Mynd i'r cynnwys

Prif Ymchwilwyr

Yr Athro Graham Moore; Doctor Rhiannon Evans


Y Cefndir


Yn ystod y degawdau diwethaf, mae corff cynyddol o werthusiadau wedi gwella ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio neu nad yw’n gweithio o ran gwella iechyd y boblogaeth. Gallai defnyddio ymyriadau sydd â sail dystiolaeth flaenorol, ar gyfer cyd-destunau newydd, fod yn fwy effeithlon na datblygu ymyriadau newydd ar gyfer pob cyd-destun.

Fodd bynnag, mae gweithredu ymyriadau, a’u heffeithiau, yn aml braidd yn ddibynnol ar y cyd-destun. Er bod rhai yn trosglwyddo’n dda, mae nifer cynyddol o enghreifftiau o ymyriadau effeithiol nad ydynt wedi gweithio o’u rhoi ar waith mewn cyd-destunau eraill.

Ceir cydnabyddiaeth gynyddol bod angen addasu yn aml wrth ddefnyddio ymyriadau mewn cyd-destun newydd. Fodd bynnag, nid yw’n aml yn eglur o astudiaethau cyhoeddedig pam y dewiswyd ymyriadau penodol i’w defnyddio mewn cyd-destun newydd, sut neu pam y gwnaed addasiadau penodol a goblygiadau’r addasiadau hyn o ran y ffordd mae ymyriadau’n gweithio.

Wedi’i hariannu gan banel Rhaglen Ymchwil Methodoleg Y Cyngor Ymchwil Feddygol ( MRC)/ a Sefydliad Cenedlaethol yr Ymchwil i Iechyd (NIHR), mae astudiaeth ADAPT wedi datblygu canllawiau newydd ar gyfer ymchwilwyr, arianwyr a llunwyr polisïau o ran sut i wneud penderfyniadau ynghylch:

  1. Cynnwys rhanddeiliaid mewn gwaith addasu;
  2. Dewis ymyriad addas ar sail tystiolaeth i’w addasu;
  3. Cynllunio a gwneud addasiadau;
  4. Gwerthuso ymyriadau sydd wedi’u haddasu;
  5. Gweithredu ymyriadau wedi’u haddasu mewn ymarfer arferol;
  6. Adrodd ar brosesau a chanlyniadau addasu.

Cynllun yr astudiaeth


Ategwyd y gwaith o ddatblygu canllawiau gan dri phecyn gwaith allweddol:

  1. Adolygiad systematig o ganllawiau presennol ac adolygiad cwmpasu o arfer wrth addasu ymyriadau ar gyfer cyd-destunau newydd;
  2. Cyfweliadau ansoddol ag ymchwilwyr, arianwyr, golygyddion cyfnodolion a rhanddeiliaid ym maes polisi ac ymarfer ynghylch arferion cyfredol a chyfeiriadau ar gyfer y dyfodol;
  3. Proses gonsensws arbenigol, gan gynnwys tair rownd o e-DELPHI a chyfres o gyfarfodydd ar-lein gydag arbenigwyr rhyngwladol i drafod drafft o’r canllawiau.

Mae fersiwn 1.0 o’n canllawiau llawn bellach ar gael i’w lawrlwytho isod. Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru hwn yn dilyn adolygiad gan gymheiriaid o’r erthygl sy’n crynhoi’r gwaith mewn cyfnodolyn. Cysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu adborth, nawr neu wrth i chi ddechrau defnyddio’r canllawiau.

