Mynd i'r cynnwys
Home » DECIPHER I GYDWEITHREDU AR GANOLFAN YMCHWIL ARLOESOL YNGLŶN AG IECHYD MEDDWL Y GLASOED

DECIPHER I GYDWEITHREDU AR GANOLFAN YMCHWIL ARLOESOL YNGLŶN AG IECHYD MEDDWL Y GLASOED

Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau pryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.

Bydd y Ganolfan, sydd wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd, yn canolbwyntio ar ymchwil ryngddisgyblaethol. Bydd arbenigwyr yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgol ac ysgolion ledled Cymru.

Yn dilyn cais llwyddiannus gan Brifysgol Caerdydd, bydd y Ganolfan yn cael £10m o gyllid gan Sefydliad Wolfson. Fe’i harweinir gan yr Athro Frances Rice a’r Athro Stephan Collishaw o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, ar y cyd â DECIPHer, Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe ac eraill. Mae’r Athro Simon Murphy, Dr Graham Moore, Dr Jemma Hawkins a Dr Honor Young, sydd wedi’u lleoli yn DECIPHer, yn Gyd-Ymchwilwyr ar gyfer y dyfarniad.

Bydd Canolfan Wolfson yn canolbwyntio ar bum maes gwyddonol:

  • Bydd yn archwilio data hydredol sy’n olrhain plant dros amser i gael dealltwriaeth well o sut mae pryder ac iselder yn datblygu.
  • Bydd yn ystyried rôl ffactorau genetig ac amgylcheddol mewn pryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
  • Bydd yn datblygu ymyrraeth newydd i gynorthwyo pobl ifanc a theuluoedd pan fydd rhiant yn dioddef iselder.
  • Bydd yn ystyried rôl ysgolion wrth hybu iechyd meddwl cadarnhaol ymhlith pobl ifanc.
  • Gan weithio ar y cyd ag arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, bydd yn defnyddio gwybodaeth sydd ar gael yn unigryw yng Nghymru i gael dealltwriaeth well o ganlyniadau tymor hir y bobl ifanc hynny sy’n profi pryder ac iselder.

Amlinellodd Cyfarwyddwr DECIPHer, yr Athro Simon Murphy, sut y bydd DECIPHer yn cyfrannu ei harbenigedd at y Ganolfan: ‘Mae tîm DECIPHer yn gyffrous iawn ynglŷn â bod yn rhan allweddol o waith Canolfan Wolfson. Byddwn yn arwain rhaglen waith y ganolfan ar sut gall ysgolion hybu iechyd meddwl a lleihau pryder ac iselder ymhlith pobl ifanc. Mae ein hanes o weithio gyda phobl ifanc a pholisi ac ymarfer i ddatblygu a gwerthuso ymyriadau effeithiol sy’n fuddiol i iechyd y boblogaeth yn gryfder mawr. Byddwn hefyd yn gweithio gyda’n Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion a Llywodraeth Cymru i werthuso effaith genedlaethol polisi iechyd meddwl ysgol gyfan sydd ar ddod.’

Mae rhagor o wybodaeth am y Ganolfan ar gael ymahttps://bit.ly/2orMtqT

Mae rhagor o wybodaeth am Sefydliad Wolfson ar gael ymahttps://bit.ly/2owzpka