed ac atal trais yn erbyn plant mewn Gwledydd Incwm Isel a Chanolig. Mae’r rhaglenni wedi’u cynllunio i gael eu cyflawni gan staff heb gefndir proffesiynol penodol, ac mae llawlyfrau rhaglenni ar gael am ddim o dan drwyddedu Creative Commons.


Nodau

Nod FLOURISH yw optimeiddio a gwerthuso effeithiolrwydd, costeffeithiolrwydd, a gweithredu Parenting for Lifelong Health for Parents and Teens ar raddfa. Prif amcanion y prosiect yw:

Addasu

Addasu rhaglen Parenting for Lifelong Health for Parents and Teens a’i weithredu o fewn systemau darparu cynaliadwy ym Moldofa a Gogledd Macedonia;

Optimeiddio

Optimeiddio’r pecyn ymyrraeth i nodi’r cydrannau mwyaf costeffeithiol a graddadwy;

Profi

Gwerthuso gweithrediad a chanlyniadau’r rhaglen wedi’i haddasu a’i optimeiddio;

Ymestyn

Datblygu strategaeth gyfathrebu ac asesu lledaeniad ac effaith y gweithgareddau cyfathrebu ar gyfer teuluoedd, gweithredwyr, a rhanddeiliaid polisi.


Dyluniad yr Astudiaeth

Bydd FLOURISH yn cynnwys pedair astudiaeth cydgysylltiedig i fynd i’r afael ag amcanion y prosiect.

Cam 1

Bydd Cam 1 yn canolbwyntio ar addasu’r rhaglen i gyd-destun newydd, gan dreialu’r rhaglen wedi’i haddasu, ac archwilio’r dewis o amodau ar gyfer y treial ffactoraidd (Cam 2). Byddwn ni’n archwilio’r newidiadau diwylliannol y gallai fod eu hangen ar y rhaglen, gan gynnal dilysrwydd y ddamcaniaeth newid. Wrth addasu’r ymyrraeth, byddwn yn cael ein harwain drwy sicrhau ei fod mor raddadwy â phosibl o fewn y systemau cyflenwi yn Moldofa a Gogledd Macedonia. Byddwn ni’n ffurfio pedwar grŵp cynghori: (1) grwpiau cynghori gyda glasoed, (2) rhieni, (3) gweithredwyr, (4) arbenigwyr proffesiynol eraill. Bydd pob un o’r grwpiau hyn yn cwrdd am ymgynghoriad i nodi addasiadau i’r rhaglen ac i ddarparu adborth. Yn seiliedig ar yr ymgynghoriadau ym mhob gwlad, bydd addasiadau’r rhaglen yn cael eu nodi a’u gweithredu.

Yn ail, bydd yr ymyrraeth a addaswyd yn cael ei dreialu gyda theuluoedd sydd â glasoed ifanc rhwng 10-14 oed. Bydd y cyfnod peilot yn cynnwys casglu data meintiol ac ansoddol gyda glasoed, rhieni a hwyluswyr cyn ac ar ôl y rhaglen. Bydd (1) yn profi dichonoldeb y rhaglen ddiwygiedig, (2) yn cynhyrchu deunyddiau ymyrraeth a’r ddamcaniaeth newid wedi’u diweddaru, a (3) yn archwilio a pharatoi’r elfennau i’w profi yng Ngham 2.

Cam 2

Yng Ngham 2, bydd treial ffactoraidd wyth cyflwr yn cael ei ddefnyddio i ddewis y pecyn triniaeth mwyaf effeithiol a chosteffeithiol yng nghyfnod arbrofi ffactoraidd y Cam. Bydd y strategaeth recriwtio, y meini prawf cynhwysiant a gwahardd, a’r mesurau a brofwyd yng Ngham 1 yn cael eu haddasu yn seiliedig ar y canlyniadau sy’n gysylltiedig â dichonoldeb dylunio a mesur seicometreg a byddant yn cael eu defnyddio yng Ngham 2 a 3. Bydd y Cam yn cynnwys mesurau cyn ac ôl-raglen o’r canlyniadau cynradd ac eilaidd.