Graham Moore, Mhairi Campbell, Lauren Copeland, Peter Craig, Ani Movsisyan, Pat Hoddinott, Hannah Littlecott, Alicia O’Cathain, Lisa Pfadenhauer, Eva Rehfuess, Jeremy Segrott, Penelope Hawe, Frank Kee, Danielle Couturiaux, Britt Hallingberg, Rhiannon Evans (2020)


Gwybodaeth Bellach a Chyhoeddiadau


Cynhaliwyd astudiaeth ADAPT ar y cyd rhwng DECIPHer (cyd-ymchwilwyr: Dr Hannah Littlecott, Dr Jeremy Segrott a’r Athro Simon Murphy), Prifysgol Ludwig-Maximilian Munich (cyd-ymchwilwyr yr Athro Eva Rehfuess a Dr Lisa Pfadenhauer), Uned Gwyddorau Cymdeithasol ac Iechyd Cyhoeddus MRC/CSO ym Mhrifysgol Glasgow (cyd-ymchwilwyr: Dr Peter Craig a’r Athro Laurence Moore), Prifysgol Sheffield (cyd-ymchwilydd: Yr Athro Alicia O’Cathain) a Phrifysgol Stirling (cyd-ymchwilydd: Yr Athro Pat Hoddinott).

Penodwyd Dr Ani Movsisyan a Dr Laura Arnold ar gyfer y pecyn gwaith adolygu systematig yn LMU Munich, a phenodwyd y Doctor Lauren Copeland ar gyfer y pecyn gwaith cyfweld ansoddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Penodwyd Dr Mhairi Campbell ar gyfer y gwaith DELPHI, ym Mhrifysgol Glasgow.

Roedd yr Athro Frank Kee (Prifysgol y Frenhines, Belfast), Dr Julie Bishop (Iechyd Cyhoeddus Cymru), Dr Andrew Booth (Prifysgol Sheffield), yr Athro Frances Gardner (Prifysgol Rhydychen) a’r Athro Penny Hawe (Prifysgol Sydney) yn rhan o’r grŵp cynghori ar yr astudiaeth.

Rydym wedi cyhoeddi’r erthyglau canlynol o astudiaeth ADAPT:

Adapting population health interventions for new contexts: qualitative interviews understanding the experiences, practices and challenges of researchers, funders and journal editors
BMJ Open (2022)
Copeland, L; Littlecott, H; Couturiaux, D; Hoddinott, P; Segrott, J; Murphy, S; Moore, G; Evans, R

The what, why and when of adapting interventions for new contexts: A qualitative study of researchers, funders, journal editors and practitioners’ understandings
Plos One (2021)
Copeland, L., Littlecott, H., Couturiaux, D., Hoddinott, P., Segrott, J., Murphy, S., Moore, G., Evans, R.

Adapting evidence-informed population health interventions for new contexts: a scoping review of current practice
Health Research Policy and Systems (2021)
Movsisyan, A., Arnold, L., Copeland, L., Evans, R., Littlecott, H., Moore, G., O’Cathain, A., Pfadenhauer, L., Segrott, J., Rehfuess, E.

How can we adapt complex population health interventions for new contexts? Progressing debates and research priorities. 
Journal of Epidemiology & Community Health (2020)
Evans, R., Moore, G., Movsisyan, A., Rehfuess, E

ADAPT study: adaptation of evidence-informed complex population health interventions for implementation and/or re-evaluation in new contexts: protocol for a Delphi consensus exercise to develop guidance 
BMJ Open (2020)
Campbell, M., Moore, G., Evans, R., Khodyakov, D., Craig, P

Adapting evidence-informed complex population health interventions for new contexts: a systematic review of guidance 
Implementation science (2019)
Movsisyan, A., Arnold, L., Evans, R., Hallingberg, B,. Moore, G., O’Cathain, A., Pfadenhauer, L., Segrott, J., Rehfuess, E

When and how do ‘effective’ interventions need to be adapted and/or re-evaluated in new contexts? The need for guidance
Journal of Epidemiology & Community Health (2019)
Evans, R., Craig, P., Hoddinott, P., Littlecott, H., Moore, L., Murphy, S., O’Cathain, A., Pfadenhauer, L., Rehfuess, E., Segrott, J., Moore, G


GWYLIO: Rhoddwyd y cyflwyniad hwn ar 8 Mehefin 2021 yn y gynhadledd Ymchwil Gwasanaethau Iechyd.