Mynd i'r cynnwys
Home » Gweithredu a Gwerthuso Proses o Raglenni Ymyrraeth Trais yn Ysbytai De Cymru (PREVIP)

Gweithredu a Gwerthuso Proses o Raglenni Ymyrraeth Trais yn Ysbytai De Cymru (PREVIP)

Prif Ymchwilydd


Yr Athro Simon Moore


Cyd-ymchwilwyr


Jordan Van Godwin; Prof Graham Moore; Dr David O’Reilly


Cynorthwy-ydd Ymchwil


Meg Hamilton


Cefndir


Mae trais yn bryder iechyd cyhoeddus byd-eang a all arwain at nifer o effeithiau negyddol gydol oes ar bobl gan gynnwys risg uwch o broblemau iechyd ymddygiadol, emosiynol a chorfforol. Mae trais hefyd yn achosi baich sylweddol ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau iechyd ac adrannau brys. Mae ffocws sylweddol yn y DU ar geisio lleihau trais gyda Strategaeth Trais Difrifol y Swyddfa Gartref (2018) yn pwysleisio’r angen am weithio mewn partneriaeth a bod gan wasanaethau eraill gyfrifoldeb am atal trais. Mae’n ofynnol felly i sefydliadau fel gofal iechyd a’r heddlu gydweithio i helpu i atal trais.

Mae Adrannau Achosion Brys (EDau) mewn ysbytai wedi’u nodi fel lleoliad pwysig ar gyfer atal trais. Mae hyn oherwydd bod gan staff mewn adrannau achosion brys fynediad at bobl sydd wedi’u hanafu’n ddifrifol oherwydd trais. Bydd y rhai sydd ag anafiadau difrifol fel arfer yn mynd yn syth i’r Adran Achosion Brys ac felly ni fydd yr heddlu a gwasanaethau eraill, sydd hefyd yn ymwneud ag atal trais, yn ymwybodol o’u hamgylchiadau. Mae’n bosibl y gall rhaglenni atal trais mewn adrannau brys leihau’r siawns y bydd pobl yn dod yn ddioddefwyr eto. Ysgogodd hyn yr heddlu a phartneriaid gofal iechyd yn Ne Cymru i sefydlu Timau Atal Trais (VPT) mewn dwy Adran Achosion Brys. Arweinir y VPTau gan staff nyrsio, sy’n nodi cleifion sy’n mynychu adrannau brys oherwydd trais. Mae’r nyrsys yn gweithio gyda’r cleifion hynny i nodi’r rhesymau pam y maent wedi bod yn agored i drais ac maent yn cefnogi ac yn cyfeirio cleifion at sefydliadau o fewn a thu allan i’r GIG a all gynnig cymorth ychwanegol.


Rhesymeg, Nodau ac Amcanion


Er bod ymyriadau atal trais yn cael eu sefydlu’n rheolaidd mewn adrannau brys, nid oes unrhyw werthusiadau manwl wedi’u cynnal i ganfod sut ac a ydynt yn gweithio. Mae ein tîm ymchwil, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi’i ariannu gan y Gronfa Gwaddol Ieuenctid (YEF) i werthuso’r VPTau yn Ne Cymru. Ein nod yw deall sut mae’r VPTau wedi’u sefydlu a sut maent yn gweithio ar hyn o bryd. Rydym hefyd yn anelu at ddeall pa effaith y mae’r VPTau yn ei chael ar yr ecoleg atal trais, gan gynnwys staff clinigol eraill. Oherwydd mae’n debyg y bydd VPTau yn gweithio orau os ydynt yn ymateb i anghenion lleol, byddwn yn archwilio’r tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y timau yn y ddwy adran.


Cwestiynau Ymchwil


Rydym wedi datblygu naw cwestiwn ymchwil cynradd a dau gwestiwn ymchwil eilaidd ar gyfer y gwerthusiad proses hwn. Cynhyrchwyd y cwestiynau ymchwil ar y cyd â phartneriaid rhanddeiliaid allweddol: YEF; y Swyddfa Gartref; yr Uned Atal Trais (VPU) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC).

