Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Amgylchiadau A Sefydliadau Iach » Treial PHaCT: Atal Digartrefedd, gwella iechyd i bobl sy’n ymadael â’r carchar: Hap-dreial rheoli peilot ar gyfer ymyriad Amser Critigol

Treial PHaCT: Atal Digartrefedd, gwella iechyd i bobl sy’n ymadael â’r carchar: Hap-dreial rheoli peilot ar gyfer ymyriad Amser Critigol

Prif Ymchwilydd


Jim Lewsey


Cyd-ymchwilwyr


James White, Yvonne Moriarty, Rebecca Cannings-John, Peter Mackie, Ian Thomas (Caerdydd), Vittal Katikireddi, Manuela Deidda (Glasgow), Suzanne Fitzpatrick (Heriot Watt), Hannah Green (Arbenigwr Profiad Byw), Iolo Madoc-Jones (Glyndŵr)


Cefndir


I bobl sy’n ymadael â’r carchar, mae mynd yn rhan o’r gymuned unwaith eto’n broses anodd weithiau. Mae cam-drin sylweddau, iechyd meddwl gwael, ffactorau a’r sefyllfa bersonol megis lefelau isel llythrennedd ac absenoldeb rhwydwaith cymorth sefydlog, yn ogystal â diffyg tai fforddiadwy a chyfleoedd cyflogaeth, yn golygu eu bod mewn perygl arbennig o fod yn ddigartref. Mae absenoldeb llety sefydlog yn cael effaith ddinistriol ar iechyd – mae pobl ddigartref yn fwy agored na’r boblogaeth gyffredinol i ddioddef o glefydau heintus ac anhrosglwyddadwy, problemau iechyd meddwl (gan gynnwys camddefnyddio alcohol a sylweddau), mae ganddyn nhw gyfraddau uwch o orfod cael eu derbyn ar frys i’r ysbyty ac mae’r lles a’r safon bywyd sy’n gysylltiedig â’u hiechyd yn llai.


Nodau ac Amcanion


Cynnal hap-dreial rheoli (RCT) peilot mewn pedwar carchar i ddynion i benderfynu a oes angen Ymyrraeth Amser Critigol (CTI) RCT dan arweiniad tai ar raddfa lawn yn y dyfodol i asesu yr effeithiolrwydd a’r cost-effeithiolrwydd .


Diwyg yr Astudiaeth

  • Sefydlu’r prosiect.
  • Cyflwyno hyfforddiant y treial a recriwtio cyfranogwyr.
  • Cynnal cynllun peilot RCT mewn pedwar carchar (casglu data gwaelodlin; hap-ddewis y sawl i gymryd rhan; casglu’r data dilynol).
  • Dadansoddi’r treial (gwerthuso’r prosesau; dadansoddi’r canlyniadau’n ystadegol; cwmpasu a phrofi’r cysylltiadau rhwng y data; gwerthusiad economaidd).
  • Ysgrifennu a lledaenu’r canfyddiadau.

Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau

Tudalen astudio NIHR


Dyddiad dechrau


01/03/2022

Dyddiad gorffen


29/02/2024

Arianwyr


NIHR/PHR

Swm


£868,705.00