Beth wnaethon ni wella?
Mae ALPHA yn un o bedwar o sefydliadau Partner Ieuenctid TRIUMPH sy’n cefnogi’r rhwydwaith. Helpodd i recriwtio grŵp amrywiol o 16 o bobl ifanc o bob rhan o’r DU i greu’r Grŵp Cynghori Ieuenctid (GCI). Mae’r grŵp hwn yn sicrhau bod pobl ifanc yn chwarae rhan ystyrlon mewn digwyddiadau, gweithgareddau ac ymchwil TRIUMPH.
Beth yw diben yr astudiaeth?
Mae TRIUMPH (Ymchwil Trawsddisgyblaeth ar gyfer Gwella Iechyd Cyhoeddus Meddwl ymysg yr Ieuenctid) yn un o wyth o Rwydweithiau Iechyd Meddwl UKRI newydd gafodd eu lansio ar 1 Rhagfyr 2018. Mae TRIUMPH yn gweithio gyda phobl ifanc, ymarferwyr iechyd, llunwyr polisïau a sefydliadau gwirfoddol er mwyn dod o hyd i ffyrdd newydd o wella iechyd meddwl a lles, yn enwedig ymysg poblogaethau difreintiedig.
Beth Wnaethon Ni?
Ym mis Mehefin 2019, sefydlodd ALPHA cyfnod preswyl TRIUMPH cyntaf. Darllenwch fwy am hyn yma.
Trefnodd ALPHA weithdy ar 12 Tachwedd 2019 er mwyn pennu’r agenda yn Nhŷ Portland ym Mae Caerdydd. Bu i’r gweithdy, a lansiwyd gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, ddwyn ynghyd arbenigwyr o’r maes iechyd meddwl ieuenctid o bob rhan o Gymru. Darllenwch ragor amdano yma.
Rhagor o ddigwyddiadau i ddod – cadwch lygad ar ein blog a’r tudalennau newyddion!