Mynd i'r cynnwys
Home » Ymchwil » Rhaglenni » Amgylchiadau A Sefydliadau Iach » Treial SWIS (gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion): Gwerthuso gwaith cymdeithasol mewn ysgolion

Treial SWIS (gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion): Gwerthuso gwaith cymdeithasol mewn ysgolion

Prif Ymchwilydd


David Westlake


Cyd-ymchwilwyr

Dr. James White, yr Athro Donald Forrester, Dr. Philip Pallmann, Dr. Fiona Lugg-Widger, yr Athro Stavros Petrou


Cefndir


Yn dilyn tri threial addawol, bydd yr astudiaeth yn gwerthuso ymyriad SWIS ar raddfa fwy i weld sut mae’n cael effaith ar rai deilliannau addysg a gofal cymdeithasol pwysig. Byddwn hefyd yn cael gwybod rhagor am sut mae’r ymyriad yn gweithio ac yn amrywio.

Mae perthynas ryngasiantaethol bwysig rhwng maes addysg a maes gofal cymdeithasol plant, ac mae’r ddau faes yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gadw plant yn ddiogel a hyrwyddo eu lles. Mae llunwyr polisïau wedi bod â mwyfwy o ddiddordeb mewn nodi ffydd o wella sut mae’r ddau faes yn cydweithio i ymateb i bryderon sy’n ymwneud â diogelu a sicrhau diogelwch plant, ac yng nghyd-destun COVID-19, mae’r ymdrechion hyn yn debygol o ddwysáu.

Mae SWIS yn ymyriad addawol. Y syniad canolog yw y gall sawl budd ddeillio o gael gweithiwr cymdeithasol sy’n gysylltiedig ag ysgol uwchradd ac sy’n gweithio ar y safle. Yn benodol, mae’n ceisio gwella’r gwasanaeth a ddarperir i blant a theuluoedd, gwella gwaith rhyngasiantaethol, lleihau risgiau i blant a sicrhau deilliannau gwell.


Nodau ac Amcanion


Bydd gweithwyr cymdeithasol yn gweithio mewn ysgolion ar draws 21 o awdurdodau lleol yn Lloegr, a bydd yr astudiaeth yn gwerthuso effaith yr ymyriad drwy gymharu deilliannau rhwng ysgolion sydd â gweithiwr cymdeithasol a’r rhai sy’n parhau yn ôl yr arfer heb weithiwr cymdeithasol ar y safle. Bydd ysgolion yn cael eu dewis ar hap o gronfa o ysgolion a gynigiwyd gan yr awdurdodau lleol i gael gweithiwr cymdeithasol, a hynny er mwyn i ni allu bod yn hyderus bod unrhyw wahaniaethau a welir i’w priodoli i’r ymyriad ac nid gwahaniaeth arall rhwng y grwpiau.


Cynllun yr Astudiaeth


Y prif ddeilliant y byddwn yn ei brofi yw Ymholiadau Amddiffyn Plant (Adran 47), ond byddwn hefyd yn dadansoddi deilliannau addysg a gofal cymdeithasol eraill i weld pa effaith y mae’r ymyriad wedi’i chael ar y rhain. Mae’r astudiaeth hefyd yn cynnwys gwerthusiad economaidd, a fydd yn cyfrifo costau’r ymyriad, ac elfen gweithredu a phrosesu a fydd yn ymchwilio i sut a pham mae’r ymyriad yn gweithio fel y mae.

Rhagor o wybodaeth a chyhoeddiadau
Bydd prif adroddiad yr astudiaeth yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2023, ynghyd ag adroddiad byr ar gam-drin domestig sy’n ymchwilio i enghreifftiau o ymarfer lle mae cam-drin domestig yn cael sylw, yn ogystal â gwybodaeth, agweddau ac arferion staff ysgol mewn perthynas â’r broblem hon. Bydd adroddiad dilynol terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2024.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau cyffredinol ynghylch yr astudiaeth hon, ebostiwch: SWISTrial@caerdydd.ac.uk

Tudalen astudiaethau CASCADE

Treial SWIS (gweithwyr cymdeithasol mewn ysgolion): Protocol treial hapsamplu rheolyddedig pragmataidd o waith cymdeithasol mewn ysgolion (Plos One, 2022)

The Social Workers in Schools (SWIS) Trial: an Evaluation of School-based Social Work What Works for Children’s Social Care (WWCSC), 2023


Dyddiad dechrau


Medi 2020

Dyddiad gorffen


Ionawr 2024

Arianwyr


What Works for Children’s Social Care

Swm


£468,902.00