Cwestiynau ymchwil ar gyfer y cyfnod ffactoraidd:

O Sut mae ymgysylltiad cyfranogwyr a chanlyniadau teuluol yn amrywio gyda chydran iechyd meddwl a heb gydran iechyd meddwl?

O Sut mae ymgysylltiad cyfranogwr a chanlyniadau teuluol yn amrywio wrth ddarparu’r rhaglen gyda’r elfen cymorth cyfoedion glasoed (gyda /heb)?

O A yw ychwanegu atgyfnerthiad i gyfranogiad y glasoed yn arwain at gyfraddau uwch o ymgysylltiad cyfranogwyr a gwelliannau mewn canlyniadau, o’i gymharu â’r amodau heb atgyfnerthiad?

Cam 3

Yng Ngham 3, bydd hap-dreial rheoli effeithiolrwydd gweithredu hybrid yn cael ei ddefnyddio i brofi’r pecyn ymyrraeth a ddewiswyd yng Ngham 2. Bydd y saib rhwng darpariaeth y grŵp ymyrraeth a darpariaeth y grŵp ar y rhestr aros yn cael ei ddefnyddio i wneud unrhyw addasiadau terfynol i’r pecyn rhaglen, os oes angen. Bydd y mesurau gweithredu a chanlyniadau yn gyson â Cham 1. Yn ogystal, yng Ngham 3 byddwn yn ychwanegu arolwg ar gyfer gofalwyr ar ddefnyddio gwasanaethau iechyd a chymdeithasol iddyn nhw eu hunain a’u glasoed, i gymharu defnydd gwasanaeth y grŵp ymyrraeth a’r grŵp ar y rhestr aros. Mae llawer o raglenni’n tueddu i ganolbwyntio ar un canlyniad – ond gall rhaglenni rhianta effeithio ar ganlyniadau lluosog a bod yn fector o ganlyniadau glasoed a gofalwyr. Bydd FLOURISH yn edrych ar gosteffeithiolrwydd ar gyfer canlyniad penodol, ond hefyd yn amlinellu’r holl fuddion ychwanegol.


Bydd pecynnau gwaith FLOURISH yn gweithio ar draws y pedair astudiaeth a meysydd ffocws sy’n benodol i wasanaethau. Mae mwy o wybodaeth am y rhain ar gael ar wefan FLOURISH: https://www.flourish-study.org/work-packages.html

Pecyn Gwaith 1: Datblygu a chyd-gynhyrchu: addasu’r ymyrraeth i optimeiddio derbynadwyedd, graddadwyedd, ac effeithiolrwydd ar iechyd meddwl ieuenctid

Pecyn Gwaith 2: Gweithredu’r rhaglen: cyflwyno pecyn y rhaglen ym Moldofa a Gogledd Macedonia

Pecyn Gwaith 3: Rheoli data, asesu canlyniadau a dadansoddiadau data: canlyniadau meintiol a adroddwyd gan deuluoedd a staff

Pecyn Gwaith 4: Asesu gweithredu a dadansoddi data: dangosyddion meintiol gweithredu rhaglenni a data ansoddol

Pecyn Gwaith 5: Dadansoddiadau economaidd iechyd: cost a chosteffeithiolrwydd pecyn y rhaglen

Pecyn Gwaith 6: Cyfathrebu ac effaith: cyfathrebu â’r cyhoedd, ymarferwyr, llunwyr polisïau, ymchwilwyr

Pecyn Gwaith 7: Cydlynu a rheoli: integreiddio gweithgareddau a chanfyddiadau


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau

Gwefan https://www.flourish-study.org/


Dyddiad dechrau

Ionawr 2023

Dyddiad gorffen

Rhagfyr 2026

Arianwyr

Horizon Europe ac Ymchwil ac Arloesi yn y DU

Swm

3,000,000 EUR