Skip to content

Beth wnaethon ni ei wella?

Roedd ALPHA ynghlwm wrth gam cyntaf Treial Jack. Roedd hyn yn cynnwys mireinio ymyriadau a throsglwyddo derbynioldeb ymyriadau y tu allan i Ogledd Iwerddon yn nhair gwlad arall y DU.

Beth yw diben yr astudiaeth?

Mae Sefydliad Iechyd y Byd ac awduron nifer o adolygiadau systematig yn cydnabod bod gan fechgyn yn eu harddegau rôl bwysig sy’n cael ei hanghofio o ran lleihau beichiogrwydd yn ystod arddegau, a bod galw mawr am ymyriadau addysgol wedi’u dylunio’n benodol ar eu cyfer nhw. Gall merched yn eu harddegau sy’n dod yn feichiog yn annisgwyl wynebu problemau emosiynol ac ymarferol yn ogystal â risgiau i’w hiechyd. Gall iechyd a lles bechgyn yn eu harddegau hefyd gael eu heffeithio gan feichiogrwydd annisgwyl, ac mae gan ddynion ifanc rôl bwysig iawn er mwyn osgoi hyn.

Beth Wnaethon Ni?

Ymunodd ALPHA â phobl ifanc eraill o bob gwlad ar gyfer arhosiad preswyl o benwythnos. Nod y cyfarfod preswyl hwn oedd ceisio barn ac adborth ar y Ddrama Fideo Ryngweithiol wreiddiol, “If I were Jack”. Helpodd adborth ALPHA ac adborth y bobl ifanc eraill i ddiweddaru’r Ddrama Fideo Ryngweithiol i ffilmio dau fideo newydd sy’n fwy berthnasol yn ddiwylliannol i bobl ifanc yn eu harddegau heddiw. Roedd y penwythnos yn cynnwys grwpiau ffocws rhyngweithiol, gweithdai a dadleuon gyda’r nod o gasglu data ansoddol. Dyluniwyd y gweithdai hyn i annog trafodaethau manwl a diddorol, ac roeddent yn caniatáu i bawb oedd wedi dod leisio’u barn.

Beth sydd wedi digwydd ers hynny?

Ers y cyfnod preswyl, mae Treial Jack wedi symud ymlaen i gam dau. Mae’r cam hwn yn cynnwys hapdreialon rheoledig clwstwr a ariennir gan NIHR mewn ysgolion ôl-gynradd ledled y DU gyda phrosesau a gwerthusiad iechyd economaidd wedi’u hymgorffori. Bydd 66 o ysgolion ôl-gynradd yn cymryd rhan, gydag ysgolion yn cael eu dewis ar hap. Bydd bob disgybl sy’n cymryd rhan ynghlwm wrth yr astudiaeth am oddeutu 19 mis, a bydd gofyn iddynt lenwi holiadur – ar y gwaelodlin ac 18 mis yn ddiweddarach.