Mynd i'r cynnwys
Home » Prosiect SAMA (Addasiad Ymyrraeth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn yr Ysgol)

Prosiect SAMA (Addasiad Ymyrraeth Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn yr Ysgol)

Prif Ymchwilydd


Dr. Hayley Reed

Mentor

Yulia Shenderovich


Cefndir


Yng Nghymru, mae 19 y cant o bobl ifanc yn adrodd am symptomau iechyd meddwl uwch ond heb fod yn glinigol. Mae’r bobl ifanc hyn wedi cael eu galw’n ‘y canol coll’ ac maent yn wynebu problemau wrth gael mynediad at ofal iechyd meddwl gan nad ydynt yn cyrraedd trothwyon diagnostig ac yn aml yn cael eu ‘bownsio’ rhwng gwasanaethau wrth geisio cymorth. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y problemau hyn ac yn ei gwneud yn statudol i ysgolion ymgorffori Dull Ysgol Gyfan (WSA) ar gyfer lles meddyliol yn 2021. Mae dyletswydd ar ysgolion i gynnig amrywiaeth o gymorth gan gynnwys rhaglenni wedi’u targedu ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o broblemau mwy difrifol. Mae bodloni’r gofynion hyn yn anodd i ysgolion oherwydd nid oes tystiolaeth glir bod rhaglenni’r DU yn gwneud gwahaniaeth hirdymor i’r rheiny â symptomau iechyd meddwl uwch ond is-glinigol. Yn fyd-eang, mae ymyriadau’n bodoli sy’n lleihau problemau iechyd meddwl disgyblion ysgol uwchradd, a gellid addasu’r rhain i Gymru.


Nodau


Deall yr hyn sydd ei angen i fynd i’r afael ag iechyd meddwl pobl ifanc mewn ysgolion yng Nghymru ar gyfer y ‘canol coll’, dewis ymyriad effeithiol sy’n cyd-fynd â’r anghenion hyn, a gwneud argymhellion ar sut i’w addasu i Gymru.


Dyluniad yr Astudiaeth


Mae hwn yn brosiect ymchwil amlgyfnod, wedi’i gyd-gynhyrchu. Bydd Cam 1 yn asesu’r rhesymeg dros ymyrryd, yn dewis yr ymyriad mwyaf priodol i’w addasu i Gymru, ac yn mynegi damcaniaeth newid yr ymyriadau. Bydd Cam 2 yn cynllunio addasiadau i’r ymyriad.

Bydd Cam 1 yn cynnwys y dulliau canlynol. Yn gyntaf, bydd dogfennau sy’n gysylltiedig â pholisi Cymreig a thystiolaeth ymchwil sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl y glasoed a gyhoeddwyd yn ystod y pum mlynedd diwethaf yn cael eu dadansoddi i ddeall y cyd-destun presennol yng Nghymru (o ran anghenion y canol coll a’r gwasanaethau a ddarperir eisoes) a chynhyrchu elfennau drafft sy’n debygol o effeithio ar orbryder ac iselder pobl ifanc mewn ysgolion ar gyfer y rheiny ag anghenion is-glinigol (sut y gallai rhaglenni wedi’u targedu edrych i gefnogi’r bobl ifanc hyn yng Nghymru). Bydd grwpiau ffocws a chyfweliadau rhanddeiliaid yn ychwanegu at y data hyn am y cyd-destunau Cymreig ac yn lleoli elfennau rhaglen drafft newydd neu’n eu mireinio. Yn ail, gan ddefnyddio’r elfennau a geir fel meini prawf chwilio, bydd adolygiad cyflym yn lleoli ymyriadau gyda detholiad yn dibynnu ar effeithiolrwydd a hygyrchedd. Yn olaf, bydd astudiaeth achos o’r ymyriad a ddewiswyd yn darparu dealltwriaeth o’r model ymyrryd, y cyd-destun y caiff ei gyflwyno, ac ystyriaethau gweithredu.

Bydd Cam 2 yn defnyddio proses addasu cyfranogol i lunio argymhellion o’r addasiadau sydd eu hangen i gyflawni’r ymyriad yng Nghymru, a model ymyrraeth cynhwysfawr.

Grwpiau Cynghori: Mae Grŵp Ymgynghori ar yr Astudiaeth (SAG) wedi’i ddatblygu a fydd yn cynnwys nifer o academyddion/cynghorwyr gwyddonol, cynrychiolwyr polisi ac ymarfer a fydd yn adolygu’r modd y caiff y cynllun ymchwil ei gyflwyno ac yn cynghori ar faterion sy’n dod i’r amlwg drwy gydol yr astudiaeth.

Bydd dau Grŵp Cynghori Pobl Ifanc (YPAG) sefydledig o ganolfan ymchwil DECIPHer (grŵp ALPHA) a Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cymryd rhan mewn pedair sesiwn yr un trwy gydol y prosiect.

Ymgymerir â’r prosiect hwn mewn cydweithrediad â Chanolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc.


Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau

Ymchwil ar iechyd meddwl pobl ifanc yn gobeithio atal plant rhag ‘disgyn drwy’r bwlch’


£6.4 miliwn i gefnogi ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol yng Nghymru
– Erthygl Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru


Dyddiad dechrau


01/10/2022

Dyddiad gorffen


29/10/2025

Arianwyr


Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Cymrodoriaeth Iechyd

Swm


£431,747.00