Ein prif gwestiynau ymchwil yw:

  1. I ba raddau y mae VPTau wedi ymwreiddio o fewn systemau ysbytai ehangach?
  2. I ba raddau y mae gweithredwyr yn cadw at y model cyflawni arfaethedig?
  3. Faint o’r ymyriad arfaethedig sydd wedi’i ddarparu?
  4. Pa mor dda y mae gwahanol gydrannau’r ymyriad yn cael eu darparu?
  5. I ba raddau y mae cyrhaeddiad yr ymyriad yn cwmpasu’r holl achosion brys sy’n gysylltiedig ag ymosodiad?
  6. I ba raddau y mae cleifion yn ymgysylltu â’r ymyriad?
  7. Sut y datblygwyd llwybrau atgyfeirio yn yr ysbyty ar gyfer cleifion, ac i ba raddau y cefnogwyd cleifion ar draws cyfnodau pontio sefydliadol?
  8. Beth yw’r angen canfyddedig am yr ymyriad a’r budd ohono ymhlith y gweithredwyr a rhanddeiliaid cysylltiedig?
  9. Pa strategaethau ac arferion a ddefnyddir i gefnogi gweithrediad o ansawdd uchel?

Ein cwestiynau ymchwil eilaidd yw:

  1. Pa addasiadau a wnaed i ddefnyddio model VPT yn Abertawe yn dilyn ei sefydlu yng Nghaerdydd, a pham?
  2. Beth yw barn rhanddeiliaid ar y mathau o leoliadau y mae’r model yn debygol o fod yn fwy neu’n llai trosglwyddadwy iddynt?

Dyluniad yr Astudiaeth


I ateb ein cwestiynau ymchwil, bydd ein gwerthusiad proses yn cynnwys y camau canlynol:

  1. Adolygiad cwmpasu o ymyriadau gofal brys ar gyfer y rhai sy’n profi trais a’r mecanweithiau achosol sylfaenol o drais.
  2. Dadansoddi dogfennau o ddeunyddiau gan gynnwys disgrifyddion rôl ar gyfer aelodau’r VPTau a Gweithdrefnau Gweithredu Safonol ysbytai, yn enwedig y rhai sy’n canolbwyntio ar reoli anafiadau sy’n gysylltiedig ag ymosodiadau.
  3. Dadansoddiad disgrifiadol o ddata ED arferol (dienw a chyfun) sy’n ymwneud â chleifion (oedran, rhyw) a chymharu cyfraddau canfod ac ymgysylltu VPT o anafiadau sy’n gysylltiedig ag ymosodiad â nifer y mynychwyr ED heb eu trefnu ag anafiadau sy’n gyson ag ymosodiad.
  4. Cynnal cyfweliadau ansoddol gyda 60 o randdeiliaid sy’n ymwneud ag ecoleg atal trais ledled De Cymru, gan gynnwys y rhai sy’n gweithio gyda’r VPTau ac ar eu rhan.

Effaith Bosibl


Y gobaith yw y bydd ein gwerthusiad yn cael ei ddefnyddio i:

  1. Deall sut mae’r VPTau wedi cael eu datblygu, eu gweithredu a’u darparu.
  2. Nodi beth sy’n gweithio’n dda ac a ellid gwella unrhyw beth gyda’r VPTau.
  3. Hysbysu penderfyniadau llunwyr polisi ynghylch a ellid defnyddio’r VPTau yn ymarferol mewn adrannau achosion eraill yn y DU a sut.

Lledaenu syniadau ac adnoddau


Prif allbwn diwedd astudiaeth yr ymchwil hwn fydd Adroddiad Ymchwil YEF. Byddwn hefyd yn trafod lledaenu a defnyddio canfyddiadau ein hymchwil gyda’n cyllidwr wrth i’r astudiaeth fynd yn ei blaen ac yn dilyn hyn bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei rannu â phartneriaid polisi ac ymarfer allweddol. Bydd allbynnau pellach yn cynnwys papur protocol a phapur ymchwil a adolygir gan gymheiriaid yn disgrifio prif ganlyniadau’r gwerthusiad hwn.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau


I ddod


Dyddiad dechrau

01/09/2022

Dyddiad gorffen

30/11/2023

Arianwyr

Youth Endowment Fund

Swm

£128,438