Yn ôl adroddiad, roedd un o bump o bobl ifanc yng Nghymru yn profi iechyd meddwl gwael cyn COVID-19

Datgelodd adroddiad gan Brifysgol Caerdydd fod bron 1 o bob 5 (19%) person ifanc yng Nghymru wedi nodi lefelau uchel o symptomau iechyd meddwl cyn pandemig COVID-19.

Mae Arolwg Iechyd a Lles Disgyblion a gynhelir bob dwy flynedd gan Rwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHRN) yn mesur iechyd a lles pobl ifanc ym mlynyddoedd 7 i 11.

Mae ei ganlyniadau diweddaraf, a gasglwyd rhwng Medi a Rhagfyr 2019 gan tua 120,000 o bobl ifanc, yn dangos bod merched yn fwy tebygol na bechgyn o roi gwybod am symptomau cryfach o iechyd meddwl, gyda gwahaniaeth sylweddol rhwng y rhywiau yn dod i’r amlwg erbyn blwyddyn 10.

Yr unigolion hynny o deuluoedd llai cefnog oedd mwyaf tebygol o roi gwybod am symptomau cryfach o broblemau iechyd meddwl, yn ogystal â phobl ifanc nad oedd yn ystyried eu hunain yn fachgen na’n ferch.

Nododd cyfran sylweddol o bobl ifanc lefel uchel iawn o symptomau ar ddechrau eu hamser yn yr ysgol uwchradd. Serch hyn, cynyddodd ymhellach gydag oedran; nododd 12% o ddisgyblion ym mlwyddyn 7 lefel uchel iawn o symptomau ac yna cododd i 22% ym mlwyddyn 11.

‘Mae gwir berygl bod yr anghydraddoldebau a oedd yn bresennol cyn y cyfnod clo cyntaf wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.’

Yr Athro Simon Murphy, DECIPHer

Dywedodd yr Athro Simon Murphy, Cyfarwyddwr y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd ac arweinydd SHRN: “Mae’r canlyniadau hyn, a gasglwyd ychydig cyn dechrau pandemig COVID-19, yn dangos bod llawer o bobl ifanc yn profi iechyd meddwl gwael eisoes, yn ogystal ag amrywiaeth o broblemau eraill ynglŷn â’u hiechyd a’u lles.

“Mae gwir berygl bod yr anghydraddoldebau a oedd yn bresennol cyn y cyfnod clo cyntaf wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae angen i’r gwaith o fuddsoddi mewn cefnogaeth ar gyfer adfer plant a phobl ifanc ar ôl y pandemig, a gwrthdroi effaith y pandemig ar anghydraddoldebau iechyd, fod yn brif flaenoriaeth ym maes iechyd y cyhoedd dros y blynyddoedd sydd i ddod.”

Dangosodd yr arolwg, sy’n gofyn amrywiaeth eang o gwestiynau am fywydau disgyblion, fod tri chwarter y bobl ifanc yn cytuno bod yna aelod o staff yn eu hysgol y gallant ymddiried ynddo (71%) a’u bod yn teimlo eu bod yn cael eu derbyn gan eu hathrawon (74%).

Cytunodd y rhan fwyaf o bobl ifanc (67%) fod cefnogaeth gan eu hysgol i ddisgyblion sy’n teimlo’n anhapus, sy’n poeni neu sy’n methu ymdopi. Serch hyn, roedd disgyblion ym mlwyddyn 11 yn llawer llai tebygol na’r rhai ym mlwyddyn 7 i gytuno bod cefnogaeth ar gael (54% yn erbyn 83%).

Roedd bron un o bob pump (17%) o bobl ifanc yn bodloni’r canllawiau argymelledig ar gyfer ymarfer corff, sef o leiaf 60 munud y dydd.

Dywedodd un o bob dau o bobl ifanc eu bod yn bwyta brecwast bob dydd o’r wythnos, tra nododd tua un o bob pedwar (24%) nad oeddent yn bwyta brecwast yn ystod yr wythnos.

Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol, os nad ydym yn ofalus, gall pwysau gynyddu arnynt oherwydd y pwyslais ar ‘ddal i fyny’ ac ar y gwaith dysgu a gollwyd.’


Yr Athro Graham Moore
, DECIPHer

Roedd merched yn fwy tebygol na bechgyn o gael eu seiberfwlio, ond yn llai tebygol na’r rhai hynny nad oedd yn ystyried eu hunain yn fachgen na’n ferch, lle nododd dros ddau o bob pump (42%) ohonynt eu bod wedi cael eu seiberfwlio yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.

Dywedodd yr Athro Graham Moore o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw rhyngweithio â chyfoedion ac athrawon ar gyfer gwaith dysgu, datblygu a lles pobl ifanc. Amharwyd yn sylweddol ar y rhain wrth i’r ysgolion gau’n ddiweddar i’r rhan fwyaf o ddisgyblion.

“Wrth i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol, os nad ydym yn ofalus, gall pwysau gynyddu arnynt oherwydd y pwyslais ar ‘ddal i fyny’ ac ar y gwaith dysgu a gollwyd.

“Bydd ein harolwg nesaf, yr ydym yn disgwyl ei gynnal yn hwyrach yn y flwyddyn, yn rhoi cyfle i ni drafod yn fanylach sut mae bywydau a phrofiadau pobl ifanc wedi newid ers i’r pandemig ddechrau.”

Mae SHRN yn ymgorffori’r holl ysgolion uwchradd a gynhelir yng Nghymru a hwn oedd y rhwydwaith cyntaf o’i fath yn y byd. Gwahoddir pob ysgol i gymryd rhan yn yr Arolwg Iechyd a Lles Disgyblion, gyda thua 70% o blant ysgolion uwchradd wedi’u harolygu yn 2019.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd. Partneriaeth yw SHRN rhwng y Ganolfan Datblygu a Gwerthuso Ymyriadau Cymhleth ym maes Gwella Iechyd y Cyhoedd (DECIPHer) ym Mhrifysgol Caerdydd, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymchwil Canser y DU. Caiff ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yr adrannau Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru a gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dewislen